Gwirfoddoli: stori Tamika
Mawrth 11, 2024Gwirfoddolodd Tamiika gyda Hub Cymru Africa, yn benodol o fewn tîm Cymru Masnach Deg, yn helpu ni i drefnu ein digwyddiad dathlu 15bl fel Cenedl masnach Deg. Darganfyddwch mwy am sut aeth hwn gan Tamika.
Cefais y pleser o wirfoddoli gyda Cymru Masnach Deg, a chwblhau fy ngradd meistr mewn Amgylchedd a Datblygu o Brifysgol Caerdydd ar yr un pryd. Roedd y ddau yn cyd-fynd yn dda â’i gilydd, gan fy mod yn gallu profi sut roedd damcaniaethau ac egwyddorion oedd yn cael eu dysgu yn yr ystafell ddosbarth o amgylch masnach foesegol, cyfiawnder cymdeithasol, a chyfiawnder amgylcheddol yn trosi i broblemau’r byd go iawn a gweithio tuag at atebion.
Un o’r agweddau mwyaf buddiol o fy nghysylltiad â Cymru Masnach Deg oedd dathlu 15 mlynedd o Gymru fel Cenedl Masnach Deg. Roedd helpu i gydlynu’r digwyddiad dathlu 15 mlynedd yn y Senedd yn hynod o foddhaol, wrth i mi ymgysylltu â gwirfoddolwyr cymunedol sydd wedi bod yn eiriol dros Fasnach Deg ers blynyddoedd. Helpodd i gadarnhau pwysigrwydd gweithredu ar y cyd tuag at nodau a rennir.
Mae gwirfoddoli gyda Cymru Masnach Deg wedi bod yn rhan annatod o fy nhwf academaidd a phersonol yn ogystal â fy nhaith broffesiynol. Fe wnaeth fy ngrymuso i archwilio cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol yn hyderus wrth i mi ddefnyddio’r sgiliau rwyf wedi eu dysgu a’u datblygu drwy wirfoddoli, sydd yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, sgiliau cyfathrebu a thasgau gweinyddol cyffredinol. Roedd gweithio mewn tîm bach yn golygu fy mod yn gallu adeiladu perthnasoedd proffesiynol cryf, rhywbeth oedd o werth gwirioneddol i mi mewn cyfnod o weithio o bell ar ôl COVID.
Mae wedi atgyfnerthu fy ymrwymiad i eiriol dros gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol ac ar yr un pryd, fy arfogi gyda’r sgiliau i sicrhau newid ystyrlon. Rydw i’n ddiolchgar dros ben am y cyfle i fod yn rhan o Gymru Masnach Deg, am y bobl rydw i wedi’u cyfarfod, ac am y gwersi rydw i wedi’u dysgu.