De Ddwyrain

  1. Karry’s Deli

    Karry’s Deli yw deli cyntaf De Cymru sydd yn hollol seiliedig ar blanhigion yng nghalon Bro Morgannwg. Wedi’i leoli yn Y Bari, maent yn stocio amrywiaeth o nwyddau Masnach Deg. Ewch draw i’r siop, neu i’r gwefan am eich nwyddau hinsawdd-cyfeillgar a Masnach Deg.

  2. Awesome Wales

    Awesome Wales yw’r siop gwastraff Sero cyntaf ym Mro Morgannwg. Wedi’i leoli yn Y Bari, Y Bont-faen a nawr yn Ysbyty Prifysgol Cymru Caerdydd, mae Awesome Wales yn stocio amrywiaeth o nwyddau Masnach Deg. Ewch draw i’r siop, neu ewch i’r wefan am gynnyrch ecogyfeillgar a Masnach Deg.

  3. Sussed

    Siop gymunedol Masnach Deg ym Mhorthcawl, De Cymru, yw SUSSED, a sefydlwyd gan yr elusen Cymru Gynaliadwy ac sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr.

    Mae SUSSED yn arbenigo mewn cynnyrch moesegol, yn benodol, nwyddau lleol Masnach Deg, sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, sydd ddim yn cynnwys plastigion.

  4. Cyngor Tref Llanilltud Fawr

    Tref Masnach Deg yw Llanilltud Fawr sy’n ymrwymedig i gefnogi Masnach Deg.

  5. Masnach Deg Hay-on-Wye

    Mae gan y Gelli ymrwymiad i’w statws tref Masnach Deg. Rydym yn trefnu digwyddiadau ac yn rhoi sgyrsiau ac yn cefnogi busnesau lleol i werthu cynnyrch Masnach Deg.

  6. Masnach Deg Caerdydd

    Gwirfoddolwyr ydyn ni sydd am godi ymwybyddiaeth o Fasnach Deg a chynnal statws Dinas Masnach Deg Caerdydd.

  7. Pwyllgor Ymgynghorol Masnach Deg Cyngor Tref y Bari

    Cefnogir Manach Deg y Bari gan Gyngor Tref y Bari. Rydym yn trefnu digwyddiadau i hyrwyddo ac arddangos Masnach Deg, gan
    weithio gydag ysgolion ac eglwysi lleol, yn ogystal â hyrwyddo cynnyrch Masnach Deg mewn digwyddiadau poblogaidd.

  8. Fforwm Masnach Deg Sir Fynwy

    Mae’r fforwm yn cwrdd yn rheolaidd i drefnu digwyddiadau Masnach Deg ac mae’n gweithio gyda grwpiau gwirfoddol eraill i ddarparu cymorth ac arlwyaeth Masnach Deg.

  9. Fforwm Masnach Deg Cas-gwent

    Tref Masnach Deg swyddogol yw Cas-gwent ac rydym yn annog unigolion a busnesau yng Nghas-gwent i helpu i wneud gwahaniaeth i’r byd drwy ddod yn Fasnach Deg.

  10. Fair Dos Siopa Teg

    Mae Fair Dos Siopa Teg yn ymrwymedig i berthnasoedd cynaliadwy gyda grwpiau cynhyrchwyr. Nod Fair Dos Siopa Teg yw lleihau eu heffaith amgylcheddol fel busnes a cheisio darparu gwasanaeth arobryn, personol i gwsmeriaid.