Gwisg Ysgol Masnach Deg Newydd i Ysgol Newydd

Gorffennaf 13, 2017

Mae Ysgol Gynradd y Trallwng (Eglwys yng Nghymru), ysgol gynradd newydd yng nghanolbarth Cymru wedi cyflwyno gwisg ysgol gotwm 100% Masnach Deg ardystiedig – wedi ei gaffael gan y gwneuthurwr dillad ysgol foesegol Koolskools.

Mae’r ysgol newydd, a fydd yn uno Ysgol Fabanod Oldford, Ysgol Babanod Ardwyn, Ysgol Feithrin a Babanod Gungrog ac Ysgol Iau Maesydre ym mis Medi wedi bod yn benderfynol o feithrin ethos yr ysgol newydd, sef “dod â’r gorau allan yn ei gilydd” i mewn i bob agwedd o fywyd yr ysgol, ac yn teimlo y bod gwisg ysgol yn lle da i ddechrau.

Meddai Justine Baldwin, y pennaeth newydd;

“Rwy’n falch iawn y bydd ein hysgol newydd yn cefnogi Masnach Deg mewn ffordd mor ymarferol a chynhwysfawr, a bod ein Corff Llywodraethol wedi bod mor gefnogol o’r fenter hon. Ar ôl i’r Llywodraethwyr weld y bod y wisg Masnach Deg yn cynnig ansawdd rhagorol a gwerth am arian, roedd y penderfyniad yn un hawdd. Rwy’n gobeithio y bydd y rhieni a gofalwyr yn gwerthfawrogi’r dewis yr ydym yn eu cymryd i ddangos ein disgyblion pa mor bwysig yw hi i gael ymwybyddiaeth o fasnachu moesegol, a sut y gall ein gweithredoedd ni yma yng Nghymru effeithio ar fywydau pobl eraill ar draws y byd.”

Mae Deilydd Portffolio Cyngor Sir Powys ar gyfer Ysgolion, y Cynghorydd Myfanwy Alexander wedi dangos ei chefnogaeth, a’i dymuniad i weld mwy o ysgolion ym Mhowys yn dewis Masnach Deg. Dywedodd:

“Rwy’n canmol cymuned yn Ysgol  Y Trallwng, dros y penderfyniad canmoladwy hwn, sy’n dangos gwerthoedd yr ysgol yn ymestyn i mewn i bob cornel o’u gweithgaredd. Byddwn wrth fy modd yn gweld ysgolion eraill ym Mhowys yn dilyn eu hesiampl.”

Mae Koolskools wedi ymweld â disgyblion yn y gwahanol ysgolion i siarad am eu gwisgoedd Masnach Deg newydd. Dysgodd y disgyblion sut y bydd eu gwisg ysgol newydd yn buddianu cymunedau ffermio cotwm ar raddfa fach yn India yn uniongyrchol; gan helpu eu cymheiriaid yn yr India i gael mynediad at addysg a gofal iechyd.

Rydym ni yn Gymru Fasnach Deg Cymru yn falch iawn bod yr Ysgol gynradd y Trallwng wedi cymryd y penderfyniad i ddefnyddio gwisgoedd a wnaed gyda chotwm Masnach Deg mewn ffatrïoedd moesegol. Mae’n wych gweld mwy a mwy o ysgolion yng Nghymru yn dewis yr opsiwn hwn wrth i ddisgyblion ddod yn ddinasyddion byd-eang gwybodus; yn dod i ddeall y gall gweithredoedd bach wneud gwahaniaeth mawr.

Rydym yn gobeithio y bydd mwy o ysgolion Cymru yn cychwyn ar eu teithiau cotwm Masnach Deg eu hunain.