Cefnogwch siopau Masnach Deg yng Nghymru ar Ddydd Santes Dwynwen

Ionawr 25, 2021

Heddiw, mae Cymru’n dathlu Dydd Santes Dwynwen (Dydd Sant Ffolant Cymru), felly beth am ddewis anrheg arbennig a fydd yn lledaenu ychydig o gariad ar draws y byd?

Porwch drwy ein canllaw Masnach Deg â dewis llaw, a fydd yn cefnogi siopau moesegol ym mhob rhan o Gymru.

O siocled i nwyddau cartref, mae ein siopau masnach deg ar-lein yn cefnogi crefftwyr a chrewyr o bob cwr o’r byd.

Gallwch edrych ar y rhestr lawn o siopau masnach deg yng Nghymru yma – efallai y byddwch yn dod o hyd i’r anrheg berffaith honno i rhywun rydych chi’n ei garu.

Gosodwch yr awyrgylch gyda’r ffyn arogldarth aromatig hyn o Fairdos.com

Rhowch anrheg o waith llaw.  Mae gan Eighteen Rabbit yn y Gelli Gandryll amrywiaeth o Nwyddau Cartref a Gemwaith unigryw.

Coginiwch rysait blasus yn defnyddio cynhyrchion masnach deg.

Gwnewch eich hun yn gyffyrddus a swatiwch gyda Cwtch Cushion o Sussed. Mae’r siop nwyddau cartref ym Mhorthcawl yn cynnig amrywiaeth o nwyddau cartref hardd a chynhyrchion bwyd masnach deg.

Ydych chi sngen cannwyll ar gyfer eich cinio rhamantus? Peidiwch ag edrych dim pellach. Mae’r Canhwyllau Dalit o The Dragons Garden yn Llansadwrn yn foesegol ac yn hardd.

Pwy sydd ddim yn caru bocs o siocledi neu Truffles… rhowch gynnig ar y Truffles masnach deg hyn o Health and Food,, Llanwrst.

Ydy’n well gennych chi wneud eich anrhegion eich hun? Beth am brynu rhywfaint o ias sidan masnach deg o Fair and Fab yng Nghastell Newydd Emlyn, a chreu eich anrheg arbennig eich hun.

Os ydych chi’n teimlo wedi’ch ysbrydoli neu’n meddwl y bydd y canllaw hwn yn helpu eraill, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, yn defnyddio’r hashnod #fairtradewales

Pam Prynu Masnach Deg?

Mae prynu masnach deg yn rhoi tawelwch meddwl i chi fod y cynnyrch wedi’i gynhyrchu gyda safonau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd uchel ar waith. Sut oedd yr amodau ble cafodd y cynnyrch ei wneud? A oedd y gweithwyr yn gweithio oriau hir am gyflog isel? P’un a ydych chi’n prynu coffi, siocled neu emwaith fel anrheg eleni, gwnewch yn siŵr bod eich dewis yn cefnogi’r cyflenwr hefyd.

Edrychwch ar ein blog diweddaraf yma sy’n edrych ar bob pwynt ychydig yn fwy ac yn esbonio sut mae eich harcheb yn cael effaith.

Blog gan Jenny Carew.