Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae Cymru Masnach Deg yn gwmni cyfyngedig drwy warant gyda statws dielw. Ni ydy’r sefydliad cenedlaethol ar gyfer addysg, polisi, caffael, cymorth ac ymgyrchu Masnach Deg yng Nghymru, sef Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd. Rydym yn rhan o bartneriaeth Hub Cymru Africa. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio ble rydym yn casglu eich gwybodaeth bersonol, sut rydym yn ei defnyddio, a ble rydym yn ei chadw.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bost; gwybodaeth@cymrumasnachdeg.org.uk neu drwy’r post;  Cymru Masnach Deg, 24 Plas Windsor, Caerdydd, CF10 3BY.
.

Ble rydym yn casglu gwybodaeth bersonol

Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi pan fyddwch yn cofrestru gyda ni, naill ai ar gyfer digwyddiad neu ar gyfer derbyn ein cylchlythyrau. Rydym yn casglu gwybodaeth hefyd pan fyddwch chi’n llenwi cais am adnoddau neu ffurflenni eraill yn wirfoddol, yn rhoi adborth neu sylwadau, ac yn cymryd rhan mewn cystadlaethau. Mae cwcis yn cael eu defnyddio i gasglu gwybodaeth am eich defnydd o’r wefan.

Efallai y byddwn yn casglu eich gwybodaeth bersonol yn y ffyrdd canlynol hefyd;

  • mewn person
  • drwy’r post
  • ar ein gwefan
  • drwy e-bost
  • dros y ffôn
  • drwy’r cyfryngau cymdeithasol
  • drwy gofrestru i dderbyn ein cylchlythyrau
  • drwy lenwi ffurflenni, er enghraifft, i ofyn am adnoddau neu i wneud cais am gyllid
  • drwy gyflwyno adborth i ni, er enghraifft, ar ôl digwyddiad
  • drwy ymgeisio am swydd neu wirfoddoli gyda ni
  • drwy roi arian i ni

Pan fyddwch yn rhoi gwybodaeth i ni yn anuniongyrchol

Gyda’ch caniatâd chi, efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda ni trwy ryngweithiadau trydydd parti annibynnol. Er enghraifft, gyda Sefydliadau Masnach Deg eraill, eich grŵp Masnach Deg lleol, neu sefydliadau ymgyrchu eraill rydym yn gweithio â nhw. Dim ond gyda’ch caniatâd chi y bydd hyn yn digwydd. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.

Sut rydym yn defnyddio a storio gwybodaeth amdanoch chi

Efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i gadw cofnod o’ch perthynas â ni ac at ddibenion gweinyddol (fel gwybod sut ydych chi eisiau i ni gysylltu â chi). Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol hefyd i’ch cynghori chi ar ddiweddariadau a newidiadau i’n gwasanaethau neu’n polisïau. Efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth a roddwch i ni pan fo’n ofynnol i wneud hynny yn unol â’r gyfraith.

Rydym yn defnyddio ac yn dadansoddi data cyffredinol i wella’r gwasanaethau a ddarparwn, a, lle bo’n briodol, i adrodd i gyllidwyr. Mae’r ffyrdd eraill rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth yn amrywio, yn dibynnu ar sut a pham rydych chi wedi rhoi eich manylion i ni. Sgroliwch i lawr i weld ar gyfer beth rydym yn defnyddio gwybodaeth ym mhob categori.

Gohebiaeth

Os ydych chi’n cysylltu â ni, mewn person, drwy’r post, ar ein gwefan, drwy e-bost, dros y ffôn neu’n uniongyrchol drwy’r cyfryngau cymdeithasol, byddwn yn casglu rhywfaint o wybodaeth bersonol fel eich enw a’ch gwybodaeth gyswllt i ddarparu’r gefnogaeth neu’r gwasanaeth rydych wedi gofyn amdano. Er enghraifft, i ymchwilio ac i ymateb i ymholiadau rydych chi’n eu gwneud, neu geisiadau am gyngor.
Rydym yn cadw gohebiaeth ysgrifenedig ar gyfer ein cofnodion. Mae gohebiaeth drwy e-bost yn cael ei storio yn ein system e-bost, gohebiaeth drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn y system briodol, a gohebiaeth drwy’r post yn ein swyddfa.
Os ydych chi’n cyfathrebu â ni fel cynrychiolydd cymunedol Masnach Deg, efallai y bydd manylion pellach eich gohebiaeth yn cael ei storio yng nghronfeydd data ein cymunedau Masnach Deg. Ewch i’n hadran cysylltiadau cymunedau Masnach Deg yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn am ragor o wybodaeth.

