Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

Tachwedd 2022 – Dydd Iau 1st Mehefin 2023

Mae ymgyrchwyr wedi cryfhau proses gaffael y Senedd, ond mae angen gwneud rhagor o waith

Dros y misoedd diwethaf, mae Cymru Masnach Deg wedi ffurfio partneriaeth gyda grŵp o sefydliadau i sicrhau bod cyfrifoldeb byd-eang a chyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol yn cael ei gynnwys o fewn deddf bwysig sy’n cael ei hystyried gan y Senedd ar gaffael cyhoeddus.

Mae’r Senedd wedi pasio deddf ar gaffael cyhoeddus, a fyddai’n hyrwyddo Gwaith Teg yng Nghymru. Fe wnaethom godi pryderon ynghylch y ffaith nad oedd drafft cyntaf y Ddeddf yn sôn o gwbl am gyfrifoldeb byd-eang mewn cadwyni cyflenwi yng Nghymru. Diolch i’ch cefnogaeth, rydym wedi gallu sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei ddiwygio. Er y byddem wedi hoffi gweld newidiadau pellach, rydym yn hyderus, y gallai’r ddeddfwriaeth hon gael effaith sylweddol, a gwthio mwy o gyrff cyhoeddus i weithredu mwy ar gaffael nwyddau Masnach Deg.

Pam bod caffael yn bwysig i Fasnach Deg?

Mae Masnach Deg wedi bod yn fudiad hynod lwyddiannus, ac wedi creu prynwyr ymwybodol ers 1992 ar draws y DU – ac erbyn hyn, Masnach Deg ydy’r label ardystio mwyaf cydnabyddedig. Mae caffael cyfrifol byd-eang wrth wraidd yr hyn y mae Masnach Deg yn sefyll amdano. Mae caffael nwyddau Masnach Deg yn golygu sefyll mewn undod â ffermwyr a gweithwyr, a sicrhau masnach a chyfiawnder cymdeithasol trwy gydol y gadwyn gyflenwi.

System ardystio yw Masnach Deg, sy’n ceisio sicrhau bod set o safonau’n cael eu bodloni wrth gynhyrchu a chyflenwi cynnyrch neu gynhwysyn. Mae Masnach Deg yn sicrhau bod isafswm pris yn cael ei dalu, a bod amodau gweithio diogel a theg yn cael eu sicrhau. Mae hefyd yn golygu mwy o barch at yr amgylchedd, a thrwy gydweithfeydd neu bwyllgorau gweithwyr, mae menywod yn cymryd rôl weithredol. Mae’r premiwm Masnach Deg, sef swm ychwanegol o arian ar ben yr isafswm pris sy’n cael ei dalu, yn cael ei ddefnyddio i fuddsoddi mewn prosiectau ar gyfer y cymunedau hynny ac yn cytuno’n ddemocrataidd sut i wario’r arian hwnnw.

Gweledigaeth Cymru Masnach Deg yw gweld byd cyfartal yn masnachu’n deg. I ni, mae’n bwysig ein bod ni’n sicrhau bod deddfwriaeth gaffael cyhoeddus yng Nghymru yn ystyried ei heffeithiau byd-eang, yn ogystal â sicrhau bod cadwyni cyflenwi lleol yn deg a chyfartal. Felly, beth yn union yw’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus, a beth rydyn ni’n ei wneud i sicrhau cyfrifoldeb byd-eang?

Cefndir y ddeddf; beth oedden ni eisiau, a beth wnaethon ni ei ennill

Daeth y Ddeddf allan o’r Comisiwn Gwaith Teg, er mwyn ceisio hyrwyddo Gwaith Teg yng Nghymru, a defnyddio caffael cyhoeddus fel ffordd o hyrwyddo Gwaith Teg. Gyda gwariant caffael blynyddol o £6.3 biliwn, mae gan y sector cyhoeddus yng Nghymru rôl enfawr i’w chwarae i helpu i sbarduno defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy – Nod Datblygu Cynaliadwy 12.

Drwy gaffael cyhoeddus teg, gall awdurdodau cyhoeddus nid yn unig hybu galw am gynhyrchion teg, ond gallant hefyd sicrhau newidiadau diwylliannol, sefydliadol a systemig o fewn eu sefydliadau a thu hwnt.

