Neges newydd i’n cefnogwyr: Covid-19

Ebrill 28, 2020

Yn ein diweddariad am ein hymateb i COVID-19, rydym yn edrych ar yr hyn yr ydym yn ei wneud yma ym Masnach Deg Cymru a sut gallwn ymuno trwy barhau i ymgyrchu, trwy ein cysylltiadau byd-eang a thrwy gael hwyl.

Darllenwch ein diweddariad diwethaf.

Parhau i ymgyrchu

Ymunon ni yn yr wythnos chwyldro ffasiwn APR o 20-26  – darllenwch ein blog ar effaith uniongyrchol Covid 19 ar weithwyr dillad ar draws y byd, ac am ffyrdd y gallwch barhau i ymgyrchu dros ffasiwn tecach yn ddiogel o’ch cartrefi. Peidiwch anghofio rhannu eich gweithredoedd gyda ni ar FB, Twitter, Instagram neu ebost.

Cysylltiadau byd-eang

Mae Masnach Deg Rhyngwladol wedi gwneud newidiadau cyflym a thymor byr i Safonau Masnach Deg er mwyn helpu cynhyrchwyr sydd wedi eu heffeithio gan y pandemig sy’n parhau.  Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i gynhyrchwyr ar yr adeg hon gyda phremiymau Masnach Deg. Mae Swyddfa Eiriolaeth Masnach Deg wedi bod yn cadw cofnod o’r datblygiadau yn y mudiad Masnach Deg yn fyd-eang.  Os oes gennych ddiddordeb ym manylion Masnach Deg – dyma’r lle i chi!

Cael hwyl