Sefydliadau

  1. Aardvark Alternatives

    Mae Aardvark Alternatives yn Siop Bwyd Cyfan Annibynnol a Chanolfan Therapi yng Nghaerfyrddin, De Cymru. Maent yn gwerthu te, coffi a siocled Masnach Deg.

  2. Babipur

    Siop foesegol yw Babipur i’r teulu cyfan. Mae Babipur yn credu y dylai siopa moesegol fod yn hwyl, yn Fasnach Deg a heb ecsbloetio.

  3. Bala Sport

    Cydweithfa yw Bala Sport, wedi’i sefydlu i ehangu argaeledd a defnydd peli chwaraeon Masnach Deg a gynhyrchir yn foesegol (gan ganolbwyntio ar beli troed, peli rygbi a futsals yn bennaf) yn y DU a’r tu hwnt.

  4. Bay Coffee Roasters

    Mae Bay Coffee Roasters yn enillydd gwobr Blas Gwych ac yn rhostio amrywiaeth o goffi Masnach Deg ger arfordir Ceredigion. Mae eu rhostio yn cael ei bweru gan ynni adnewyddadwy ac mae’n hanfodo i flasu eu coffi Masnach Deg.

  5. Cynghrair Masnach Deg Conwy

    Rydym yn cefnogi ac yn hyrwyddo
    Masnach Deg i siopau, busnesau ac ysgolion lleol yng Nghonwy.

  6. Cyngor Tref Llanilltud Fawr

    Tref Masnach Deg yw Llanilltud Fawr sy’n ymrwymedig i gefnogi Masnach Deg.

  7. Daioni Organig

    Mae Daioni Organic wedi lansio ei amrywiaeth o goffi organig Masnach Deg, barod i yfed. Wedi’i gwneud a llaeth Cymraeg a choffi organig Masnach Deg o Fecsico.

  8. Fair and Fabulous

    Mae Fair and Fabulous yn darparu cynnyrch Masnach Deg a chyfeillgar i’r amgylchedd o safon, ac yn credu na ddylai siopa mewn ffordd foesegol olygu bod yn rhaid i gyfaddawdu ar ansawdd na gwasanaeth.

  9. Fforum Masnach Deg Y Fenni

    Mae’r Fforwm yn hyrwyddo Masnach Deg a gwerthu a defnyddio cynnyrch Masnach Deg gan fusnesau a sefydliadau lleol, gan drefnu digwyddiadau yn ystod Pythefnos Masnach Deg bob blwyddyn.

  10. Fforwm Masnach Deg Cas-gwent

    Tref Masnach Deg swyddogol yw Cas-gwent ac rydym yn annog unigolion a busnesau yng Nghas-gwent i helpu i wneud gwahaniaeth i’r byd drwy ddod yn Fasnach Deg.