Grantiau dathlu cymunedol Masnach Deg

Gorffennaf 2023 – Dydd Llun 30th Medi 2024
10.03.23 Oasis, Cardiff Llun gan // Picture by: Nick Treharne

Cymru Masnach Deg yn lansio grantiau dathlu cymunedol

(Nid ydym bellach yn derbyn ceisiadau gan fod y grant wedi’i weinyddu’n llawn)

Ar ôl digwyddiad dathlu llwyddiannus yn y Senedd, rydym yn ymestyn ein dathliadau ar draws y wlad!

Eleni, rydym yn dathlu ein pen-blwydd yn 15 oed fel Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd. Lansiwyd y dathliadau ym mis Gorffennaf gyda digwyddiad yn y Senedd a nawr, rydym eisiau helpu cymunedau i ddathlu ar draws y wlad.

Ydych chi eisiau dathlu yn eich ardal? Ydych chi’n sefydliad cymunedol, neu’n fusnes bach, grŵp ffydd neu ysgol? Neu oes gennych chi ymrwymiad cryf i gynnal cyfiawnder cymdeithasol?

Gallwch wneud cais nawr am grant (uchafswm o £500) i dalu am gostau eich dathliad. Gallwch gynnal y gweithgaredd unrhyw bryd cyn mis 30 Medi 2024. Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried bob pythefnos, felly cyflwynwch eich cais cyn gynted ag y byddwch yn barod!

Mae yna lawer o bethau y gallech eu gwneud fel boreau coffi Masnach Deg, taith gerdded Masnach Deg a chacen Masnach Deg. Fodd bynnag, dyma rywfaint o enghreifftiau mwy creadigol o’r pethau y gallech eu gwneud:

  1. Cystadleuaeth gelf Masnach Deg 

Bob blwyddyn i ddathlu’r Bythefnos Masnach Deg, mae Bro Morgannwg yn cynnal Cystadleuaeth Celf Ieuenctid Masnach Deg. Beth am fod yn greadigol ac efelychu hyn yn eich ardal, efallai yn eich ysgol, neu rhwng cwpl o ysgolion. Ond, nid oes rhaid cyfyngu hyn i bobl ifanc; efallai y byddwch yn penderfynu cael cystadleuaeth gelf yn eich cymuned neu fel rhan o ddigwyddiad lleol. Ar ôl i chi gael eich darnau celf, gallech eu harddangos o amgylch y gymuned i ledaenu’r neges Masnach Deg ymhellach.  

  1. Sioe Ffasiwn Masnach Deg

Cysylltwch â’ch siopau ffasiwn cynaliadwy lleol neu ysgolion/colegau i drefnu sioe ffasiwn Masnach Deg. Gallai’r cyfranogwyr fod yn greadigol, a dylunio gwisg allan o ddillad Masnach Deg a dillad ail-law. Os wnewch chi gyfuno hyn gyda catwalk a lluniaeth Masnach Deg, a hyrwyddo ffasiwn cynaliadwy a Masnach Deg – mae pawb yn elwa!

  1. Trefnu swper Masnach Deg

Eleni, fe wnaethom drefnu digwyddiad swper Masnach Deg i ddathlu Pythefnos Masnach Deg 2023. Gallech roi cynnig ar rywbeth tebyg, a threfnu swper Masnach Deg hefyd. Yr awgrym yw defnyddio cymaint o gynhwysion Masnach Deg â phosibl i greu rhywbeth blasus. Mae’n ffordd berffaith o ddathlu cysylltiadau cymunedol ac ein cysylltiadau â’r byd ehangach trwy fwyd.