Gweithdai cynaliadwyedd ar-lein

Mae ein cwrs ar-lein agored, Dyfodol Cynaliadwy, yn ystyried sut mae masnach a’r pethau rydym yn eu prynu’n gysylltiedig â diraddiad amgylcheddol a chymdeithasol a sut gallwn bontio i economi werdd a dyfodol cynaliadwy.

Mae ein cyrsiau ar-lein yn galluogi myfyrwyr i gyfranogi’n fyw heb orfod teithio i ystafell ddosbarth ffisegol. Gall cyfranogwyr ddysgu a chymryd rhan o’u cartrefi.

Mae’r gweithdai hyn i’r bobl ganlynol

Pawb. Myfyrwyr, unigolion, timau, grwpiau a sefydliadau, unrhyw un sydd â diddordeb mewn pontio gyrdd, deddfwriaeth gyfredol, y cyd-destun lleol a rhyngwladol a sut rydym yn symud tuag at ddyfodol cynaliadw

Mae’r pynciau allweddol yn cynnwys y canlynol: Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol; Cynaladwyedd; Cadwyni Cyflenwi; Sero Net; Costau Allanol; Cytundebau masnach rhyngwladol.

Erbyn diwedd y sesiwn, bydd dysgwyr yn gallu gwneud y canlynol:

  • Esbonio egwyddor Cyfrifoldeb Byd-eang.
  • Diffinio cynaladwyedd.
  • Disgrifio’r her a berir gan gadwyni cyflenwi.
  • Archwilio gwir gost masnach.
  • Trafod problemau cyfredol gyda pholisi masnach.
  • Cynnig camau gweithredu ymarferol i unigolion a gweithleoedd.

Tri weminar 2 awr yr un

Gweminar Cyntaf:

Ystyried y cysyniad o gyfrifoldeb byd-eang a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Archwilio cysylltiadau byd-eang ac ystyried eu hystyr yn ein bywydau ein hunain. Rydym yn archwilio ein gwerthoedd ac yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau sy’n defnyddio ein gwerthoedd mewn ymddygiad cyfrifoldeb byd-eang.

Yna rydym yn ystyried y cysyniad o gynaladwyedd, yr hyn y mae Masnach De gyn ei wneud a sut mae rhai sefydliadau’n dechrau pontio tuag at fusnesau cynaliadwy.

Ail Weminar:

Yna rydym yn ystyried yr her Sero Net a’r pethau rydym yn eu prynu. Rydym yn ystyried cymhlethdod cadwyni cyflenwi a phroblemau cadwyni cyflenwi sydd wedi’u hymgorffori. Rydym yn ystyried amrywiaeth o gamau y gall gweithleoedd ac unigolion eu cymryd i fod yn fwy cynaliadwy.

Trydydd Weminar

Yn olaf, rydym yn edrych yn fanwl ar brosesau’r DU, cyn archwilio sut mae rheoleiddio rhyngwladol yn effeithio ar allu’r llywodraeth i weithredu polisi’r hinsawdd.

I gadw lle, e-bostiwch:

I gadw lle, e-bostiwch: gwyb@cymrumasnachdeg.org.uk

I gadw lle ar y gweithdai hyn ar gyfer eich sefydliad, byddwn yn trefnu dyddiadau ac yn eich anfonebu’n uniongyrchol. E-bostiwch gwyb@cymrumasnachdeg.org.uk

Oes gennych dîm amrywiol y mae angen opsiynau hyfforddiant cyfleus a mwy hyblyg arno? Mae ein cwrs e-ddysgu yn gyflwyniad cynhwysfawr i gynaladwyedd drwy feicro-lens y gall timau gael mynediad iddo yn ôl eu hymrwymiadau. Cysylltwch â ni i sgwrsio am opsiynau.

Cwrs Zoom/Teams ar-lein wedi’i hwyluso – Tri gweithdy rhyngweithiol o 2 awr yr un yn cael eu haddysgu mewn adrannau yn ôl argaeledd cwsmeriaid. £1,000 ar gyfer hyd at 10 o bobl.