Dyfodol Masnach Deg yng Nghymru

Rhagfyr 12, 2018

Yn 2018, 10 mlynedd ers i Gymru ddod yn Genedl Masnach Deg, cynhaliodd Cymru Masnach Deg adolygiad byr. Edrychodd yr adolygiad hwn ar statws Cymru fel Cenedl Masnach Deg, ac ar beth allai hyn ei olygu yn y dyfodol. Byddwn yn cynnal tri digwyddiad yn ystod mis Ionawr i rannu casgliadau ein hymchwil ar statws Cymru fel Cenedl Masnach Deg.

Cymerodd pobl ar draws Cymru ran yn yr ymchwil hon drwy grwpiau ffocws a’n harolwg, a hoffem i chi ymuno â ni i rannu’r canlyniadau, i drafod ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol, ac i gwrdd â chefnogwyr Masnach Deg eraill o’r un meddylfryd.

Dewch draw i un o’n digwyddiadau ‘Masnach Deg yng Nghymru: y Dyfodol’. Bydd paned Masnach Deg a byrbyrdau ar gael i chi eu mwynhau hefyd.

 I gofrestru, cliciwch ar y dolenni Eventbrite isod

  • Dydd Iau 11 Ebrill 2-4: Conwy

Maer cyfarfodau ar gyfer unrhyw sefydliad neu unigolyn yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru / De-orllewin a Chanolbarth Cymru / De-ddwyrain Cymru sydd â diddordeb mewn Masnach Deg. Os ydych yn ysgol, grŵp ffydd, busnes, sefydliad dielw, elusen, grŵp masnach deg sefydledig, neu’n rhywun a hoffai wybod mwy, galwch draw.
Dyma’r agenda ar hyn o bryd:

  1. Arolwg Cenedl Masnach Deg: Y canlyniadau
  2. Cymru Masnach Deg: Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
  3. Cwestiynau a thrafodaeth agored
  4. Rhwydweithio – cyfle i ddod mewn cyswllt â phobl/cwmnïau eraill sy’n frwdfrydig dros Fasnach Deg.

Mae’r drafodaeth agored yn gyfle i drafod unrhyw bynciau yr hoffech eu codi; er enghraifft; newidiadau i’r system adnewyddu Trefi Masnach Deg, archfarchnadoedd a Masnach Deg, Polisi Masnach y DU ac ati.