Mor hawdd a phaned o de
Rhagfyr 15, 2017Y tu ôl i’ch paned, mae pobl yn wynebu gwahaniaethu, cyflogau isel ac amodau gwaith gwael. Mae Ffion yn adlewyrchu ar ei phrofiad o gwrdd â Dorothy, ffarmwraig te Masnach Deg yn Kenya, ac yn sôn am sut mae ein dewisiadau, ni waeth pa mor fach, yn cael effaith fawr ar gymunedau ar draws y byd…
O’m fferm i, i’w fferm hi oedd taith o oddeutu 6000 o filltiroedd. Ges i fy magu ar fferm fechan ym mynyddoedd Sir Drefaldwyn; mae Dorothy’n ffarmwraig te yn nwyrain Kenya. Cyfarfuom y llynedd pan fues i Ddwyrain Affrica i ymweld â phobl yn cynhyrchu te, coffi, aur a blodau Masnach Deg.
Gall bywyd fod yn anodd i fenywod yng nghefn gwlad Kenya, lle mae diffyg hawliau tir a stereoteipiau rhyw yn gweithio yn eu herbyn. Er gwaethaf hyn, roedd Dorothy’n chwerthin yn heintus ac roedd hi’n llawn optimistiaeth. Trwy gefnogaeth Masnach Deg, mae hi wedi gallu prynu rhywfaint o dir am y tro cyntaf, gan ddarparu dyfodol diogel iddi hi a’i theulu.
Mae Masnach Deg yn cynnig cyfle i Dorothy ennill pris teg gwarantedig am ei the, ond nid dyna’r cyfan. Mae ardystiad Masnach Deg hefyd yn helpu ffermwyr bach i gael mynediad i farchnadoedd rhyngwladol, cael hyfforddiant a chefnogaeth ar faterion fel cydraddoldeb rhyw ac arferion ffermio da. Mae Masnach Deg hefyd yn darparu premiwm ychwanegol, y gall hi (ac aelodau ei chydweithrediad) ddewis sut i fuddsoddi i wella eu busnesau a’u cymunedau.
Weithiau mae’n teimlo fel bod anghyfiawnderau’r byd yn rhy fawr i’w datrys; gan deimlo ar adegau does fawr dim y fedrwch wneud amdanynt. Ond fel cwsmer, mae gennych y pŵer i wneud gwahaniaeth. Mae’r punoedd a’r ceiniogau yn eich poced yn union fel pleidleisiau am fyd tecach, mwy cyfartal. Trwy brynu eitemau sydd â marc Masnach Deg, gallwch wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Pobl fel Dorothy. Mae pobl Cymru yn sicr yn hoff o baned. Dychmygwch y werth o wneud pob un or paneidi rydym yn eu mwynhau yn Fasnach Deg! Fodd bynnag rydych chi’n cymryd eich paned, gwnewch yn siŵr ei fod yn Fasnach Deg.
Darganfyddwch ble gallwch brynu yma.