Diwrnod Rhyngwladol y Gwirfoddolwr: Cwrdd â Tara

Rhagfyr 5, 2019
Llun/Photo Nick Treharne

Dyma Tara, ymgyrchydd Masnach Deg brwdfrydig yn Llanelli, a gwirfoddolwr ar gyfer y
Trefi Masnach Deg Rhyngwladol Cynhadledd (IFTTC) gyda ni yn gynharach eleni.

“Dwi wedi bod yn wirfoddolwr gyda Masnach Deg am 10 mlynedd, ers i mi symud yn ôl i’r DU o Ffrainc. Roeddwn i’n byw yn Hampshire ar y pryd, ac wrth i mi symud o gwmpas, fe wnes i helpu ym Masnach Deg Gosport, Havant a Portsmouth. Drwy wneud hynny, dysgais lawer iawn am yr hyn roedd ei angen i gyflawni a chadw Statws Masnach Deg. Cefais lawer iawn o hwyl hefyd, a gwneud rhywfaint o ffrindiau da a ffyddlon iawn.

Symudais wedyn, i Llanelli yn Ne Cymru, lle mae Sir Gâr yn Sir Masnach Deg a Caerfyrddin, Rhydaman a Chastellnewydd Emlyn yn Drefi Masnach Deg. Yn anffodus, ni lwyddodd Llanelli i ennill Statws Masnach Deg pan wnaethant gais yn 2008. Felly, dechreuodd y gwaith eto pan gyrhaeddais yn 2017.

Ar ôl astudio Llanelli, sylweddolais na allai fod yn Dref Masnach Deg, gan nad oedd ganddi ddigon o Fasnach Deg. Felly, penderfynais gefnogi’r etholaeth gyfan gyda’i phum Cyngor Cymuned, un Cyngor Tref ac un Cyngor Gwledig, a gweithio tuag at wneud Llanelli yn Barth Masnach Deg. Roedd hyn yn llwyddiant, felly cafodd Llanelli Statws Masnach Deg o’r diwedd.

Sut wnaethoch chi benderfynu gwirfoddoli gyda Cymru Masnach Deg?

Felly, pan ofynnwyd imi wirfoddoli ar gyfer IFTTC drwy Cymru Masnach Deg, neidiais ar y cyfle gwych hwn. I mi, roedd yn estyniad i fy rôl Masnach Deg, gan obeithio cwrdd â dod i adnabod Masnachwyr Teg eraill o amgylch y byd a dysgu oddi wrthyn nhw. Roeddwn i eisiau ennill mwy o syniadau ar sut i ddatblygu ymwybyddiaeth yn Llanelli, a dyna wnes i!!!

Mae pob Masnachwr Teg yn wirfoddolwyr sy’n gweithio yn eu trefi cartref fel fi. Mae’n rhywbeth rwyf yn falch iawn ohono – lledaenu ymwybyddiaeth o Fasnach Deg ac annog mwy a mwy o bobl i brynu cynnyrch Masnach Deg i helpu ffermwyr yn y byd sy’n datblygu. Rwy’n teimlo synnwyr o gyflawniad.

Roeddwn i yno am yr amser cyfan, yn byw yn y pentref chwaraeon yng Nghaerdydd ac yn cerdded i Neuadd y Ddinas bob dydd drwy’r parc. Bues yn helpu i osod y neuadd, a chyfarfod a chyfarch, nodi o ble roedd pobl wedi dod ar fap, gwerthu crysau-t, bod ar ddyletswydd i helpu cynadleddwyr, a defnyddio fy ieithoedd i gyfieithu i bobl. Rydw i wedi gwneud cysylltiadau gyda grŵp o Sweden, ac rydymyn cadw mewn cysylltiad ac eisiau gweithio gyda’n gilydd i geisio cysylltu â chydweithfayn Affrica. Rydym wedi derbyn £2500 yn ddiweddar gan Cymru o Blaid Affrica i ddatblygu hyn.

Y camau nesaf

Fy nghamau a fy amcanion nesaf ydy parhau i ddatblygu syniadau a gymerwyd o’r gynhadledd i wneud trigolion Llanelli yn hollol ymwybodol o Fasnach Deg. Rydw i eisoes wedi trafod gyda’r rheolwr ardal ar gyfer y Co-op a nawr, mae gennyf nifer o bobl y gallaf alw arnynt ar unrhyw un tro i fy helpu. Y cam mawr yw gweithio gyda’r grŵp o Sweden a gobeithio, Cydweithfa Masnach Deg Affrica, a ffurfio trio gweithio, yn defnyddio arian grant Cymru o Blaid Affrica. Cyffrous iawn.

Beth ydw i wedi ei fwynhau am wirfoddoli yn IFTTC?

Roedd y gynhadledd mor ddefnyddiol i mi ond hefyd, yn llawer iawn o hwyl. Llwyddais i gyfarfod â’r grŵp o Sweden ar y bws yn dod yn ôl o ginio’r Senedd. Roeddwn i’n feddw braidd, ac wedi mwynhau fy hun yn ofnadwy. Roeddwn i’n gwneud i bob un ohonynt chwerthin ar y bws, a’r gyrrwr bws hefyd, a’r diwrnod nesaf yn y gynhadledd, daethant i chwilio amdanaf, yn wen o glust i glust, ac rydym wedi bod yn ffrindiau fyth ers hynny.

Y foment ddoniol arall oedd pan oeddwn i ar ddyletswydd yn gwerthu crysau-t. Mae gen i oriawr ffitrwydd, ac roedd angen i mi symud drwy’r adeg, felly fe wnes i i’r dyn diogelwch chwerthin wrth i mi redeg o amgylch mynedfa’r cyntedd. Yna dywedodd, Ewch i fyny ac i lawr y grisiau. Bydd hynny’n dda i chi. Mi ofala i am y crysau-t a rhoi bloedd i ti pan fo angen. Ewch. Felly dyna wnes i.

Cyngor i wirfoddolwyr posibl

Rwy’n credu mai fy nghyngor i wirfoddolwr fyddai bod yn hyblyg, a helpu lle bynnag ygallwch, a  profiad ar yr un pryd. Roedd yn wych gwirfoddoli yn y gynhadledd, ond y peth gorau oedd yr ysbrydoliaeth i gadw fynd yn Llanelli”.