Naw rheswm pam y mae angen llais ar fasnach ar fudiadau gwirfoddol

Mehefin 1, 2022

Y newid yn yr hinsawdd, iechyd, hawliau dynol, dim ond rhai o’r meysydd a allai gael eu heffeithio gan gytundebau masnach newydd y DU yw’r rhain. Dyma Charles Whitmore ac Aileen Burmeister i egluro mwy.

[Gwnaeth y blog yma ymddangos ar wefan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru].

Pan ymadawodd y DU â’r Undeb Ewropeaidd, dychwelodd y cyfrifoldeb dros negodi cytundebau masnach o’r UE i’r DU. Gallai mudiadau blaenorol yn y DU ddibynnu ar gymdeithas sifil Ewrop a gwarantau ar lefel Ewropeaidd i gefnogi cytundebau masnach moesegol.

Er nad yw’n berffaith o bell ffordd, mae gan yr UE broses ar gyfer ymgynghori â mudiadau gwirfoddol ar ei drafodaethau masnach ac mae’n ceisio defnyddio’r rhain i gefnogi safonau amgylcheddol, iechyd, hawliau dynol, llafur a datblygu cynaliadwy.

Ond mae’r DU mewn cyfnod tyngedfennol. Heb gynnwys y sector gwirfoddol, gallai cytundebau masnach newydd y DU roi llawer o feysydd y mae’r sector yn ceisio’u datblygu mewn perygl. Ond gallai dull gweithredu cynhwysol, newydd sy’n cynnwys y sector gwirfoddol ailffurfio masnach fel cyfrwng i fynd ati’n rhagweithiol i gyflawni amcanion yn y meysydd newid hinsawdd, datblygu cynaliadwy a hawliau dynol.

Felly dyma naw rheswm pam ddylai’r sector gwirfoddol gael llais ar fasnach.

  1. GWNEUD CYNNYDD AR Y NEWID YN YR HINSAWDD, YR AMGYLCHEDD A LLES ANIFEILIAID 

Gall cytundebau masnach ddylanwadu ar y cynnydd a wneir ar amrywiaeth o nodau gwyrdd. Maen nhw’n chwarae rôl mewn allyriadau gan eu bod yn dylanwadu ar y math o nwyddau, a faint o nwyddau, caiff eu cludo a gallant effeithio ar safonau lles anifeiliaid drwy ganiatáu i gynnyrch llai ystyriol o lesiant ddod i mewn i’r DU.

Gallai cytundebau masnach newydd y DU ganiatau i fusnesau mawr ein hatal rhag gwneud cynnydd ar ein nodau hinsawdd, amgylcheddol neu les anifeiliaid. Fodd bynnag, mae cyfleoedd i wneud cynnydd ar y nodau hyn drwy fasnach hefyd, a gall y sector gwirfoddol helpu i gyflawni hyn.

  1. GALL MASNACH EFFEITHIO AR IECHYD POBL 

Gallai cytundebau masnach newydd y DU roi iechyd a lles pobl yn y glorian, ac mae hyn yn torri ar draws nifer o feysydd y mae mudiadau gwirfoddol yn gweithio arnyn nhw. O ansawdd a safonau’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta, i ddylanwadu ar ymdrechion cynaliadwyedd Cymru, mae gwaith ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi canfod y gall masnach effeithio ar iechyd a lles mewn llawer o ffyrdd

Gall cytundebau masnach hefyd gyfyngu ar allu llywodraethau i gyflwyno polisïau sy’n ymwneud ag iechyd a newid marchnadoedd domestig ar gyfer gwasanaethau iechyd a meddyginiaethau, er enghraifft, drwy ganiatáu i fusnesau gael mwy o fynediad i’r farchnad neu newid pris cyffuriau.

  1. GALLAI CYTUNDEBAU MASNACH ROI HAWLIAU DYNOL MEWN PERYGL 

Gallai hawliau dynol gael eu llesteirio gan gytundebau masnach, ond gellid hefyd eu defnyddio i hybu cynnydd yn y maes hwn. Mae angen i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru fod yn rhan o drafodaethau sy’n cyflwyno canlyniadau pellgyrhaeddol i hawliau pobl yng Nghymru a thu hwnt.

Gellir defnyddio polisi masnach i roi pwysau ar bartneriaid masnach i wella hawliau dynol. Er enghraifft, drwy wrthod llofnodi cytundeb â gwledydd sydd ag enw blaenorol gwael iawn am hawliau dynol. Gellir hefyd defnyddio masnach i wella hawliau dynol os canolbwyntir ar anghenion y rhai mwyaf agored i niwed – er enghraifft, drwy ystyried yr hawl i iechyd a meddyginiaethau.

  1. MAE CYTUNDEBAU MASNACH YN EFFEITHIO AR FWYD, FFERMIO AC AMAETHYDDIAETH 

Trwy ganiatau mynediad i farchnad fwyd y DU, gall cytundebau masnach ddylanwadu ar safon y bwyd rydyn ni’n ei gynhyrchu. Mae ffermio yn rhan hanfodol o economi wledig Cymru a gallai cytundebau masnach gyflwyno cyfleoedd newydd i ffermwyr Cymreig, ond gallent hefyd eu rhoi o dan bwysau cystadleuol aruthrol.

