Noson Cwis Masnach Deg y Barri yn Codi £500 i Elusennau Lleol
Chwefror 10, 2026
Mae’r llun yn dangos y cwis feistr, y Cynghorydd Nic Hodges, gyda’r Maer, y Cynghorydd Dennis Clarke, a chadeirydd Pwyllgor Cyfrifol yn Fyd-eang y cyngor, y Cynghorydd Ian Johnson.
Beth sydd gan ddaearyddiaeth, bananas Masnach Deg ac ystafell yn llawn cwiswyr cystadleuol yn gyffredin? Ar noson Ionawr y 28ain, daethant i gyd gyda’n gilydd ar gyfer Cwis Masnach Deg Mawr y Barri yn Craft Republic ar y Glannau.
Wedi’u drefnu gan Gyngor Tref y Barri a’i gefnogi gan Fasnach Deg Cymru, croesawodd cwis blynyddol y Maer dros 60 o bobl am noson fywiog o gwestiynau roedd yn crafu pennau. Wrth ochr y rowndiau cwis, fe sialensiwyd nhw’r cyfranogwyr gyda chwestiynau ar thema Masnach Deg a ysgogodd sgwrs am fasnach foesegol.
Roedd yna wybodaeth Masnach Deg ar gael ar fyrddau drwy gydol y noson, ac roedd gwobrau Masnach Deg ar gael i enillwyr y cwis a’r raffl.
O ddiolch i bawb a gymerodd ran, codwyd £500 i Apêl Elusennol Maer y Barri, gan gefnogi Mind ym Mro Morgannwg a Valeways.
Cynhaliwyd y cwis gan y Cynghorydd Nic Hodges, gyda Maer y Barri, y Cynghorydd Dennis Clarke, yn tynnu sylw at faint a ddysgodd pobl ar y noson:
“Bydd rhai pobl wedi gwybod mai Cymru ddaeth yn genedl Masnach Deg gyntaf y byd yn 2008, ond dydw i ddim yn credu bod llawer yn gwybod mai’r Swistir sy’n bwyta’r mwyaf o fananas Masnach Deg!”
Roeddem yn falch iawn i gefnogi’r digwyddiad yma gydag ein cynllun grantiau Masnach Deg Cymru, gan helpu dod â Masnach Deg i ganol noson gymunedol. Diolch yn fawr iawn i Gyngor Tref y Barri, Craft Republic am gynnal y digwyddiad, ac i bawb a gymerodd ran – mae’n amlwg bod gwybodaeth Masnach Deg yn berffaith ar gyfer noson cwis!