Wythnos Chwyldro Ffasiwn 2023: Cofio’r Rana Plaza, 10 mlynedd yn ddiweddarach…
Ebrill 27, 2023
Wythnos Chwyldro Ffasiwn 2023
Mae’r Wythnos Chwyldro Ffasiwn yn ymgyrch flynyddol, sy’n canolbwyntio ar uno actifiaeth ffasiwn mewn ymateb i’r anghyfiawnderau sy’n bresennol yn y diwydiant ffasiwn. Mae’n galw am newid systemig mewn diwydiant sy’n ddrwg-enwog am ddiffyg tryloywder, ac sy’n ecsbloetio hawliau gweithwyr dillad. Mae gan Wythnos Chwyldro Ffasiwn 2023 arwyddocâd arbennig, gan ei bod yn nodi 10 mlynedd ers trychineb y Rana Plaza – y digwyddiad a daniodd yr ymgyrch drawsnewidiol dros gyfiawnder cymdeithasol.
Cofio’r Rana Plaza
Ar 24 Ebrill 2013, cwympodd adeilad ffatri’r Rana Plaza yn Bangladesh. Roedd y Rana Plaza yn cadw rhai o labeli dillad mwyaf adnabyddus y byd, gan gynnwys Primark a Mango. Methodd rhai pobl â dianc, a chollodd 1138 o weithwyr dillad eu bywydau, wrth i’r adeilad wyth llawr ddisgyn i rwbel. Gadawyd 2500 o weithwyr eraill gydag anafiadau, wrth iddynt gael eu tynnu o’r malurion yn yr oriau a’r dyddiau a ddilynodd. Roedd hyn yn nodi trychineb y Rana Plaza fel y bedwaredd drychineb ddiwydiannol fwyaf mewn hanes modern.
Er nad cwymp y Rana Plaza oedd y drychineb ffatri ddillad gyntaf, tynnodd sylw at y diffyg tryloywder helaeth mewn cadwyni cyflenwi ffasiwn byd-eang, a diffyg gwelededd gweithwyr. Cadarnhaodd y pethau a ddaeth i’r amlwg o’r cwymp fod hawliau dynol sylfaenol gweithwyr dillad ar draws y byd yn rhy aml yn cael eu hanwybyddu, ac mai gwir gost hyn yw colli bywydau dynol.
Chwyldro Ffasiwn
Daeth Chwyldro Ffasiwn i’r amlwg yn sgil trychineb y Rana Plaza, ac mae wedi datblygu i fod yn fudiad byd-eang sy’n mynnu newid, i sicrhau nad ydym byth yn gweld trasiedïau fel trasiedi y Rana Plaza eto. Mae eu cenhadaeth yn syml. Ers 10 mlynedd, mae Chwyldro Ffasiwn wedi bod yn ymgyrchu dros ddiwydiant ffasiwn diogel, glân, teg a thryloyw, sy’n gwarchod ac yn adfer amgylchedd a gwerthoedd pobl yn hytrach na blaenoriaethu elw. Mae cenhadaeth Chwyldro Ffasiwn yn troi o gwmpas tair thema fawr: busnes ffasiwn, deunyddiau a meddylfryd. Mae mwy o fanylion ar gael ym Maniffesto’r Chwyldro Ffasiwn a grëwyd i nodi 10 mlynedd ers Rana Plaza, wrth i ni ddod at ein gilydd fel cymuned fyd-eang i wireddu’r maniffesto.
Ond pam fod angen chwyldro ffasiwn? Oherwydd 10 mlynedd yn ddiweddarach, mae ein dillad yn dal i gael eu gwneud gan rai o’r bobl fwyaf tlawd, sydd yn cael eu gwerthfawrogi lleiaf yn y byd (80% ohonynt yn fenywod), y mae eu hawliau’n cael eu cyfaddawdu’n barhaus. Yn 2019, cyhoeddodd y Consortiwm Hawliau Gweithwyr adroddiad, a daflodd oleuni mwy disglair ar yr ormes, y trais a’r bygythiadau a dargedwyd tuag at weithwyr dillad Bangladesh, sy’n ymgyrchu dros ddim mwy na chyflog byw. Yn ôl y Consortiwm Hawliau Gweithwyr, colli eu bywyd fu cost yr ymgyrchu i rai, wrth iddyn nhw gael eu saethu’n farw gan yr heddlu fel dial am godi eu llais.
Mae Chwyldro Ffasiwn yn darparu platfform ar gyfer annog brandiau i flaenoriaethu lles a diogelwch gweithwyr, a mesurau diogelu amgylcheddol uwchlaw elw cyfranddalwyr, gan orfodi brandiau i gael eu dal i gyfrif mwy, yn y gobaith y gall y trais hwn ddod i ben.
Masnach Deg mewn Ffasiwn – Masnach Deg Rhyngwladol
Nod Rhaglen Safonau Tecstilau Masnach Deg Masnach Deg Rhyngwladol yw mynd i’r afael â rhai o’r craciau y datgelodd trychineb y Rana Plaza, drwy ymgysylltu â’r holl gyfranwyr ar draws cadwyni cyflenwi a chefnogi gweithwyr ar bob cam o gynhyrchu, o gaeau cotwm i ffatrïoedd dillad. Mae gan y Rhaglen Safon Tecstilau Masnach Deg bedwar prif amcan: hawliau gweithwyr, creu cyflog byw, gwella iechyd a diogelwch, ac ennyn dulliau newydd o archwilio. Mae’r Safon Decstilau Masnach Deg yn hwyluso gallu gweithwyr i sefydlu undebau, yn ogystal â hyfforddi gweithwyr ar eu hawliau a chynrychiolaeth ddemocrataidd o fewn eu cwmnïau. At ei gilydd, cynyddu gwelededd a gweithredu gan weithwyr o fewn system sy’n adnabyddus am ei diffyg tryloywder.
