Swyddi

Awst 21, 2023

Pennaeth Cymru Masnach Deg a Chyfarwyddwr

Pennaeth Cymru Masnach Deg (secondiad)

Ydych chi’n rhywun sydd ag ymrwymiad dwfn i gyfrifoldeb byd-eang, a gydag awydd i gael effaith ystyrlon? Mae Cymru Masnach Deg yn chwilio am arweinydd dyfeisgar ac angerddol i ddod yn Bennaeth Cymru Masnach Deg (cyfnod secondiad). Os ydych chi’n barod i arwain, siapio a chyfrannu at ein cyfeiriad ar gyfer y dyfodol tra’n cefnogi tîm ymroddedig a meithrin partneriaethau cydweithredol, yna mae’r cyfle hwn i chi.

Yn Cymru Masnach Deg, rydym wedi ymrwymo i gefnogi, tyfu a hyrwyddo’r mudiad Masnach Deg yng Nghymru, wedi’i yrru gan ein gwerthoedd craidd o gefnogi, cydweithio a grymuso. Wrth i ni ddathlu 15 mlynedd ryfeddol ers i Gymru ddod yn Genedl Masnach Deg, rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ar ein taith tuag at greu byd mwy cyfartal.

Eich Effaith:

🔹 Arweinyddiaeth a Strategaeth: Cydweithio’n agos â’n bwrdd i weithredu ein strategaeth a’n cynllun gwaith cyfredol, a sicrhau ein bod ni’n aros yn driw i’n cenhadaeth ac yn creu newid cadarnhaol. 

🔹 Rheoli Tîm: Rheoli ac arwain ein tîm, cyfrannu at gyflawni prosiectau, a meithrin amgylchedd cyfeillgar a chefnogol.

🔹 Partneriaeth a Pholisi: Cynrychioli Cymru Masnach Deg mewn trafodaethau polisi a phartneriaethau hanfodol, gan eirioli am ymrwymiadau pellach i Fasnach Deg ar raddfa ranbarthol a byd-eang.

🔹 Dathliadau Pen-blwydd: Chwarae rhan hanfodol wrth ddathlu pen-blwydd Cymru’n 15 oed, gan hyrwyddo’r cynnydd rydym wedi’i wneud gyda’n gilydd a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol

🔹 Llunio’r Rôl: Defnyddio eich arbenigedd unigryw i lunio ac addasu’r rôl hon, gan ganiatáu iddi fod yn adlewyrchiad o’ch gwerthoedd a’r pethau rydych chi’n teimlo’n angerddol amdanynt.

Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar ein disgrifiad o’r swydd a’n pecyn recriwtio. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu chi i’r teulu Masnach Deg!

Manylion

Tymor: Rôl tan ddiwedd mis Mawrth 2024 (gydag estyniad pellach yn debygol, yn dibynnu ar gyllid) 

Cyflog: graddfa NJC PO1, £33,820 – £36,294 FTE

Oriau: 21-37 awr yr wythnos amser llawn neu ran-amser – 0.6-1 FTE

Lleoliad: Hybrid, gweithio o gartref neu o’r swyddfa yng Nghaerdydd 

Gweithio hyblyg: Bydd pob cais i gael gweithio’n hyblyg yn cael eu hystyried.

Mae’r rôl i lenwi cyfnod secondiad o 12 mis, a bydd y swydd yn cael ei sicrhau tan fis Mawrth 2024, gydag estyniad tebygol (yn dibynnu ar gyllid) ar gyfer gweddill y cyfnod secondiad. Rydym yn sefydliad hyblyg iawn, ac ein blaenoriaeth yw dod o hyd i’r person cywir. Rydym yn agored i ymgeiswyr rhan-amser ac amser llawn, sydd wedi’u lleoli yn unrhyw le, ac rydym wir eisiau dod o hyd i ymgeisydd sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd a’n gweledigaeth. Buasem yn croesawu secondiadau i’r rôl.

Mae’r swydd yn cael ei hariannu gan dîm Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru, fel rhan o grant partneriaeth i bartneriaeth Hub Cymru Affrica, y bydd deiliad y swydd yn cynnal perthynas agos ag ef.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol, yn egluro sut rydych chi’n bodloni manyleb y person, a pam rydych chi eisiau gweithio i Cymru Masnach Deg, drwy anfon e-bost i aileen@fairtradewales.org.uk erbyn 23:59 ar 13 Mis Medi.

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar (zoom neu mewn person) w/c 18 Mis Medi.

Disgrifiad o’r swydd a manyleb y person 

Pecyn Cymru Masnach Deg

I weld sut rydym yn defnyddio eich data, darllenwch ein hysbyseb preifatrwydd.

Rydym yn gwybod nad oes neb yn debygol o gael 100% o’r sgiliau a’r profiad rydym yn chwilio amdanynt – mae llawer o bobl yn cael swyddi gyda 50% o’r meini prawf – dyma’ch cyfle i arddangos eich cryfderau.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sefydliad amrywiol, teg a chynhwysol, lle mae pawb yn teimlo fel eu bod yn perthyn. Nid ydym yn chwilio am un math o berson yn unig – rydym eisiau recriwtio pobl sydd â phrofiadau a sgiliau gwahanol, a allai ychwanegu safbwyntiau newydd, syniadau arloesol a thrwy hynny, ein cryfhau fel sefydliad.

