Plant ysgol Cymraeg yn dysgu am wisgoedd ysgol Masnach Deg

Hydref 3, 2017

Yn gynharach yr wythnos hon, mi wnaethom groesawu Koolskools, cyflenwr gwisg ysgol foesegol i Ogledd Cymru i siarad ag ysgolion am newid eu gwisg ysgol i Fasnach Deg.

Yn ystod eu hymweliad â Gogledd Cymru, ymwelodd Koolskools ag Ysgol y Creuddyn yn Llandudno ac Ysgol Esgob Morgan yn Llanelwy, gyda nifer o ysgolion lleol yn mynychu i ddysgu mwy am wisg ysgol Masnach Deg. Gyda thîm Koolskools roedd Viswaraj Maghoo, Rheolwr eu ffatri drwyddedig Masnach Deg ym Mauritius, lle mae eu gwisgoedd Masnach Deg ac organig yn cael eu cynhyrchu. Siaradodd â disgyblion am effeithiau Masnach Deg ar gyfer y bobl sy’n gweithio yno. Dywedodd:

“Mae’r ffatri yn darparu cyflogaeth a hyfforddiant hanfodol i bobl sydd dan anfantais ym Mauritius. Mae talu pris teg ar gyfer y dillad yn hanfodol er mwyn sicrhau gwell ansawdd bywyd ar gyfer dyfodol hirdymor y gweithwyr.”

Mae nifer o ysgolion yng Nghymru wedi newid i wisg ysgol Masnach Deg, gan gynnwys Ysgol Uwchradd Cathays yng Nghaerdydd ac yn fwyaf diweddar Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Y Trallwng, sydd newydd ei agor ym Mhowys. Ymunodd disgyblion o’r Trallwng â chynhadledd ysgolion yn Llanelwy, i rannu eu profiadau o ddewis gwisg ysgol Masnach Deg gyda’u cyfoedion. Soniwyd am sut mae tegwch yn bwysig iawn iddynt; o fod yn deg gyda’u cyd-ddisgyblion, i fod yn deg i’r bobl sy’n gwneud eu gwisgoedd ysgol. Dywedon nhw eu bod yn hapus iawn gyda’u gwisg Masnach Deg newydd, yn enwedig pa mor gynnes ydyn nhw, a pha mor wych yw’r pocedi ar eu cardiganau!

Mae tua 40 miliwn o ffermwyr bach, sy’n rhai o’r rhai tlotaf yn y byd, yn cynhyrchu dros 60 y cant o gotwm y byd. Lansiwyd cotwm Masnach Deg i roi sylw i’r ffermwyr hyn sy’n aml yn cael eu gadael yn anweledig ac wedi’u hesgeuluso ar ddiwedd cadwyn gyflenwi cotwm hir a chymhleth. Rydyn ni’n credu bod ymweliadau fel hyn yn hynod bwysig (ac mae athrawon yn cytuno â ni), gan eu bod yn rhoi cyfle gwych i bobl ifanc yng Nghymru ddysgu am ble a sut mae tyfu cotwm, yr ymdrech sy’n mynd i wneud gwisgoedd ysgol a deall yr hyn yr ydym ni mae prynu yn effeithio ar gymunedau eraill ar draws y byd.

Meddai Mr Richard Hatwood o Ysgol Esgob Morgan:

“Roeddem yn falch iawn o groesawu Viswaraj, gan roi cyfle i fyfyrwyr lleol glywed am yr effaith y gall rhywbeth fel ein dewis o wisg ysgol ei chael ar gymunedau ledled y byd. Rydym yn gobeithio cyflwyno gwisgoedd Masnach Deg i Ysgol Esgob Morgan, Ysgol Fasnach Deg yn y dyfodol agos.”

Os hoffech i’ch ysgol leol ddysgu mwy am ddefnyddio gwisgoedd ysgol foesegol, yna cysylltwch â’r tîm yma yng Nghymru Masnach Deg, neu’r tîm yn KoolSkools – rydym oll yn hapus i helpu.