Croeso Kadun

Medi 7, 2021

Y mis yma, rydym yn croesawu aelod newydd i’r tîm, Kadun Rees, a fydd yn gweithio yng Nghymru Masnach Deg fel ein Swyddog Cymunedol a Chyfathrebu. Mae Kadun yn ymuno â ni o Age Cymru, lle bu’n Swyddog Cymorth Gwasanaethau Gwirfoddol, ac mae wedi graddio’n ddiweddar gyda gradd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth o Brifysgol Caerdydd. Mae Kadun yn hoff iawn o goffi ac mae’n edrych ymlaen at samplu rhai o’r coffi Masnach Deg niferus sydd ar gael.

Bydd Kadun yn cefnogi cymunedau Masnach Deg yng Nghymru drwy drefnu cyfarfodydd rheolaidd a thrwy reoli ein hadnoddau, yn ogystal â chefnogi ein rhwydwaith cefnogwyr ehangach drwy ein cylchlythyrau a’n cyfryngau cymdeithasol. Ac wrth gwrs, bydd Kadun yn ymwneud yn helaeth â’r Bythefnos Masnach Deg bob blwyddyn.

Meddai Aileen Burmeister, Pennaeth Cymru Masnach Deg:

“Rydym yn falch iawn o groesawu Kadun i’r tîm, ac i gyflwyno’r mudiad Masnach Deg yng Nghymru i’n haelod newydd. Mae profiad Kadun o wirfoddoli a’i wybodaeth am faterion byd-eang yn golygu y bydd yn ased mawr i’r tîm.”

Meddai Kadun:

“Mae’n bleser mawr i ymuno â’r tîm! Mae’n fwy pwysig nawr nag erioed i ni roi’r blaned, a nhw sy’n cael ei effeithio mwyaf yn gyntaf. Rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at y gwaith gwych mae Cymru Masnach Deg a phob grŵp Masnach Deg yn gwneud yma yng Nghymru. Mae’r rôl hefyd yn gyfle perffaith i mi danio fy nghariad am goffi.”

Gallwch gysylltu drwy anfon e-bost i info@fairtradewales.org.uk neu drwy anfon e-bost at Kadun yn

uniongyrchol yn Gymraeg neu’n Saesneg – kadun@fairtradewales.org.uk.