Beth yw Masnach Deg?

Llun/Photo: Marc Treanor

Ffermio yw’r cyflogwr mwyaf yn y byd ond nid yw miliynau o bobl sy’n byw ac yn gweithio ar ffermydd tyddynwyr yn ennill digon i ddarparu ar gyfer naill ai eu hunain neu eu teuluoedd. Yn aml, y cymunedau hyn yw’r rhai sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan newid hinsawdd er eu bod wedi gwneud y lleiaf i gyfrannu ato.

Mae Masnach Deg yn fudiad byd-eang sy’n rhoi pobl a’r blaned o flaen elw. Pan fydd cynhyrchwyr yn derbyn pris teg am eu nwyddau mae’n arwain at well amgylchedd gwaith a gwell ansawdd bywyd iddynt hwy a’u teuluoedd. Mae Masnach Deg yn cymryd agwedd gyfannol trwy gysylltu cynhyrchwyr a defnyddwyr trwy wneud cadwyni cyflenwi yn fwy eglur a cynnig gwell dewisiadau ar gyfer siopa’n gyfrifol. Dylai cyfiawnder, tegwch a datblygu cynaliadwy fod wrth wraidd strwythurau masnach gyfartal ac mae Masnach Deg yn bartneriaeth ar gyfer newid a datblygu trwy fasnach.

Mae Masnach Deg yn cefnogi ei phartneriaid i gymryd perchnogaeth o’u busnes ac i rymuso gweithwyr i reoli eu dyfodol eu hunain a chydweithio’n ddemocrataidd. Pan fydd hyn yn digwydd, mae cynhyrchwyr yn fwy tebygol o ddewis datblygu arferion ffermio cynaliadwy a all helpu i liniaru’r difrod parhaus a achosir gan newid hinsawdd. Mae Masnach Deg hefyd yn cefnogi prosiectau datblygu cymunedol, addysg ac iechyd a hawliau dynol i bobl yn fyd-eang.

Rydym yn gweithio gyda ac yn cydnabod dau gorff Masnach Deg rhyngwladol: Masnach Deg Rhyngwladol a Sefydliad Masnach Deg y Byd.

Masnach Deg Rhyngwladol

Mae Masnach Deg (neu Fairtrade fel un gair yn y Saesneg) yn set o safonau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar gyfer cwmnïau a’r ffermwyr a’r gweithwyr sy’n cynhyrchu nwyddau fel bananas, coffi a siocled. Wrth brynu Masnach Deg, rydych chi’n cefnogi system sy’n gwarantu bod cynhyrchwyr yn derbyn prisiau gwell a thelerau masnach teg. Mae hyn yn helpu ffermwyr a gweithwyr i fuddsoddi mewn prosiectau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol o’u dewis eu hunain a all helpu i leddfu effeithiau newid yn yr hinsawdd a bod o fudd i bobl ledled y byd.

Mae Masnach Deg yn cysylltu ffermwyr a gweithwyr â defnyddwyr a busnesau ledled y byd i sicrhau bod pawb yn derbyn bargen deg. Mae Masnach Deg yn gweithio gyda chynhyrchwyr cynhyrchion sylfaenol i sicrhau eu bod yn derbyn cyflog teg a bod eu hawliau a’u diogelwch yn cael eu cynnal, yn unol â chanllawiau masnach deg.

Mae’r system Masnach Deg yn cynnwys:

  • tri rhwydwaith cynhyrchwyr rhanbarthol
  • dros 25 o sefydliadau Masnach Deg a sefydliadau marchnata cenedlaethol
  • Masnach Deg Rhyngwladol
  • FLOCERT (y prif ardystiwr annibynnol ar gyfer Masnach Deg)

Mae’r system hon yn rheoleiddio ac yn gweithredu’r marc Masnach Deg mae llawer ohonom yn adnabod.

Darganfyddwch fwy yma

Y Marc Masnach Deg

Mae dros 6,000 o gynhyrchion wedi’u hardystio fel ‘Masnach Deg’ ac yn cydymffurfio â safonau rhyngwladol caeth. Sefydliad Masnach Deg yw’r gyfundrefn yn y DU ar gyfer Masnach Deg a sefydlwyd ei logo cyfarwydd ym 1992. Mae’r Marc Masnach Deg yn gwarantu:

  • Isafswm pris y cytunwyd arno gyda chynhyrchwyr, a fydd yn talu’r cost cynhyrchu o leiaf
  • Premiwm ychwanegol y gellir ei fuddsoddi mewn prosiectau sy’n gwella datblygiad cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol
  • Mae rhwydweithiau cynhyrchwyr yn darparu cefnogaeth a hyfforddiant am ddim
  • Pwyllgor cydweithredol neu bwyllgor gweithwyr sy’n caniatáu i fenywod chwarae rôl weithredol
  • Amodau gwaith diogel a theg
  • Dulliau cynhyrchu amgylcheddol gyfrifol a chynaliadwy.

Darganfyddwch fwy yma

Sefydliad Masnach Deg y Byd (WTFO)

Mae Sefydliad Masnach Deg y Byd yn gymuned fyd-eang ac yn ddilyswr mentrau cymdeithasol sy’n ymarfer Masnach Deg yn llawn. Mae WFTO yn cael ei redeg yn ddemocrataidd gan y sefydliadau sy’n aelod iddo. Mae aelodau’n tueddu i gynhyrchu cynhyrchion eilaidd ac mae pob un yn bodoli i wasanaethu cymunedau ymylol. I fod yn aelod o WFTO, rhaid i fenter neu sefydliad ddangos eu bod yn rhoi pobl a phlaned yn gyntaf ym mhopeth a wnânt. Mae System Gwarant WFTO yn golygu bod yn rhaid i’r sefydliad neu’r busnes cyfan gyflawni’r safonau er mwyn cael eu gwirio, nid dim ond un cynnyrch, cynhwysyn neu gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys asesiad o strwythur a model busnes y fenter, ei gweithrediadau a’i chadwyni cyflenwi.

10 egwyddor Masnach Deg

Mae dros 450 o sefydliadau yn aelodau gwarantedig o Sefydliad Masnach Deg y Byd, a gallant ddefnyddio’r label aelod gwarantedig ar eu cynhyrchion. Mae Sefydliad Masnach Deg y Byd yn cynnal dilysu a monitro i sicrhau bod yr egwyddorion hyn yn cael eu cynnal. Rhaid i aelodau ddangos eu bod yn cwrdd â 10 Egwyddor Masnach Deg, sy’n nodi’r ffyrdd y mae Mentrau Masnach Deg yn cael eu sefydlu ac yn ymddwyn i sicrhau eu bod yn rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf.

Dysgwch fwy

Dyma’r 10 egwyddor:

Description of the 10 Fair Trade principles
WFTO