Cyfiawnder Masnach Cymru

Beth yw Cyfiawnder Masnach Cymru?
Mae Cyfiawnder Masnach Cymru yn rhwydwaith newydd o sefydliadau ac academyddion sydd â diddordeb mewn gwahanol feysydd Cyfiawnder Masnach. Mae cyfranogwyr yn gweithio gyda’i gilydd ar draws ystod o feysydd moesegol i sicrhau bod polisi masnach a chytundebau masnach newydd y DU yn cefnogi uchelgeisiau Cymru ar gyfer adferiad gwyrdd a chyfiawn yn unol â nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae cytundebau masnach yn cael eu trafod ar lefel y DU gan Lywodraeth y DU, ond maen nhw’n cael effeithiau ymarferol yng Nghymru ac ar bolisi Cymru. Eto i gyd, prin yw’r capasiti, y sgiliau a’r cwmpas i leisiau cymdeithas sifil Cymru ddylanwadu ar bolisi masnach y DU a’r cytundebau sy’n deillio oddi wrtho, a chraffu arnynt.
Nod Cyfiawnder Masnach Cymru ydy mynd i’r afael â’r bwlch mewn gwybodaeth a sgiliau drwy rwydweithio rhannu gwybodaeth a darparu cyfleoedd hyfforddi. Bydd yn ymateb i ymgynghoriadau hefyd, ac yn ysgrifennu papurau safbwynt polisi y gall pawb sy’n cymryd rhan eu bwydo mewn iddynt, eu defnyddio a’u cyrchu.
Ar hyn o bryd, mae Cyfiawnder Masnach Cymru yn cael ei redeg gan Cymru Masnach Deg a Chyngor Llywodraethiant Cymru / Fforwm Brexit WCVA, ac mae’n cael ei ariannu tan fis Rhagfyr 2022 gan wobr Arloesi i Bawb Prifysgol Caerdydd. Ar hyn o bryd, mae’n gweithredu yn Saesneg yn bennaf.