Roedd pasiad y Ddeddf yn gyfle pwysig i ddefnyddio pŵer caffael cyhoeddus i ddarparu canlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol i gefnogi 7 nod llesiant Cymru. Mae hyn yn arbennig o wir am gyflawni’r nod ‘Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang‘ sy’n ceisio gwneud ‘cyfraniad cadarnhaol i les byd-eang’.

Ond pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddrafft cyntaf y Bil, ni soniwyd am sicrhau Gwaith Teg i’r rhai yn y cadwyni cyflenwi sy’n dod mewn i Gymru. Fe wnaeth Cymru Masnach Deg, ochr yn ochr â sefydliadau partner, fynegi pryder bod hwn yn gyfle coll i sicrhau cyfrifoldeb byd-eang a chyfiawnder amgylcheddol.

Fe wnaethom gydweithio’n agos gyda Phwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb y Senedd i ddod o hyd i ffyrdd i gryfhau’r Bil, ac roeddem yn falch bod y pwyllgor trawsbleidiol hwn wedi cefnogi nifer o’n syniadau i osod dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus i ystyried cyfrifoldeb byd-eang o fewn eu harferion caffael. Roeddem yn arbennig o falch o weithio’n agos gyda chadeirydd y pwyllgor, Jenny Rathbone AS, yn ogystal ag aelodau’r pwyllgor, Jane Dodds AS, Peredur Owen Griffiths AS a Joel James MS. Roedd Llywodraeth Cymru’n parhau i wrthwynebu ychwanegu ymrwymiad penodol ar gyfrifoldeb byd-eang yn y Bil, ac yn dadlau, gan fod y saith nod llesiant eisoes wedi’u cynnwys, na fyddai’n briodol tynnu sylw at un nod llesiant yn fwy na’r lleill. Ond fe wnaeth ein pryderon barhau.

Fel y canfu Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, y nod cyfrifoldeb ar lefel fyd-eang yw’r “lleiaf dealladwy ac efallai gwanaf o ran cyflawni’r saith nod”. Yn dilyn cyfarfod gyda’r Dirprwy Weinidog, ac ymateb i bryderon tebyg a godwyd gan y pwyllgor, fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi ar gof a chadw ei disgwyliad y dylai cyrff cyhoeddus weithio mwy ar gaffael ar lefel sy’n gyfrifol yn fyd-eang. Ychwanegodd Llywodraeth Cymru y byddai canllawiau yn cael eu rhoi i gyrff cyhoeddus i’w helpu i gyflawni’r cyfrifoldeb yma. Felly, er ein bod yn siomedig na chafodd ymrwymiad cryfach i gyfrifoldeb byd-eang ei gynnwys ‘ar wyneb blaen y Bil’, rydym yn galonogol y bydd canllawiau cryfach yn cael eu cyhoeddi.

Beth nesaf?

Nawr mae’r Bil wedi dod yn Ddeddf yn swyddogol, mae gwaith bellach ar y gweill i ddechrau i ddatblygu’r ‘Canllawiau Statudol’. O ystyried addewidion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod hyn yn sbarduno’r cynnydd ar gaffael cynnyrch Masnach Deg, bydd Cymru Masnach Deg yn parhau i wneud popeth posibl i ddylanwadu a llywio’r Canllawiau Statudol.

Y sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw i sicrhau cyfrifoldeb byd-eang a chyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol yw:

Maint Cymru;
Amnest Rhyngwladol Cymru;
Cytûn;
WWF Cymru;
Oxfam Cymru;
WCIA.

Papurau briffio

Fe wnaethom ymateb i ymgynghoriad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

y Senedd ar y Bil. Darllenwch ein mewnbwn:

Sut y gallaf gymryd rhan?

Gallwch gymryd rhan drwy:

  1. Ysgrifennu at eich AS i esbonio pam mae Masnach Deg yn bwysig ac i gynnwys cyfrifoldeb byd-eang yn y Bil.
  2. Fynd i gymhorthfa eich AS i drafod y Bil ac i sicrhau bod Masnach Deg a chyfrifoldeb byd-eang yn cael ei gynnwys.
  3. Anfon neges drydar at eich MS neu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol eraill am y Bil, a thagio eich gwleidyddion lleol.