Wythnos Chwyldro Ffasiwn: Cofio’r Rana Plaza

Ebrill 27, 2023

Wythnos Chwyldro Ffasiwn

Mae’r Wythnos Chwyldro Ffasiwn yn ymgyrch flynyddol, sy’n canolbwyntio ar uno actifiaeth ffasiwn mewn ymateb i’r anghyfiawnderau sy’n bresennol yn y diwydiant ffasiwn. Mae’n galw am newid systemig mewn diwydiant sy’n ddrwg-enwog am ddiffyg tryloywder, ac sy’n ecsbloetio hawliau gweithwyr dillad. Mae gan Wythnos Chwyldro Ffasiwn 2023 arwyddocâd arbennig, gan ei bod yn nodi 10 mlynedd ers trychineb y Rana Plaza – y digwyddiad a daniodd yr ymgyrch drawsnewidiol dros gyfiawnder cymdeithasol.

Cofio’r Rana Plaza

Ar 24 Ebrill 2013, cwympodd adeilad ffatri’r Rana Plaza yn Bangladesh. Roedd y Rana Plaza yn cadw rhai o labeli dillad mwyaf adnabyddus y byd, gan gynnwys Primark a Mango. Methodd rhai pobl â dianc, a chollodd 1138 o weithwyr dillad eu bywydau, wrth i’r adeilad wyth llawr ddisgyn i rwbel. Gadawyd 2500 o weithwyr eraill gydag anafiadau, wrth iddynt gael eu tynnu o’r malurion yn yr oriau a’r dyddiau a ddilynodd. Roedd hyn yn nodi trychineb y Rana Plaza fel y bedwaredd drychineb ddiwydiannol fwyaf mewn hanes modern.

Er nad cwymp y Rana Plaza oedd y drychineb ffatri ddillad gyntaf, tynnodd sylw at y diffyg tryloywder helaeth mewn cadwyni cyflenwi ffasiwn byd-eang, a diffyg gwelededd gweithwyr. Cadarnhaodd y pethau a ddaeth i’r amlwg o’r cwymp fod hawliau dynol sylfaenol gweithwyr dillad ar draws y byd yn rhy aml yn cael eu hanwybyddu, ac mai gwir gost hyn yw colli bywydau dynol.

Chwyldro Ffasiwn

Daeth Chwyldro Ffasiwn i’r amlwg yn sgil trychineb y Rana Plaza, ac mae wedi datblygu i fod yn fudiad byd-eang sy’n mynnu newid, i sicrhau nad ydym byth yn gweld trasiedïau fel trasiedi y Rana Plaza eto. Mae eu cenhadaeth yn syml. Ers 10 mlynedd, mae Chwyldro Ffasiwn wedi bod yn ymgyrchu dros ddiwydiant ffasiwn diogel, glân, teg a thryloyw, sy’n gwarchod ac yn adfer amgylchedd a gwerthoedd pobl yn hytrach na blaenoriaethu elw. Mae cenhadaeth Chwyldro Ffasiwn yn troi o gwmpas tair thema fawr: busnes ffasiwn, deunyddiau a meddylfryd. Mae mwy o fanylion ar gael ym Maniffesto’r Chwyldro Ffasiwn a grëwyd i nodi 10 mlynedd ers Rana Plaza, wrth i ni ddod at ein gilydd fel cymuned fyd-eang i wireddu’r maniffesto.

Ond pam fod angen chwyldro ffasiwn? Oherwydd 10 mlynedd yn ddiweddarach, mae ein dillad yn dal i gael eu gwneud gan rai o’r bobl fwyaf tlawd, sydd yn cael eu gwerthfawrogi lleiaf yn y byd (80% ohonynt yn fenywod), y mae eu hawliau’n cael eu cyfaddawdu’n barhaus. Yn 2019, cyhoeddodd y Consortiwm Hawliau Gweithwyr adroddiad, a daflodd oleuni mwy disglair ar yr ormes, y trais a’r bygythiadau a dargedwyd tuag at weithwyr dillad Bangladesh, sy’n ymgyrchu dros ddim mwy na chyflog byw. Yn ôl y Consortiwm Hawliau Gweithwyr, colli eu bywyd fu cost yr ymgyrchu i rai, wrth iddyn nhw gael eu saethu’n farw gan yr heddlu fel dial am godi eu llais.

Mae Chwyldro Ffasiwn yn darparu platfform ar gyfer annog brandiau i flaenoriaethu lles a diogelwch gweithwyr, a mesurau diogelu amgylcheddol uwchlaw elw cyfranddalwyr, gan orfodi brandiau i gael eu dal i gyfrif mwy, yn y gobaith y gall y trais hwn ddod i ben.

Masnach Deg mewn Ffasiwn – Masnach Deg Rhyngwladol

Nod Rhaglen Safonau Tecstilau Masnach Deg Masnach Deg Rhyngwladol yw mynd i’r afael â rhai o’r craciau y datgelodd trychineb y Rana Plaza, drwy ymgysylltu â’r holl gyfranwyr ar draws cadwyni cyflenwi a chefnogi gweithwyr ar bob cam o gynhyrchu, o gaeau cotwm i ffatrïoedd dillad. Mae gan y Rhaglen Safon Tecstilau Masnach Deg bedwar prif amcan: hawliau gweithwyr, creu cyflog byw, gwella iechyd a diogelwch, ac ennyn dulliau newydd o archwilio. Mae’r Safon Decstilau Masnach Deg yn hwyluso gallu gweithwyr i sefydlu undebau, yn ogystal â hyfforddi gweithwyr ar eu hawliau a chynrychiolaeth ddemocrataidd o fewn eu cwmnïau. At ei gilydd, cynyddu gwelededd a gweithredu gan weithwyr o fewn system sy’n adnabyddus am ei diffyg tryloywder.

