Esgob yn cefnogi ymgyrch te Masnach Deg

Gorffennaf 25, 2017

Mae Esgob Abertawe ac Aberhonddu wedi ychwanegu ei gefnogaeth i rai o ffermwyr te tlotaf y byd mewn ymgyrch yn erbyn cawr o archfarchnad.

Mae’r Esgob John Davies wedi llofnodi ein deiseb yn erbyn penderfyniad Sainsbury’s i ddisodli ardystiad Masnach Deg gyda chynllun ‘wedi’u fasnachu’n deg’ eu hunain, yn y Sioe Frenhinol Cymru’r wythnos hon. Mae ffermwyr a gweithwyr te yn Affrica yn dweud y bydd y symudiad yn eu datrymuso, gan na fyddant bellach yn rheoli’r premiwm Masnach Deg.

Dywedodd yr Esgob John,

“Rydym i gyd yn caru paned ond nid ydym am i ffermwyr te tlotaf y byd i gael ei hecsbloetio gan ein harferiad yfed cenedlaethol. Mae’r ardystiad Masnach Deg yn eu diogelu – mae’n frand pwerus sy’n cael ei harchwilio’n allanol ac sy’n caniatáu i’r ffermwyr eu hunain i benderfynu sut mae’r arian maent yn ei gael yn cael ei ddefnyddio. Y perygl hefyd yw y gall y symudiad yma gan Sainsbury’s osod cynsail ar gyfer cynhyrchion eraill neu ar gyfer busnesau eraill i wanhau’r ardystiad Masnach Deg.”

Mae Masnach Deg yn cael ei ymddiried gan ffermwyr, gweithwyr a defnyddwyr oherwydd ei fod yn gwarantu pris isafswm ar gyfer y cynnyrch, yn ogystal â thalu premiwm ychwanegol i gymunedau i fuddsoddi yn ôl eu dewis. Mae Sainsbury’s wedi hir fod yn arweinydd yng nghefnogi Masnach Deg felly rydym yn siomedig o weld ei fod yn gwanhau ei ymrwymiad yn awr. Rydym yn dweud yn glir i’r cwmni ein bod yn caru ac yn ymddiried yn y marc Masnach Deg ac rydym am ei weld yn ôl ar eu te.

Os ydych yn mynd i Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, Canolbarth Cymru’r wythnos hon, galwch draw i babell Cytûn, Eglwysi Ynghyd yng Nghymru i arwyddo’r ddeiseb a mwynhau paned Masnach Deg.
Gallwch hefyd ychwanegu eich enw at y ddeiseb ar-lein YMA.

Esgob John yn arllwys cwpanaid o de i Ffion a Peredur Owen Griffiths o Cymorth Cristnogol