Cyfiawnder Masnach Cymru

Ionawr 2022 – Dydd Mawrth 28th Chwefror 2023

Beth yw Cyfiawnder Masnach Cymru?

Mae Cyfiawnder Masnach Cymru yn rhwydwaith newydd o sefydliadau ac academyddion sydd â diddordeb mewn gwahanol feysydd Cyfiawnder Masnach. Mae cyfranogwyr yn gweithio gyda’i gilydd ar draws ystod o feysydd moesegol i sicrhau bod polisi masnach a chytundebau masnach newydd y DU yn cefnogi uchelgeisiau Cymru ar gyfer adferiad gwyrdd a chyfiawn yn unol â nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae cytundebau masnach yn cael eu trafod ar lefel y DU gan Lywodraeth y DU, ond maen nhw’n cael effeithiau ymarferol yng Nghymru ac ar bolisi Cymru. Eto i gyd, prin yw’r capasiti, y sgiliau a’r cwmpas i leisiau cymdeithas sifil Cymru ddylanwadu ar bolisi masnach y DU a’r cytundebau sy’n deillio oddi wrtho, a chraffu arnynt.

Nod y rhwydwaith ydy mynd i’r afael â’r bwlch mewn gwybodaeth a sgiliau drwy rwydweithio rhannu gwybodaeth a darparu cyfleoedd hyfforddi. Bydd yn ymateb i ymgynghoriadau hefyd, ac yn ysgrifennu papurau safbwynt polisi y gall pawb sy’n cymryd rhan eu bwydo mewn iddynt, eu defnyddio a’u cyrchu.

Mae Cyfiawnder Masnach Cymru yn cael ei rhedeg gan Cymru Masnach Deg a Chyngor Llywodraethiant Cymru / Fforwm Brexit WCVA. Cafodd peilot o’r rhwydwaith ei rhedeg rhwng Ionawr 2022-Chwefror 2023 a’u hariannu gan Wobr Arloesi i Bawb Prifysgol Caerdydd. Mae’r rhwydwaith yn gweithredu yn Saesneg yn bennaf. Ar hyn o bryd, rydym yn gwerthuso’r peilot ac yn chwilio am bartneriaethau i helpu ariannu cam dau.

Cymrwch rhan mewn Cyfiawnder Masnach Cymru

Ymunwch â’r rhestr bostio

  • Cofrestrwch i dderbyn gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar y gweill, cyfarfodydd a chyfleoedd hyfforddi, ac i gael gwybodaeth am ein gwaith ar gytundebau masnach a pholisi masnach.

Cysylltu

Darllenwch ein hadnoddau

Ariannu ein gwaith

  • Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu’n ariannol at y prosiect yma, cysylltwch â’r Cadeirydd neu’r Cyd-gadeirydd