Cyfarwyddwyr

Mae Cymru Masnach Deg yn chwilio am sawl aelod o’r bwrdd a allai ddefnyddio eu sgiliau i arwain ein cyfeiriad strategol, cefnogi gweithwyr, a hyrwyddo Masnach Deg yng Nghymru.

Byddai’r rôl hon yn gweddu pobl angerddol, sydd wedi ymrwymo i werthoedd Masnach Deg, sy’n gallu cynnig eu hamser i gefnogi cyfeiriad strategol Cymru Masnach Deg. Os ydych chi’n poeni am gyfiawnder a chydraddoldeb byd-eang, ac eisiau cefnogi twf y mudiad Masnach Deg, yna gallai hon fod y rôl i chi.

Mae Cymru Masnach Deg yn gweithio i gefnogi, tyfu a hyrwyddo’r mudiad Masnach Deg yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw creu byd cyfartal, gan ddefnyddio ein gwerthoedd o gefnogi, cydweithio a grymuso.

Mae’r bwrdd yn darparu llywodraethu cyffredinol a chyfeiriad strategol i’r sefydliad, sy’n cael ei reoli o ddydd i ddydd gan Bennaeth Cymru Masnach Deg cyflogedig sydd, gydag arweiniad y bwrdd, yn paratoi ac yn cyflwyno cynlluniau busnes ar gyfer y dyfodol.

Mae bod yn aelod o Fwrdd Cymru Masnach Deg wedi rhoi cyfle i mi gymryd rhan mewn gwaith rhyngwladol na fuaswn i erioed wedi gallu cymryd rhan ynddo yn fy swydd. Dwi wedi cwrdd â phobl a sefydliadau gwych sy’n gweithio i wneud Cymru’n fwy cyfrifol yn fyd-eang, a’r bobl a’r cymunedau sy’n elwa o’r gwaith hwnnw. – Natalie Rees

Mae wedi bod yn fraint cael bod yn aelod o fwrdd Cymru Masnach Deg dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r tîm, a’r bwrdd, yn angerddol am sicrhau bod y sefydliad yn parhau i gefnogi, hyrwyddo a thyfu masnach deg yng Nghymru. Mae’n wych cael y cyfle i gyfrannu tuag at y syniadau hynny, a gweld yr effaith mae Cymru Masnach Deg yn ei chael. – Emma Brown

Mae Cymru Masnach Deg wedi’i sefydlu fel cwmni wedi’i gyfyngu drwy warrant, gyda statws nid-er-elw. Rydym yn gweithio fel rhan o bartneriaeth Hub Cymru Affrica i gynyddu effeithiolrwydd sefydliadau yn y sector rhyngwladol, ac rydym wedi’n lleoli yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd. Ar hyn o bryd, mae Hub Cymru Affrica yn cael ei ariannu gan raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru.  

Sut i wneud cais

Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol byr drwy e-bost, yn egluro pam eich bod chi eisiau ymuno â bwrdd Cymru Masnach Deg: aileen@cymrumasnachdeg.org.uk.

Dyddiad Cau: 13 Mis Medi. 

Manylion

Yn adrodd i: Cadeirydd y Bwrdd

Buddion: Mae hon yn swydd ddi-dâl, ond mae treuliau rhesymol sy’n gyson ag ymarfer yn y sector gwirfoddol yn cael eu cynnig.

Lleoliad: Gweithio o gartref, gyda chyfarfodydd fideo ar-lein bedair i chwe gwaith y flwyddyn ac un diwrnod cwrdd i ffwrdd bob blwyddyn/bob dwy flynedd, lle bydd angen teithio iddynt

Ymrwymiad: Yn hyblyg, ond mae angen mynychu cyfarfodydd bwrdd ynghyd ag ymateb i ohebiaeth e-bost. Efallai y bydd angen cynnal dyletswyddau cynrychioladol eraill mewn digwyddiadau neu is-bwyllgorau o bryd i’w gilydd. 

Nid yw cyfanswm yr amser yn debygol o fod yn fwy nag un diwrnod y mis.  

Disgrifiad o’r Swydd a Manyleb y Person

Pecyn Cymru Masnach Deg

I weld sut rydym yn defnyddio eich data, darllenwch ein hysbyseb preifatrwydd.

Rydym yn gwybod nad oes neb yn debygol o gael 100% o’r sgiliau a’r profiad rydym yn chwilio amdanynt – mae llawer o bobl yn cael swyddi gyda 50% o’r meini prawf – dyma’ch cyfle i arddangos eich cryfderau.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sefydliad amrywiol, teg a chynhwysol lle mae pawb yn teimlo fel eu bod yn perthyn. Nid ydym yn chwilio am un math o berson yn unig – rydym eisiau recriwtio pobl sydd â phrofiadau a sgiliau gwahanol, a allai ychwanegu safbwyntiau newydd, syniadau arloesol a thrwy hynny, ein cryfhau fel sefydliad.