Troi cefn ar Fasnach Deg: blas cas yn fy ngheg

Hydref 19, 2017

Diwrnod Gweithredu: 28 Hydref 2017

Efallai eich bod yn ymwybodol nad yw amrywiaeth o de label eu hun Sainsbury’s wedi ei ardystio’n Fasnach Deg ymhellach. Mae dros 100,000 o bobl wedi llofnodi deiseb sy’n galw ar Sainsbury’s i beidio â gollwng Masnach Deg. Mae llawer wedi cymryd camau i ddweud wrth Sainsbury’s nad ydynt yn hapus gyda’u label ‘wedi’u fasnachu’n deg’, ac mae’r glymblaid ‘don’t ditch Fairtrade’ yn cydlynu’r ymdrechion hyn gyda diwrnod gweithredu ar yr 28ain o Hydref.

Gall te fod yn bwerus. Mae pob paned Masnach Deg yn gwneud gwahaniaeth i fywydau ffermwyr a gweithwyr te mewn rhai o gymunedau tlotaf y byd. Mae Sainsbury’s yn gwanhau’r pŵer hwn drwy ollwng y marc Masnach Deg o rai o’u te brand eu hunain ac yn ei ailosod gyda’r label ‘wedi’u fasnachu’n deg’. Maent wedi penderfynu rhoi’r gorau i Fasnach Deg a threialu eu cynllun eu hunain. Ni fydd ffermwyr te bellach yn gallu penderfynu drostynt eu hunain sut i wario’r arian y maent wedi’i ennill trwy’r Premiwm Masnach Deg. Mae hefyd yn debygol iawn o gamarwain cwsmeriaid sy’n credu bod ‘wedi’u fasnachu’n deg’ yr un fath ag ardystiad Masnach Deg annibynnol. Nid ydyw.

Ymunwch â chymunedau ledled y DU am ddiwrnod gweithredu ar y 28ain o Hydref.
Mae mwy o wybodaeth ar sut i gymryd rhan, ac adnoddau dwyieithog ar gael yma.
NODWCH: Llythyr Cymraeg i rheolwyr siopau Sainsbury’s ar gael.