Mae diogelwch yn parhau i fod yn her fawr sy’n wynebu ffatrïoedd tecstilau. Mae’r Safon Tecstilau Masnach Deg yn gosod meini prawf ar gyfer gweithleoedd ac adeiladau diogel i adeiladu gwytnwch yn erbyn y risg o drychinebau fel cwymp y Rana Plaza rhag digwydd eto.
Masnach Deg mewn Ffasiwn – Sefydliad Masanch Deg y Byd
Mae Sefydliad Masnach Deg y Byd yn cefnogi talu gweithwyr dillad yn deg hefyd drwy’r Broses Talu Teg, sy’n cydbwyso anghenion y gweithiwr ag anghenion bod yn fusnes llwyddiannus. Wrth gyfrifo taliadau teg, mae WFTO yn cydnabod na fydd un dull sy’n addas i bawb yn ddigonol. Mae’n credu ei bod yn hanfodol canolbwyntio ar greu trafodaeth barhaus gyda’r holl bleidiau perthnasol, annog cyfranogiad, a chanolbwyntio ar y gwahanol anghenion sy’n codi o gyd-destunau lleol wrth benderfynu ar brisiau teg.
Un arall o egwyddorion canllaw Sefydliad Masnach Deg y Byd yw cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau’n cael ei hyrwyddo drwy Egwyddor WFTO 6, ‘Diffyg gwahaniaethu, tegwch rhywedd a grymuso Economaidd Menywod a Rhyddid Cymdeithas’. Mae gan y sefydliad bolisi clir ar hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac mae’n sicrhau bod gan fenywod y gallu i ymgysylltu â fframweithiau rheoleiddio sy’n llywio eu bywydau. Mae’r sefydliad yn cydnabod hawliau cyflogaeth llawn menywod, ac yn ymroddedig i sicrhau bod menywod yn cael eu manteision cyflogaeth statudol llawn. O ystyried bod 80% o ddiwydiant dillad y byd yn cynnwys menywod, pan fydd busnesau’n cadw at y nodau a amlinellir gan egwyddorion WFTO, maen nhw’n helpu i ddiogelu’r diwydiant dillad a hawliau sylfaenol menywod.
Mae prynu cynhyrchion gyda Label Cynnyrch WFTO yn symbol o sicrwydd, yn addewid i ddefnyddwyr bod y brand yn dryloyw yn eu perthynas â chynhyrchwyr, ac yn cadw at safonau uchaf y diwydiant. I sefydliadau sydd wedi cael ymaelodi yn WFTO, maent yn ennill yr hygrededd a’r hunaniaeth sydd ynghlwm wrth system warant ryngwladol, yn ogystal â man lle gallant ddysgu a rhannu gwybodaeth.
Mae Masnach Deg yn elfen hanfodol i’r ateb. Ochr yn ochr â sefydliadau fel Fashion Revolution a Labour Behind the Label, gallwn newid ein perthynas â ffasiwn, a newid masnach er budd pawb.
Gwasanaethu cyfiawnder 10 mlynedd yn ddiweddarach
Beth sydd wedi newid yn y 10 mlynedd ers trychineb y Rana Plaza? Yn 2013, ffurfiodd y Cytundeb ar Dân a Diogelwch Adeiladau yn Bangladesh gytundeb 5 mlynedd i ganlyn diogelwch yn y gweithle yn y sector Ready-Made Garment (RMG). Yn 2021, adnewyddodd llofnodwyr y Cytundeb gwreiddiol eu partneriaeth i sefydlu’r Cytundeb Rhyngwladol dros Iechyd a Diogelwch yn y Diwydiant Tecstilau a Dillad. Mae’r cytundeb yn dal llofnodwyr i gyfrif i barhau â’u hymrwymiad i raglenni diogelwch yn y gweithle, gydag ymrwymiad ychwanegol i archwilio cwmpas y materion Diwydrwydd Dyladwy Hawliau Dynol (HRDD) sy’n bresennol yn y diwydiant dillad.
Beth allwch chi ei wneud i gefnogi chwyldro fashwin?
Yn araf bach, rydym yn gweld newid yn y llanw yn y diwydiant ffasiwn, wrth i ddefnyddwyr fynnu mwy. Nid mater o chwilfrydedd yn unig yw ymgysylltu ag o ble mae ein dillad yn dod bellach, ond mater o frys. Gan gydnabod bod gan bob pryniant rym, mae’r mudiad Chwyldro Ffasiwn yn annog ymgysylltu â defnyddwyr ymwybodol a moesegol ym mhob agwedd ar y gadwyn gyflenwi. Felly beth allwch chi ei wneud i gefnogi chwyldro ffasiwn?
- Ymgysylltu â’r ymgyrch #whomademyclothes. Mae hyn yn helpu i ddwyn brandiau ffasiwn i gyfrif mewn perthynas â’u tryloywder a’u hymrwymiad i greu amgylchedd diogel a theg i’w gweithwyr
- Siopa Masnach Deg ble’n bosib, chwilio am farc Masnach Deg, a sefydliadau gydag aelodaeth WFTO
- Llofnodi’r Maniffesto Chwyldro Ffasiwn i ddangos eich cefnogaeth i newid systemig yn y diwydiant ffasiwn byd-eang
- Ysgrifennu cerdyn post i’ch lluniwr polisi lleol i ofyn beth maen nhw’n ei wneud i greu diwydiant ffasiwn tecach, mwy diogel a thryloyw gan ddefnyddio templed defnyddiol Chwyldro Ffasiwn