Pythefnos Masnach Deg 2017

Mawrth 30, 2017

Mae Pythefnos Masnach Deg hynod brysur arall wedi hedfan heibio yng nghenedl Masnach Deg cyntaf y byd, ag am hwyl rydym wedi cael wrth deithio ar draws Cymru. Eleni, wnaethom ofyn i bobl ddod at ei gilydd i gymeryd egwyl Masnach Deg – a cafwyd eithaf cymysgedd – o Flash Mobs Mad Hatter i rasus crempogau, dathliadau diwrnod rhyngwladol y menywod i nosweithiau yn son am sut mae Masnach Deg yn cynnig llais i gymunedau gwledig ym Mhalesteina. Mae un peth yn sicr, mae pobl Cymru wedi dweud yn glir, bod Masnach Deg yn bwysig.

Y storiau…

Er ein bod yn caru y rhifau, uchafbwynt Pythefnos Masnach Deg bob blwyddyn yw bob amser y bobl; o gefnogwyr i gynhyrchwyr. Mae’n wych i fedru clywed straeon a dysgu mwy am sut mae gwerthu ar delerau Masnach Deg yn gallu helpu cymunedau i dorri’r gylched o dlodi; i atgoffa pam ein bod yn dewis Masnach Deg yn hytrach na nwyddau nad ydynt yn Fasnach Deg. Eleni, mi wnaethom wahodd Martha Musonza-Holman a Dyborn Chibonga i fod yn rhan o’n tîm yn mynychu digwyddiadau ledled Cymru.

Mae Martha yn wreiddiol o Zimbabwe, ag mae’n gwerthu crefftau Masnach Deg o’i phentref mewn digwyddiadau ledled y DU. Maw mwyafrif o’r crefftau wedi ei gwneud gan famau sydd a plant anabl. Mae swyddi yn brin yn Zimbabwe, a mae’r incwm sefydlog o waith y maent yn gallu gwenud o’i cartref yn golygu ei bod yn medru edrych ar ol ei plant yn well. Dros y 2 flynedd diwethaf, mae Love Zimbabwe, yr elusen sydd yn gwerthu’r crefftau wedi medru talu i adeiladu canolfan gymunedol yn y pentref i ddarparu lle diogol, a chanolfan addysg i’r plant sydd (ddim yn medru/ddim yn cael) mynd i’r ysgol oherwydd eu hanabledd. Mae Martha yn athrawes, ag ym mhob ysgol yr ydym yn ymweld, mae’r plant yn cael eu cyfareddu gan ei stori…

Mae Dyborn yn dod o Falawi ag mae’n gweithio gyda ffermwyr tyddyn reis a chnau, i wella ei bywydau drwy ennill mwy am eu cynnyrch. Efallai eich bod wedi gweld reis Kilombero neu cnau Liberation yn y siopau. Dyborn ydi Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Cenedlaethol Ffermwyr Tyddynnau Malaŵi (NASFAM). Mi wnaeth ymuno a ni am wythnos i siarad gyda ysgolion, busnesau, gwleidyddion a chefnogwyr rygbi am yr effaith y mae Masnach Deg yn cael ar y cymunedau hyn o ffermwyr yn Malawi.

Mae Dyborn wedi gweithio i NASFAM am 17 o flynyddoed, ag wrth ofyn idddo pam ei fod dal yn gweithio yno, ei ateb oedd:

“Mae mor ysbrydioledig i weithio gyda ffermwyr ar draws Malawi. Dim ond addysg cynradd sydd gan lawer, a phan rwyf yn ei gweld yn cael hyfforddiant i ddarllen a deallt cyllideb, ag yn medru rhedeg eu hunain, wel..”

– mae’n gwennu wedi hyny, wrth edrych allan drwy’r ffenest, wrth gael ei gludo nol i gaeau reis Malawi. Gwlad lle mae 60% o blant dan 5 oed yn dioddef o ddiffyg maeth difrifol. Mae ffermwyr NASFAM, sydd yn gwerthu ar dalerau Masnach Deg yn medru talu am fwyd i’w plant, am ei haddysg uwchradd, gwella ei dealltwriaeth ei hunain a gwneud eu busnes yn gynaliadwy at y dyfodol.

Uchafbwyntiau’r tîm 

Aileen: “Wrth roi botymau siocled allan i bob math o gefnogwyr rygbi yn paratoi ar gyfer gem Cymru V Iwerddon, mi fuais yn gofyn iddynt dau gwestiwn bach; ‘Ydych chi wedi clywed am Fasnach Deg? a ‘Beth ydych yn meddwl y mae Masnach Deg yn golygu?’ Roedd bron pawb yn gywir. Dwi’n gwybod bod yr ystadegau yn dweud y bod cydnybyddiaeth y marc Masnach Deg yn 83%, ond mi wnaeth y prynhawn yna wneud i mi sylweddoli yn wir beth mae’n feddwl.”

Elen: “Phyllis, 9 mlwydd oed ar y fferm, gyda’r gwartheg yn brefu yn y cefndir yn gofyn i Dyborn sut mae newid hinsawdd yn effeithio ef, a’i gyd ffermwyr, a be y gallwn ni wneud amdano.” Gwrandewch i be wnaeth hi ddysgu islaw..

Ffion: “Cael gweld dinasyddion ifanc Cymru yn hyrwyddo Masnach Deg, gan wybod bod statws Cymru fel cenedl Masnach Deg mewn dwylo da.”

Mwy o luniau a uchafwbwyntiau ar ein tudalen Flickr.

Beth Nesaf?  

Ydych chi wedi’ch ysbrydoli gan Bythefnos Masnach Deg? Os hoffech ddysgu mwy am sut y gallwch fod yn rhan o ddigwyddiadau Masnach Deg yn y dyfodol, dilynnwch ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol @FairTradeWales, neu cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr. Ymunwch a’r genedl Masnach Deg!