Digwyddiad Diwrnod Coffi Rhyngwladol
Medi 26, 2022
Eleni, i nodi’r Diwrnod Coffi Rhyngwladol a’r Wythnos Fawr Werdd, rydym yn cynnal bore coffi Cymru Masnach Deg yn y brifddinas ar gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg. Dewch draw i ddysgu rhagor am Fasnach Deg a chyfiawnder hinsawdd ac wrth gwrs, i gael coffi Masnach Deg am ddim!
Mae 1 Hydref yn nodi’r Diwrnod Coffi Rhyngwladol, a byddwn yn tynnu sylw at y cysylltiadau rhwng Masnach Deg a chyfiawnder hinsawdd. Ydych chi’n gwybod sut mae Masnach Deg yn gweithio dros gyfiawnder hinsawdd mewn cadwyni cyflenwi byd-eang? Mae Diwrnod Coffi Rhyngwladol 2022 yn disgyn yn ystod yr Wythnos Fawr Werdd eleni hefyd, sy’n ddathliad cenedlaethol o weithredu ar newid yn yr hinsawdd, ac sy’n cael ei gynnal ar draws y DU rhwng 24 Medi a 2 Hydref.
I nodi’r ddau achlysur, rydym yn cynnal bore coffi Masnach Deg yn y Gymraeg yn y Tabernacl yng Nghaerdydd. Thema’r bore coffi yw newid hinsawdd, yn unol â’n hymrwymiad i dynnu sylw at y ffyrdd y mae newid hinsawdd yn effeithio ar y cymunedau mae Masnach Deg yn gweithio gyda nhw. Ydych chi’n gwybod sut mae Masnach Deg yn gweithio i ddatblygu cyfiawnder hinsawdd? Galwch heibio i gael gwybod!
Bydd y bore coffi hwn yn cynnwys cyflwyniad byr ar Fasnach Deg a newid hinsawdd, gwers Gymraeg gyflym sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd i ddysgwyr, a chyfle i sgwrsio a samplu gwahanol goffis Masnach Deg.
Mae’r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer siaradwyr rhugl a dysgwyr lefel Canolradd ac uwch (fodd bynnag, mae croeso i bawb).
Cofrestrwch nawr, ac ymunwch â ni yn y Tabernacl am fore llawn gwybodaeth a choffi am ddim!