Mae hwn yn bryder a godwyd gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru ynghylch y cytundeb masnach rhwng y DU ac Awstralia (Saesneg yn unig).

  1. GALLAI MASNACH GYNYDDU ANGHYDRADDOLDEBAU

Mae mwy a mwy o dystiolaeth fod polisi masnach yn effeithio ar grwpiau gwahanol mewn ffyrdd gwahanol. Eglura’r Women’s Budget Group (Saesneg yn unig) y gall cytundebau masnach gael effaith negyddol ar bobl sy’n wynebu anfantais economaidd neu sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Gallai dull cynhwysol o ymdrin â pholisi masnach sy’n cynnwys y sector gwirfoddol helpu i nodi’r heriau a’r cyfleoedd hyn cyn i gytundebau gael eu negodi.

  1. GALLAI MASNACH EFFEITHIO AR YR IAITH GYMRAEG 

Fel y dadleuwyd gan CLlLC (Saesneg yn unig) – mae yna gysylltiad diamheuol rhwng dyfodol ffermio yng Nghymru a’r Gymraeg. Bydd cytundebau masnach yn debygol o gael effaith economaidd ar gefn gwlad Cymru lle mae cymunedau ffermio yn sbardun economaidd allweddol ac yn biler i’r Gymraeg.

Os na fydd cytundebau masnach yn rhoi digon o sylw i’w diddordebau gellid gweld effeithiau negyddol ar ddiwylliant, treftadaeth ac iaith Cymru.

  1. GALL CYTUNDEBAU MASNACH FYGWTH DATBLYGU CYNALIADWY 

Heb gynnwys y sector gwirfoddol, gallai cytundebau masnach newydd y DU roi datblygu cynaliadwy mewn perygl.

Mae masnach yn berthnasol i bob un o bileri datblygu cynaliadwy: yr amgylchedd, yr economi, cymdeithasol ac yng Nghymru – diwylliant ac iaith. O’i heffaith ar y rhywiau i’r gallu i hybu neu lesteirio safonau hawliau dynol, mae masnach yn cyffwrdd ag amrywiaeth eang o feysydd y sector gwirfoddol.

Gall hyrwyddo arferion a chynhyrchion amgylcheddol ond gall hefyd gyfrannu at golli bioamrywiaeth a datgoedwigo.

  1. GALL MASNACH EFFEITHIO AR SAFONAU LLAFUR A LLESIANT YN Y GWAITH 

Mae safonau llafur uchel yn allweddol i iechyd a llesiant pobl ac yn hanfodol i ddiogelu hawliau dynol fel y rhyddid i ymgysylltu a rhyddid rhag llafur gorfodol.

Gall cytundebau masnach fel Cytundeb Masnach a Chydweithredu y DU a’r UE gynnwys gofynion i beidio â gostwng safonau ac ymrwymiadau i safonau llafur rhyngwladol. Fodd bynnag, gallant hefyd effeithio ar farchnadoedd swyddi drwy greu neu dorri swyddi.

  1. GALL MASNACH GEFNOGI CYDSEFYLL BYD-EANG, OND YN AML, NID DYMA’R ACHOS 

Dylai mudiadau gwirfoddol sy’n ymwneud â gwaith rhyngwladol fod yn ymwybodol y gall cytundebau masnach effeithio’n sylweddol ar wledydd incwm isel a chanolig. Fel arfer, y cymunedau o fewn y gwledydd hyn yw’r rhai cyntaf i gael eu heffeithio gan bolisi masnach, a’u heffeithio’n fawr.  Gall masnach sydd wedi’i gynllunio’n wael gael effaith negyddol ar economïau lleol, iechyd, hawliau dynol, safonau llafur a’r amgylchedd.

Mae gormod o bwyslais ar gystadleuaeth ac elw yn arwain yn ganlyniadau annheg yn y gwledydd hyn. Er enghraifft, gall pobl sy’n gweithio ar ffermydd bach gael anhawster ennill digon i ddarparu ar gyfer eu teuluoedd. Dylai dull cynhwysol o ymdrin â masnach ystyried arferion caffael moesegol a hybu masnach deg.

YMUNWCH Â’R SGWRS 

Mae’n hanfodol bod mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn cymryd rhan mewn sgyrsiau ynghylch cytundebau masnach newydd.

Mae CGGC, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Masnach Deg Cymru yn cynnal digwyddiad lansio ar gyfer dau brosiect a fydd yn helpu mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i gael llais uwch yng nghytundebau masnach newydd y DU.

Gallwch chi ymuno â ni rhwng 12.30pm a 2.30pm ar 9 Mehefin yn adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd am ginio ysgafn a’r cyfle i rwydweithio a chlywed mwy am bwysigrwydd cynnwys y sector gwirfoddol yn y trafodaethau hyn. 

Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniad byr gan Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi a Delyth Jewell AS, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ac aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth a chofrestru yma.

Charles Whitmore yw Cydlynydd Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ac CGGC. Aileen Burmeister yw Pennaeth Masnach Deg Cymru a Chadeirydd Cyfiawnder Masnach Cymru.