E-gylchlythyr

Pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer ein gwasanaeth e-gylchlythyr, rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi. Dim ond ar gyfer y gwasanaeth hwn y defnyddir yr wybodaeth hon. Mae’r e-gylchlythyr yn cynnwys gwybodaeth am ein gwaith, ein partneriaethau gwaith, a gwybodaeth am Fasnach Deg. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg drwy glicio ar ddolen yn y cylchlythyr ei hun. Yn aml, bydd cylchlythyrau’n cynnwys dolenni i’n gwefan, gwefannau neu ffurflenni eraill, ac i arolygon sy’n ymwneud â Masnach Deg. Gallai hyn arwain atoch chi’n darparu mwy o’ch gwybodaeth ar gyfer categorïau eraill yn y rhestr hon.
Rydym yn cadw eich gwybodaeth yn ein darparwr trydydd parti, sef Campaign Monitor, ar hyn o bryd. Mae’r gwasanaeth e-gylchlythyr yn tracio eich rhyngweithiadau gyda’r cylchlythyrau, fel agor a chlicio.

Ffurflenni – yn cynnwys ceisiadau am adnoddau

Yn aml, mae gennym ffurflenni ar ein gwefan sy’n casglu gwybodaeth gennych chi am wahanol resymau. Er enghraifft, efallai yr hoffech i ni bostio rhywfaint o adnoddau Masnach Deg atoch chi, neu efallai y byddwch yn gwneud cais am arian ar gyfer gweithgaredd Masnach Deg. Dim ond at y diben sydd yn cael ei ddisgrifio ar y ffurflen mae’r wybodaeth sydd yn cael ei chasglu ar y ffurflenni hyn yn cael eu defnyddio, er enghraifft i bostio’r adnoddau rydych chi’n gofyn amdanynt, neu i brosesu cais am gyllid ac i’ch talu chi os ydych chi’n llwyddiannus.

Mae’r ffurflenni hyn yn cael eu cynhyrchu yn defnyddio systemau trydydd parti – google a surveymonkey ar hyn o bryd – sy’n cadw’r data i ni. Mae data o ffurflenni yn cael eu storio yn y systemau hyn, ac efallai y byddwn yn defnyddio data cyffredinol o’r ffurflenni hyn, er enghraifft, i ddangos faint o bobl a ofynnodd am adnoddau gennym ni.

Os ydy ffurflen yn gofyn os ydych chi eisiau ymuno â’n gwasanaeth e-gylchlythyr a’ch bod chi’n dewis ticio ie, bydd eich data o’r ffurflen yn cael ei ddefnyddio i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwnnw (gweler y manylion uchod).

Digwyddiadau

Os ydym yn rhedeg digwyddiadau a bod angen cofrestru ar eu cyfer, byddwn yn casglu eich data i gysylltu â chi am y digwyddiad, i weinyddu’r digwyddiad, ac i fodloni unrhyw ofynion sydd gennych mewn perthynas â digwyddiad (er enghraifft, gofynion dietegol neu hygyrchedd).

Gellid casglu’r wybodaeth hon drwy e-bost neu ddarparwr trydydd parti fel google forms neu Eventbrite. Byddwn ond yn defnyddio eich data mewn perthynas â’r digwyddiad penodol. Efallai y byddwn yn defnyddio data cyffredinol, fel dangos faint o bobl a ddaeth i ddigwyddiad, a dadansoddi’r rheiny a fynychodd yn ôl rhyw.

Rydym yn rhedeg digwyddiadau mewn partneriaeth â Hub Cymru Africa hefyd. Os yw eu system gofrestru nhw yn cael ei ddefnyddio, yna mae eu polisi preifatrwydd nhw yn berthnasol.

Defnydd o’r wefan

Pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan, rydym yn casglu gwybodaeth gyffredinol am sut rydych chi’n ei defnyddio, yn ogystal â gwybodaeth am y math o ddyfais rydych chi’n ei defnyddio i gael mynediad i’r wefan (e.e. ffôn, tabled, cyfrifiadur). Mae’r data hwn yn ein helpu ni i greu profiad ar-lein gwell i chi; er enghraifft, ei gwneud yn haws i chi ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, neu i drwsio elfennau sy’n gwneud y wefan yn anodd i’w defnyddio.

Ffeiliau testun ydy cwcis sydd yn cael eu gosod ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a gwybodaeth am ymddygiad ymwelwyr. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i ddeall sut rydych chi’n rhyngweithio â’n gwefan, i’n helpu i wella sut mae’r wefan yn gweithio, ac i lunio adroddiadau ar weithgareddau’r wefan.

Gallwch osod eich porwr i beidio â derbyn cwcis ond os wnewch chi hyn, efallai na fydd rhai o nodweddion ein gwefan yn gweithio mewn rhai achosion. Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Pan fyddwch chi’n cysylltu â gwefannau eraill, dylech ddarllen eu polisïau preifatrwydd eu hunain.

Cyfryngau cymdeithasol

Gallwch gysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol mewn dwy brif ffordd. Os ydych chi’n rhyngweithio â ni drwy negeseuon uniongyrchol, rydym yn ystyried hyn fel gohebiaeth (gweler yr adran ohebiaeth uchod).
Y ffordd arall o ryngweithio yw gyda’n proffiliau a’n tudalennau, er enghraifft drwy ddilyn, hoffi, neu rannu rhywbeth rydym wedi’i bostio. Nid ydym yn storio eich gwybodaeth cyfryngau cymdeithasol y tu allan i’r apiau hyn (Facebook, Twitter, Instagram ac ati), oni bai eich bod yn gyswllt cymuned Masnach Deg, ac wedi rhoi caniatâd i’r wybodaeth honno gael ei storio ar ein cronfeydd data.