Mae diogelwch yn parhau i fod yn her fawr sy’n wynebu ffatrïoedd tecstilau.  Mae’r Safon Tecstilau Masnach Deg yn gosod meini prawf ar gyfer gweithleoedd ac adeiladau diogel i adeiladu gwytnwch yn erbyn y risg o drychinebau fel cwymp y Rana Plaza rhag digwydd eto.

Masnach Deg mewn Ffasiwn – Sefydliad Masanch Deg y Byd

Mae Sefydliad Masnach Deg y Byd yn cefnogi talu gweithwyr dillad yn deg hefyd drwy’r Broses Talu Teg, sy’n cydbwyso anghenion y gweithiwr ag anghenion bod yn fusnes llwyddiannus. Wrth gyfrifo taliadau teg, mae WFTO yn cydnabod na fydd un dull sy’n addas i bawb yn ddigonol. Mae’n credu ei bod yn hanfodol canolbwyntio ar greu trafodaeth barhaus gyda’r holl bleidiau perthnasol, annog cyfranogiad, a chanolbwyntio ar y gwahanol anghenion sy’n codi o gyd-destunau lleol wrth benderfynu ar brisiau teg.

Un arall o egwyddorion canllaw Sefydliad Masnach Deg y Byd yw cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau’n cael ei hyrwyddo drwy Egwyddor WFTO 6, ‘Diffyg gwahaniaethu, tegwch rhywedd a grymuso Economaidd Menywod a Rhyddid Cymdeithas’. Mae gan y sefydliad bolisi clir ar hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac mae’n sicrhau bod gan fenywod y gallu i ymgysylltu â fframweithiau rheoleiddio sy’n llywio eu bywydau. Mae’r sefydliad yn cydnabod hawliau cyflogaeth llawn menywod, ac yn ymroddedig i sicrhau bod menywod yn cael eu manteision cyflogaeth statudol llawn. O ystyried bod 80% o ddiwydiant dillad y byd yn cynnwys menywod, pan fydd busnesau’n cadw at y nodau a amlinellir gan egwyddorion WFTO, maen nhw’n helpu i ddiogelu’r diwydiant dillad a hawliau sylfaenol menywod.

Mae prynu cynhyrchion gyda Label Cynnyrch WFTO yn symbol o sicrwydd, yn addewid i ddefnyddwyr bod y brand yn dryloyw yn eu perthynas â chynhyrchwyr, ac yn cadw at safonau uchaf y diwydiant. I sefydliadau sydd wedi cael ymaelodi yn WFTO, maent yn ennill yr hygrededd a’r hunaniaeth sydd ynghlwm wrth system warant ryngwladol, yn ogystal â man lle gallant ddysgu a rhannu gwybodaeth.

Mae Masnach Deg yn elfen hanfodol i’r ateb. Ochr yn ochr â sefydliadau fel Fashion Revolution a Labour Behind the Label, gallwn newid ein perthynas â ffasiwn, a newid masnach er budd pawb.

Gwasanaethu cyfiawnder 10  mlynedd yn ddiweddarach

Beth sydd wedi newid yn y 10 mlynedd ers trychineb y Rana Plaza? Yn 2013, ffurfiodd y  Cytundeb ar Dân a Diogelwch Adeiladau yn Bangladesh gytundeb 5 mlynedd i ganlyn diogelwch yn y gweithle yn y sector Ready-Made Garment (RMG). Yn 2021, adnewyddodd llofnodwyr y Cytundeb gwreiddiol eu partneriaeth i sefydlu’r Cytundeb Rhyngwladol dros Iechyd a Diogelwch yn y Diwydiant Tecstilau a Dillad. Mae’r cytundeb yn dal llofnodwyr i gyfrif i barhau â’u hymrwymiad i raglenni diogelwch yn y gweithle, gydag ymrwymiad ychwanegol i archwilio cwmpas y materion Diwydrwydd Dyladwy Hawliau Dynol (HRDD) sy’n bresennol yn y diwydiant dillad.

Beth allwch chi ei wneud i gefnogi chwyldro fashwin? 

Yn araf bach, rydym yn gweld newid yn y llanw yn y diwydiant ffasiwn, wrth i ddefnyddwyr fynnu mwy. Nid mater o chwilfrydedd yn unig yw ymgysylltu ag o ble mae ein dillad yn dod bellach, ond mater o frys. Gan gydnabod bod gan bob pryniant rym, mae’r mudiad Chwyldro Ffasiwn yn annog ymgysylltu â defnyddwyr ymwybodol a moesegol ym mhob agwedd ar y gadwyn gyflenwi. Felly beth allwch chi ei wneud i gefnogi chwyldro ffasiwn?

  1. Ymgysylltu â’r ymgyrch #whomademyclothes. Mae hyn yn helpu i ddwyn brandiau ffasiwn i gyfrif mewn perthynas â’u tryloywder a’u hymrwymiad i greu amgylchedd diogel a theg i’w gweithwyr
  2. Siopa Masnach Deg ble’n bosib, chwilio am farc Masnach Deg, a sefydliadau gydag aelodaeth WFTO
  3. Llofnodi’r Maniffesto Chwyldro Ffasiwn i ddangos eich cefnogaeth i newid systemig yn y diwydiant ffasiwn byd-eang
  4. Ysgrifennu cerdyn post i’ch lluniwr polisi lleol i ofyn beth maen nhw’n ei wneud i greu diwydiant ffasiwn tecach, mwy diogel a thryloyw gan ddefnyddio templed defnyddiol Chwyldro Ffasiwn