Croeso Cynnes i Gymru i’r Gynhadledd Rhyngwladol Trefi Masnach Deg

Mehefin 6, 2019

Croeso Cynnes i Gymru i’r  Gynhadledd Rhyngwladol Trefi Masnach Deg.

Bu ymgyrchwyr ledled Cymru yn gweithio gyda’u gilydd dros ddegawd yn ôl i wireddu’r weledigaeth bod Cymru am ddod yn Genedl Masnach Deg. Ar 6 Mehefin 2008, cafodd Cymru ei ddatgan yn Genedl Masnach Deg gyntaf y byd. Heddiw, rydym yn ddathlu un ar ddeg o flynyddoedd o gymunedau yng Nghymru yn hyrwyddo telerau masnach tecach i ffermwyr a gweithwyr ar draws y byd.

Ond yn y dyddiau cynnar, fe ymddengys nad oedd llawer yn rhoi sylw i lwyddiant rhyfeddol yr ymgyrch hon. Ymgyrch sy’n cynnwys busnesau, ysgolion, sefydliadau ffydd, undebau, llywodraeth leol a chenedlaethol a phawb arall rhyngddynt, â gweledigaeth o sicrhau pris teg i ffermwyr filoedd o filltiroedd i ffwrdd. Ymgyrchodd Cymru a’r Alban gyda’u gilydd, gyda Alban yn cael eu adnabod fel Cenedl Masnach Deg yn 2012.

Ers hynny mae Gogledd Iwerddon hefyd wedi ennill y teitl.  Heddiw, mae gwledydd eraill ledled y byd yn gweithio tuag at yr un nôd. Rhoddir y teitl Cenedl Masnach Deg, ar sail restr o feini prawf, gan gynnwys cefnogaeth llywodraethol i Fasnach Deg a chanran penodol o drefi yn hyrwyddo Masnach Deg.

O ddechreuadau diymhongar, mae Trefi Masnach Deg bellach yn fudiad byd-eang, gyda dros ddwy fil o drefi mewn tri deg pedwar o wledydd. Mae dros deugain o Drefi Masnach Deg yng Nghymru, o’r Fenni i Fangor, Cas-gwent i Wrecsam. Pob blwyddyn, mae cynrychiolwyr y mudiad byd-eang yn ymgasglu mewn gwahanol wledydd ar gyfer y Cynhadledd Rhyngwladol Trefi Masnach Deg.

Dechreuodd y digwyddiad blynyddol yma yn Llundain yn 2007. Fy nhro cyntaf yn y gynhadledd oedd yn Poznan, Gwlad Pwyl yn 2012. Mae cynrychiolwyr y mudiad yng Nghymru wedi ymuno â chynadleddau ym Mryste, Brwsel, Libanus, Lyon, Oslo, Malmo, Saarbrucken, ac yn fwyaf diweddar Madrid. Rydw i wedi bod yn ffodus i fynychu nifer o’r cynadleddau hyn dros y blynyddoedd, ac mae nhw i gyd wedi bod yn arbennig iawn.

Maent yn benwythnosau lle mae cynrychiolwyr o dros ddeg ar hugain o wledydd sy’n hyrwyddo Masnach Deg, yn dod ynghyd â chynhyrchwyr Masnach Deg o Dde America, Asia ac Affrica.
Oes gen i hoff gynhadledd? Anodd dewis, ond Baskinta sy’n dod i’r brig. Mae Libanus tua maint Cymru, gyda 1.5m o ffoaduriaid o Balesteina a Syria yn byw mewn gwlad a phoblogaeth o tua 4m. Mae’r bobl yn groesawgar, mae’r tirwedd yn syfrdanol ac mae eu cynnyrch mor flasus.

Mae’r lletygarwch yn syfrdanol ac roedd yn hynod cael y cyfle i ymweld â ffermwyr Masnach Deg, sydd yn gwerthu eu cynnyrch i farchnadoedd lleol a rhyngwladol. Weithiau mae’n anodd credu y gall ein dewisiadau siopa wneud gwahaniaeth go iawn. Ond, gyda’n gilydd, mae’r ffordd rydym yn gwario ein harian a chydweithio yn arwain at effaith gadarnhaol syfrdanol ym mywydau cynhyrchwyr a’u cymunedau.

Dros y blynyddoedd, trwy stori ein taith Cenedl Masnach Deg, cyflwynais Gymru i’r byd. Mae’n anhygoel credu bod pobl ym mhob rhan o’r byd yn ymwybodol o’n hymgais i ddangos undod i ffermwyr a’u cymunedau, ble bynnag y bônt.

Edrychaf ymlaen at fis Hydref, pan fydd y Gynhadledd Rhyngwladol Trefi Masnach Deg  yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd. Y tro cyntaf y bydd y gynhadledd yn ymweld â Chymru, a gyda hi, cynrychiolwyr y mudiad byd-eang.

Bydd yn gyfle i ymestyn croeso cynnes i’r Mudiad Trefi Masnach Deg, i ddod â phobl ynghyd, arddangos Cymru fel Cenedl Masnach Deg cyntaf y byd ac ysbrydoli cenhedloedd eraill i ymuno â ni. Ymunwch a ni, wrth i ni ddod â’r byd i Gymru.