Cymru Arloesol i Groesawu Ymgyrchwyr a Chynhyrchwyr Masnach Deg o Bob Cwr o’r Byd
Hydref 16, 2019Mae Cymru Masnach Deg yn cynnal y 13eg cynhadledd Trefi Masnach Deg Rhyngwladol ar yr 18fed-20fed o Hydref 2019 yng Nghaerdydd gyda’r thema “Dyfodol Masnach Deg”.
Cymru oedd y wlad masnach deg gyntaf yn 2008 ac yn ddiweddar mae Caerdydd wedi dathlu ei 15fed flwyddyn fel Dinas masnach deg, gan baratoi’r ffordd i wledydd eraill y DU geisio statws masnach deg a chefnogi’r mudiad.
Mae’r gynhadledd flynyddol yn dod â phawb sy’n ymwneud â mudiad trefi masnach deg byd-eang at ei gilydd, o gynhyrchwyr, gweithredwyr cyfiawnder masnach, gwirfoddolwyr, ymgyrchwyr lawr gwlad, plant ysgol, cynrychiolwyr y cyngor a sefydliadau cenedlaethol.
Bydd y penwythnos yn cynnwys areithiau gan Erinch Sahan, Prif Weithredwr Sefydliad Masnach Deg y Byd,Mike Gidney, CEO Sefydlliad Masnach Deg, Anne Marie Yao, Fairtrade Affrica ac Eluned Morgan AC, Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a’r iaith Gymraeg.
Bydd y rhai fydd yn bresennol hefyd yn ymweld â’r Senedd dan ofal Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog, gyda bwyd a diod masnach deg wedi ysbrydoli gan Gymru. Bydd plant Ysgol Gynradd Albany Road yn croesawu’r gwesteion gyda’r gân rygbi “’Byd Mewn Undeb” gyda drymio gan Love Zimbabwe a’r delynores Sam Hickman.
Meddai Aileen Burmeister, Cydlynydd Cenedlaethol Cymru Masnach Deg:
“Mae Cymru’n wlad sy’n ymfalchïo yn ei masnach deg ac mae’r mudiad mor bwysig gan ei fod yn sicrhau bod ffermwyr, tyfwyr a chynhyrchwyr yn cael pris teg o leiaf am eu cynnyrch. Mae gan Gymru fwy na 60 o drefi masnach deg i gyd sy’n chwarae rhan bwysig wrth wneud byd cyfartal yn masnachu’n deg a dyna pam yr oeddem am gynnal y gynhadledd hon. Mae’n rhaglen gyffrous iawn o ddigwyddiadau, ac mae’n iawn bod Cymru’n cymryd rôl arweiniol wrth lywio Masnach y dyfodol a sicrhau tegwch yn ein cadwyni cyflenwi “.
Ychwanegodd Eluned Morgan AC, y Gweinidog Dros Gysylltiadau Rhyngwladol a’r Gymraeg:
“Rwy’n falch iawn mai Cymru, fel cenedl masnach deg gyntaf y byd, a gafodd ei dewis i gynnal cynhadledd ryngwladol y trefi masnach deg, er mwyn i ni allu rhannu ein hangerdd, ein hymroddiad a’n dysgu a gwybodaeth ar gyfer masnach deg gyda threfi, rhanbarthau a chenhedloedd o bob cwr o’r byd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyfarfod â chynrychiolwyr ledled y byd a dysgu oddi wrth ein gilydd “.
Mae’r Gynhadledd Trefi Masnach Deg Rhyngwladol 2019 yn cael ei chefnogi gan ein partner strategol Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, The Co-Operative, Sefydliad Masnach Deg, Fforwm Masnachu Teg yr Alban a Chanolfan Gymreig Materion Rhyngwladol