Ymgeisio am swydd neu wirfoddoli gyda ni

Pan rydych yn ymgeisio am swydd, interniaeth neu i wirfoddoli gyda ni, rydym yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn gweinyddu ceisiadau. Mae ceisiadau’n cael eu storio ar ein system, sef Google Drive ar hyn o bryd. Mae ceisiadau llwyddiannus yn cael eu cadw, ac mae ceisiadau aflwyddiannus yn cael eu dileu ar ôl cyfnod rhesymol o amser.

Rhoddi arian i ni

Os ydych yn rhoddi arian i ni, yr unig bryd y bydd eich manylion yn cael eu casglu fydd i brosesu’r rhodd ac i ddiolch i chi a’ch hysbysu chi pan fyddwn ni wedi cwblhau’r broses. Bydd manylion eich rhodd yn cael eu cadw fel cofnod ariannol at ddibenion cyfreithiol.

Cysylltiadau cymunedau Masnach Deg

Mae gennym nifer o gronfeydd data o gysylltiadau cymunedau Masnach Deg, boed hyn ar gyfer grwpiau Masnach Deg, busnesau, ysgolion, prifysgolion, hyrwyddwyr taleithiau ac yn y blaen. Mae’r wybodaeth hon yn cael eu rhoi i ni gan y grwpiau eu hunain, sydd yn cael eu rhannu gan drydydd parti gyda chaniatâd, neu yn cael eu casglu o wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd.

Mae’r cronfeydd data hyn yn cael eu defnyddio drwy gydol ein gwaith fel rhan o’n buddiannau busnes cyfreithlon, i ohebu â, anfon gwybodaeth at, a helpu i gefnogi, rhwydweithio a monitro’r mudiad Masnach Deg yng Nghymru. Ar hyn o bryd, Google Drive ydy’r system a ddefnyddiwn i storio’r wybodaeth hon.

Os ydych chi’n gyswllt cymunedol ac wedi rhoi eich caniatâd, bydd gwybodaeth bersonol benodol, fel eich enw a’ch manylion cyswllt, yn cael ei gwneud yn gyhoeddus ar ein gwefan mewn cysylltiad â’ch grŵp, i unigolion neu sefydliadau eraill gysylltu â chi. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl neu newid gyswllt penodol y grŵp ar unrhyw adeg, drwy e-bost (gwybodaeth@cymrumasnachdeg.org.uk) neu drwy’r post: Cymru Masnach Deg, 24 Plas Windsor, Caerdydd, CF10 3BY.

Sefydliadau trydydd parti

Rydym yn defnyddio nifer o wasanaethau trydydd parti yn ystod ein gwaith i gasglu neu brosesu data ar ein rhan, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u henwi yn yr adrannau uchod o’r hysbysiad preifatrwydd, gan gynnwys Google, Campaign Monitor ac Eventbrite. Efallai y bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych chi yn cael ei chynnal a’i phrosesu gennym mewn un o’r systemau trydydd parti hyn.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Mae am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth yn amrywio yn ôl sut rydym yn categoreiddio’r wybodaeth honno. Oherwydd ein bod yn cadw llawer o wybodaeth am sefydlu’r mudiad Masnach Deg yng Nghymru, a’r ymgyrch lwyddiannus i ddod yn Genedl Fasnach Deg Gyntaf y Byd, rydym yn cadw gwybodaeth a allai fod yn berthnasol i hyn at ddibenion archif a threftadaeth.
Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu ein systemau ar ddileu data personol arall, a byddwn yn diweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn maes o law.

Mynediad at eich gwybodaeth a chywiro eich gwybodaeth

Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod eich gwybodaeth bersonol yn gywir ac yn gyfoes. Gallwch ofyn i ni gywiro neu ddileu gwybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi. Gallwch ofyn i ni gyfyngu ar yr hyn a wnawn gyda’ch gwybodaeth hefyd.
Os hoffech gael copi o’ch gwybodaeth bersonol neu eich holl wybodaeth bersonol, anfonwch e-bost atom (gwybodaeth@cymrumasnachdeg.org.uk) neu ysgrifennwch atom i’r cyfeiriad canlynol: Cymru Masnach Deg, 24 Plas Windsor, Caerdydd, CF10 3BY.

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd

Efallai y byddwn yn diweddaru’r hysbysiad hwn o bryd i’w gilydd, a byddwn yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 17/05/2018.

Cwynion

Os oes gennych gwyn am sut rydym yn casglu neu’n defnyddio data, cysylltwch â ni fel y gallwn ymateb i’ch cwyn.
Mae gennych yr hawl hefyd i godi pryder neu gŵyn gyda Swyddfa’r Comisiynwyr Gwybodaeth. Am fwy o wybodaeth, ewch i: ico.org.uk/concerns

Sut i gysylltu â ni

Cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein polisi preifatrwydd neu am yr wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi: