Datganiad Sainsbury’s
Mai 30, 2017Mae Cymru Masnach Deg wedi cyhoeddi’r datganiad canlynol mewn ymateb i’r newyddion bod Sainsbury’s am ddisodli’r Marc Masnach Deg gyda’i honiad ‘masnach deg’ eu hunain ar eu te label eu hunain.
Cymru Masnach Deg yw’r sefydliad cenedlaethol ar gyfer addysg, polisi, caffael, cefnogaeth ac ymgyrchu Masnach Deg yng Nghymru, Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd. Mae Cymru Masnach Deg yn siomedig iawn o glywed am benderfyniad Sainsbury’s i dynnu eu hymrwymiad i ardystu Masnach Deg ar gyfer eu ystod te brand eu hunain; Label Aur, Coch, Gwyrdd a Rooibos.
Mae gan Gymru, fel Cenedl Fasnach Deg gyntaf y byd gefnogaeth am Fasnach Deg ar draws y gymdeithas: o’r llywodraeth i ysgolion, busnesau i brifysgolion. Nid yw Cymru Masnach Deg yn ymroddedig yn unig i hyrwyddo’r Marc Masnach Deg, ond hefyd yn cefnogi ystod o fentrau sy’n cadw at yr egwyddorion a nodir yn ‘Siarter o Egwyddorion Masnach Deg’.
Meddai Julian Rosser, Cydlynydd Cenedlaethol Cymru Masnach Deg:
“Rydym yn cefnogi arloesedd, ond rydym wedi ymrwymo i gynnal uniondeb yr egwyddorion Masnach Deg. Dydi’r symudiad yma gan Sainsbury’s ddim am gynnal egwyddorion Masnach Deg; gan ddryllio’r cydbwysedd rhwng ffermwyr a manwerthwyr pwerus. “
Mae Sainsbury’s wedi bod yn bencampwyr o Fasnach Deg ar hyd y blynyddoedd, ac maent wedi chwarae rhan gadarnhaol yn tyfu’r mudiad Masnach Deg yng Nghymru. Mae cynnig Sainsbury’s i symud i ffwrdd oddi wrth y nod Masnach Deg ar eu te label ei hun yn effeithiol am analluogi ffermwyr a defnyddwyr, ac yn tanseilio holl waith mae Sainsbury’s a’u cwsmeriaid wedi gwneud hyd yn hyn i helpu i wneud Masnach Deg y mudiad arweiniol, wedi eu yrru gan defnyddwyr, y mae heddiw.
Mewn llythyr agored at Sainsbury’s, dywed cynhyrchwyr te Masnach Deg yn Affrica:
“Rydym yn dweud yn uchel ac yn glir wrth Sainsbury’s: bydd eich model yn sicr yn ein dadrymuso. Rydym yn bryderus iawn am y pŵer a rheolaeth mae Sainsbury’s yn ceisio cryn drosom.”
Mae Cymru Masnach Deg yn sefyll mewn undod â’r 229,000 o ffermwyr sy’n pryderu y bydd model newydd Sainsbury’s yn fodd i ddadrymuso’r ffermwyr. Mae Cymru Masnach Deg yn annog Sainsbury’s i barhau eu trafodaethau gyda chynhyrchwyr i ddod o hyd i ateb teg a derbyniol i ffermwyr.
Gellir cael mwy o ddatganiadau ynglŷn â chyhoeddiad Sainsbury’s drwy’r dolenni isod: