Cymru’n dathlu ei phen-blwydd yn sgîl cael ei chyhoeddi’n Genedl Masnach Deg
Mehefin 5, 2020Mae Cymru Masnach Deg, gyda chefnogaeth grwpiau cymunedol, yn dathlu pen-blwydd Cymru yn sgil cael ei chyhoeddi’n Genedl Masnach Deg.
Ar 6 Mehefin 2008, daeth Cymru yn Genedl Masnach Deg gyntaf y byd. Ddydd Sadwrn yma, bydd Cymru Masnach Deg, y mudiad sy’n cynrychioli’r mudiad Masnach Deg yng Nghymru, ynghyd â’i grwpiau cymunedol, yn dathlu’r pen-blwydd. Ond gyda COVID-19 yn taflu cysgod ar y dathliadau, te parti a chacennau siocled eleni, mae gwirfoddolwyr ar draws y wlad wedi ymuno i wneud fideo ar-lein.
Daeth Cymru’n genedl Masnach Deg gyntaf y byd yn 2008, camp aruthrol a ddigwyddodd oherwydd y llu o wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol ar draws y wlad a oedd wedi codi ymwybyddiaeth ac ymgyrchu o’i blaid. Mae’r pen-blwydd yn cyd-fynd â’r Wythnos Gwirfoddolwyr, ac mae’r fideo’n dangos mai’r bobl bwysicaf yn y mudiad Masnach Deg yw’r rheiny sy’n gwirfoddoli yn eu cymunedau lleol.
Mae’r sector cynnyrch a gwasanaethau moesegol yn y DU wedi tyfu mwy na £40bn ers 2008, gyda chartrefi bellach yn gwario £1,263 y flwyddyn ar gyfartaledd ar nwyddau moesegol, ac mae 82% o ddefnyddwyr y DU yn gofalu am Fasnach Deg. Ynghyd â’r pris isafswm sy’n talu am gostau cynhyrchu, mae cynhyrchwyr yn derbyn premiwm Masnach Deg hefyd, sef swm ychwanegol o arian sydd yn cael ei ddefnyddio gan weithwyr a ffermwyr gyda’i gilydd i wella eu hamodau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Yn 2018, cynhyrchwyd bron i €34 miliwn mewn Premiwm Masnach Deg gan farchnad y DU ar gyfer cynhyrchwyr Masnach Deg.
Mae’r mudiad Masnach Deg wedi bod yn ymateb i’r argyfwng Covid-19. Mae cynhyrchwyr bananas yn Ecuador yn buddsoddi eu premiwm i brynu offer meddygol hanfodol, mae ffermwyr coffi yn Peru yn darparu diogelwch bwyd i bobl sy’n aros gartref, ac mae cynhyrchwyr peli chwaraeon Masnach Deg bellach yn creu dros 10,000 o fygydau wyneb i’w cymunedau lleol, er enghraifft.
Mae dwy gronfa newydd wedi cael eu cyhoeddi gan y mudiad Masnach Deg byd-eang i helpu i gefnogi cynhyrchwyr Masnach Deg sydd ag anghenion brys a hefyd, tuag at eu gwytnwch i barhau fel busnesau yn y dyfodol.
Dywedodd Eluned Morgan AS, y Gweinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol a’r Iaith Gymraeg:
“Rydym yn falch mai Cymru yw’r Genedl Masnach Deg gyntaf yn y byd. Mae Cymru’n llawn pobl sy’n rhoi’r amser a’r egni i greu byd gwell a thecach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac mae dangos hyn i’r byd yn rhan bwysig o’n strategaeth ryngwladol.
Rydym wedi ymrwymo i adeiladu ein henw da fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Ym mis Mawrth, fe wnaethom lansio Partneriaeth Coffi 2020 i Daclo Newid yn yr Hinsawdd, a fydd yn cefnogi dros 3,000 o ffermwyr coffi Masnach Deg yn Uganda, ac mae ein rhaglen Cymru ac Affrica yn parhau i ddarparu grantiau bach i grwpiau Masnach Deg ar draws Cymru i adeiladu partneriaethau gyda chynhyrchwyr yn Affrica. ”
Meddai Aileen Burmeister, Cydlynydd Cenedlaethol Cymru Masnach Deg:
“Nawr yn fwy nag erioed, gallwn weld yr effaith gadarnhaol mae Masnach Deg yn ei chael, ac rydym eisiau diolch i’r holl wirfoddolwyr ar draws Cymru sy’n parhau i godi ymwybyddiaeth am Fasnach Deg.
“Mae cyfyngiadau Covid-19 yn effeithio ar gynhyrchwyr Masnach Deg, ac rydym i gyd yn gwybod bod ffermwyr a gweithwyr ar draws y byd yn wynebu lefelau enfawr o ansicrwydd ynglŷn â’u dyfodol. Mae marchnadoedd stoc byd-eang yn gostwng, sy’n golygu bod ffermwyr a gweithwyr yn cael llawer llai am eu cynnyrch. Yn yr amseroedd hyn, gallwn weld o ddifrif pa mor bwysig ydy pris isafswm Masnach Deg.
“Mae pob un ohonom yn gallu chwarae ein rhan drwy geisio prynu cynnyrch Masnach Deg lle y gallwn, rhannu straeon Masnach Deg, a chymryd rhan mewn gweithgareddau Masnach Deg lleol. Mae dros 30 o grwpiau Masnach Deg yn weithredol ar draws Cymru, sy’n gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth, trefnu digwyddiadau, rhoi sgyrsiau ac wrth gwrs, mwynhau cacen a phaned Masnach Deg. Mae’r gweithgareddau hyn yn gwneud gwahaniaeth i’r 1,7 miliwn o ffermwyr a gweithwyr Masnach Deg ar draws y byd.”