Cymru fel Cenedl Masnach Deg
Mehefin 2008Ar 6 Mehefin 2008, death Cymru’r Genedl Masnach Deg gyntaf erioed.
2008 – Cenedl Masnach Deg
Gwnaeth ymgyrch dwy flynedd gan Fforwm Masnach Deg Cymru arwain at gyhoeddi Cymru fel Cenedl Masnach Deg.
Gosodwyd nifer o dargedau yn 2006 gan Fforwm Masnach Deg Cymru mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr annibynnol i gyflawni’r nod cenedl Masnach Deg.
Roedd y rhain yn cynnwys cael grwpiau Masnach Deg ym 55% o drefi ac ym mhob sir sy’n gweithio tuag at statws Masnach Deg. Mae arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a mwy na 1,000 o wirfoddolwyr wedi helpu i ysgogi 58 o drefi, 380 o ysgolion a grwpiau mewn 22 o siroedd yng Nghymru i ymrwymo i ddysgu am Fasnach Deg a’r defnydd o gynnyrch Masnach Deg.
Gwnaeth panel annibynnol o arbenigwyr Masnach Deg o Brydain ac Ewrop adolygu’r holl dystiolaeth a gafodd ei choladu a llongyfarch Cymru ar ei chynnydd.
Roedd hyn yn gyflawniad gwych a oedd yn cynnwys pobl a sefydliadau ledled Cymru.
2018 – 10 mlynedd ar ôl hynny
I ddathlu dengmlwyddiant, ar 6 Mehefin 2018, gwnaeth pobl o bedwar ban byd gynnal partïon, rhannu atgofion a negeseuon pen-blwydd a gorffen yn y ffordd Masnach Deg.
Yn 2018, gwnaethom gynnal adolygiad i Gymru fel cenedl Masnach Deg. Mae ein hymchwil yn dangos yn glir bod pobl yng Nghymru am barhau i fod yn genedl Masnach Deg, a bod gan ragor o leoedd yn rhyngwladol ddiddordeb yn y gwaith rydym yn ei wneud yma yng Nghymru.
Gwnaethom gynnal arolygon a chynnal grwpiau ffocws ledled Cymru.
Dyma’r prif themâu o’r arolwg a’r grwpiau ffocws:
- Mae pobl yn falch o fod yn rhan o genedl Masnach Deg.
- Mae bod yn genedl Masnach Deg yn beth moesol gyfrifol.
- Mae bod yn genedl Masnach Deg yn cyd-fynd â hunaniaeth Cymru a’r Cymry.
- Mae’n bwysig bod yn genedl Masnach Deg oherwydd bod llawer mwy i’w wneud o hyd.
Yn y dyfodol/ y camau nesaf
Ers 2018, mae’r ffordd y mae masnach yn digwydd wedi newid wrth i’r byd ddatblygu ac mae’r symudiad Masnach Deg wedi bod yn newid i ymateb i broblemau newydd.
Nawr bod y DU wedi gadael yr UE ac yn ceisio newid sut mae’n masnachu, dyma oedd amser priodol i
fyfyrio ar sut gallai Cymru fel cenedl Masnach Deg fod yn y dyfodol.
Yn 2020, gofynnodd Llywodraeth Cymru i Fasnach Deg Cymru fod yn rhan o’i Grŵp Ymgynghori Polisi Masnach, sy’n cynghori Llywodraeth Cymru ar faterion polisi masnach, gyda chyfeiriad penodol i drafodaethau masnach ôl-Brexit llywodraeth y DU.
Mae gennym dri phrif ofyniad mewn perthynas â Chyfiawnder Masnach:
1. Mynediad dirwystr i farchnad y DU ar gyfer gwledydd incwm isel a chanolig
2. Democratiaeth fasnach, sy’n golygu bod cymdeithas sifil a chynrychiolwyr etholedig (datganoledig a’r DU) yn cael craffu ar fargeinion masnach newydd a’u cymeradwyo
3. Asesiad effaith holistig o fargeinion masnach newydd a’u heffaith ar economïau agored i niwed, nid yn seiliedig ar yr economi yn unig ond hefyd gan ystyried ystyriaethau cymdeithasol ac amgylcheddol
Rydym hefyd wedi ymuno â Symudiad Cyfiawnder Masnach y DU.
Cynghrair ydyw o oddeutu chwedeg o sefydliadau cymdeithas sifil, gyda miliynau o aelodau unigol, sy’n galw am reolau masnach sy’n gweithio i bobl a’r blaned.