Ymunwch yn nathliadau pen-blwydd Cenedl Masnach Deg yn 10 oed!
Mai 18, 2018Mae Cymru yn dathlu ei 10fed pen-blwydd fel Cenedl Masnach Deg ar ddydd Mercher 6 Mehefin, ac rydym eisiau i bawb fedru ymuno. Hoffem i chi drydaru, anfon neges drwy facebook, neu anfon llun neu fideo byr ohonoch chi eich hun yn dweud Pen-blwydd Hapus.
Fideo – sut i gymryd rhan: cam wrth gam
- Os ydych chi eisiau, defnyddiwch rai o’r propiau Masnach Deg sydd gennych chi’n barod, neu argraffwch y deunyddiau pen-blwydd sydd ar gael, i fod yn rhan o’ch fideo.
- Gwnewch fideo byr (llai na 30 eiliad) yn dweud Pen-blwydd Hapus i Gymru fel Cenedl Masnach Deg. Gallech chi gynnwys atgof Masnach Deg arbennig sydd gennych chi, dweud pam bod Masnach Deg yn bwysig, neu sôn am beth mae bod yn rhan o Genedl Masnach Deg yn ei olygu i chi.
- Os oes gennych chi gyfrif Trydar neu Facebook, trydarwch neu postiwch y fideo ar y 6ed o Fehefin, a chofiwch wneud yn siŵr eich bod chi’n ein tagio ni @FairTradeWales ac yn defnyddio’r Hashnodau #FairTradeBirthday a #PenblwyddMasnachDeg.
- Os nad oes gennych chi gyfrif Twitter neu Facebook, anfonwch y fideo atom ni erbyn canol dydd ar ddydd Mawrth, y 5ed o Fehefin, er mwyn i ni allu trydaru neu bostio’r fideo ar eich rhan.
Llun – sut i gymryd rhan: cam wrth gam
- Defnyddiwch rywfaint o bropiau Masnach Deg sydd gennych chi’n barod, neu argraffwch y deunyddiau pen-blwydd sydd ar gael, i fod yn rhan o’ch llun.
- Tynnwch lun ohonoch chi eich hun gyda’r deunyddiau. Gallech chi bob amser ysgrifennu atgof Masnach Deg ar ddalen o bapur neu fwrdd du i’w ddangos i’r camera.
- Os oes gennych chi gyfrif Trydar neu Facebook, trydarwch neu postiwch y llun ar y 6ed o Fehefin, a chofiwch wneud yn siŵr eich bod chi’n ein tagio ni @FairTradeWales ac yn defnyddio’r Hashnodau #FairTradeBirthday a #PenblwyddMasnachDeg.
- Os nad oes gennych chi gyfrif Trydar neu Facebook, anfonwch y llun atom ni erbyn canol dydd ar ddydd Mawrth, y 5ed o Fehefin, er mwyn i ni allu trydaru neu bostio’ch llun ar eich rhan.
Ar ôl i’r diwrnod ddod i ben, fe wnawn ni gasglu’r holl bethau hyfryd a’u rhoi nhw ar y dudalen hon i bawb eu gweld