Ionawr 12, 2026
Ydych chi’n cael eich arwain gan werthoedd a gyda meddylfryd byd-eang, ac ymrwymiad dwfn i degwch? Mae Cymru Masnach Deg yn chwilio am Gadeirydd cefnogol, ymarferol, sy’n canolbwyntio ar bobl, i arwain ein Bwrdd. Defnyddiwch eich sgiliau i lywio ein cyfeiriad strategol, cefnogi gweithwyr a hybu Masnach Deg yng Nghymru.