Mae hi’n haeddu masnach deg: menywod mewn arweinyddiaeth
Ionawr 30, 2020Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi digwyddiad ar gyfer pythefnos Masnach Deg yng Nghymru mewn partneriaeth â sefydliad masnach deg.
Mawrth 2, 18:30 – 20:30, Portland House, Caerdydd.
Ymunwch â ni am noswaith llawn straeon ysbrydoledig, fydd yn taflu goleuni ar fenywod ‘ anweledig ‘ ac ar arweinwyr ysbrydoledig sy’n fenywod.
Byddwch yn clywed straeon gan unigolion sy’n brwydro yn erbyn anghydraddoldeb ar bob cyfrif, sy’n entrepreneuriaid ac yn arweinwyr yn eu cymunedau lleol.
Byddwn yn dangos animeiddiad i ddod â straeon ffermwyr coco benywaidd yn fyw i ddangos, drwy Fasnach Deg, fod dewis gwahanol. Darperir lluniaeth a byrbrydau Masnach Deg.
Bywgraffiadau’r siaradwyr
Jenipher Wettaka Sambazi: Cynhyrchwraig Coffi, MEACCE Uganda
Fel mam o chwech, efallai na fyddai Jenipher wedi gallu fforddio anfon ei phlant i gyd i’r ysgol oni bai am Fasnach Deg. Ond drwy ddod yn aelod o’r Gydweithfa Masnach Deg, mae Jenipher wedi gallu cymryd rheolaeth dros fywydau ei theulu a’i ffermio, a derbyn pris teg a chyfiawn am ei ffa coffi.
Mae premiwm cymdeithasol Masnach Deg wedi cael ei ddefnyddio hefyd ar gyfer amrywiaeth o brosiectau yn ei chymuned leol, o storio dŵr i ystafelloedd dosbarth ychwanegol ar gyfer ysgolion. Mae hi’n ddirprwy gadeirydd MEACCE, Mt Elgon Agroforestry Coffee Community Enterprise.
Rosine Bekoin, cynhyrchydd coco yn y gydweithfa ffermio CAYAT
Mae Rosine yn rhedeg fferm 2.5-hectar, ac mae hi’n aelod o’r gydweithfa coco CAYAT yn y Côte d’ivoire. Darganfuodd hefyd, bod yr hyfforddiant ar hawliau menywod fel rhan o Women’s School of Leadership wedi trawsnewid ei rhagolygon cyfan ar fywyd, ac mae wedi arwain ati’n eiriol dros fenywod eraill fyth ers hynny. Nawr, drwy ei rôl fel ysgrifennydd cymdeithas y menywod, mae Rosine yn helpu mwy na 400 o fenywod sydd gyda’i gilydd, yn buddsoddi eu Premiwm Masnach Deg mewn prosiectau arallgyfeirio incwm, fel gardd lysiau gymunedol.
Hannah Pudner (Cyfarwyddwr Byd-eang Materion Allanol) United Purpose
Mae gan Hannah gefndir estynedig mewn ymgyrchu, polisi a chyfathrebu gwleidyddol. Gwnaeth ymuno â United Purpose ar ôl 15 mlynedd o weithio yn sector addysg uwch, yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Strategaeth Allanol) ym Mhrifysgol Agored Cymru, a chyn hynny fel Cyfarwyddwr UCM Cymru, ac ynflaenorol fel uwch-ymgynghorydd polisi i Lywodraeth y DU. Mae ei chylch gorchwyl yn cynnwys cyfathrebu, partneriaethau a chodi arian byd-eang. Mae’n hanu o Gastell-nedd ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Chisomo Phiri, actifydd ac ymgyrchydd dros hawliau menywod
Chisomo Phiri (a elwir hefyd yn Chizi) oedd y Llywydd benywaidd du cyntaf yn Undeb Myfyrwyr Abertawe. Yna, bu’n gweithio fel Swyddog Menywod yn Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, lle’r ymgyrchodd i roi diwedd ar aflonyddu rhywiol a thrais yn erbyn menywod a merched. Bu Chizi’n rhedeg ymgyrch genedlaethol hefyd, i roi terfyn ar dlodi misglwyf yng Nghymru, a arweiniodd at Lywodraeth Cymru yn addo £2.3 miliwn ar gyfer cynhyrchion misglwyf am ddim i’r rheiny mewn addysg.
Mae Chizi yn actifydd a ync ymgyrchydd adnabyddus dros Gymru ond erbyn hyn, mae hi’n gweithio ym Mryste, ond mae ei hangerdd dros hawliau a chydraddoldeb menywod yn dal yn fyw, ac mae hi’n defnyddio ei llwyfan i siarad am y materion hyn.
Katie Colvin, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu, Cru Kafe
Mae Katie wedi bod yn rhan o dîm CRU Kafe ers bron i 4 blynedd, ac mae hi bellach yn bennaeth ar eu tim Marchnata a Chyfathrebu amlsianel. Mae Katie wedi cael awch am goffi erioed, ac mae hi’n frwdfrydig dros ben am ffeministiaeth a chynaliadwyedd. Mae hi wedi marchnata, ac yna goruchwylio, lansio cynhyrchion coffi compostiadwy ar British Airways, ac mae hi wedi bod ar dripiau i ffermydd coffi ym mhob rhan o’r byd.
Mae hi wedi gweld effaith Masnach Deg ar fenywod o lygaid y ffynnon, ac mae hi’n eiriolwr dros newid mewn marchnad sy’n orlawn iawn. Mae Katie yn credu y gall CRU Kafe symud tuag at fyd gwell drwy arloesi a gweithio gyda phartneriaid ac elusennau sy’n sicrhau bod y gadwyn gyflenwi yn gwbl dryloyw.
Julia Nicoara, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â’r Cyhoedd, Sefydliad Masnach Deg fydd yn cadeirio’r digwyddiad, yn cyflwyno’r ymgyrch Masnach Deg She Deserves, a sut mae Masnach Deg yn gweithio i rymuso ffermwyr coco benywaidd.
Am yr ymgyrch Mae hi’n haeddu
Mae ymgyrch She Deserves Masnach Deg, sy’n cael ei chynnal eto dros Bythefnos Masnach Deg (24 Chwefror – 8 Mawrth 2020) yn amlygu ymchwil ar ‘fenywod anweledig’ yn y sector coco yng Ngorllewin Affrica, lle caiff 60% o goco’r byd ei dyfu, pan wnaethom ddatgelu bod y ffermwr arferol yn byw ar gyn lleied â 74c y dydd.
Yn y Traeth Ifori, er gwaethaf gwneud 68% o’r llafur a bod yn gyfrifol am blant yn y cartref, mae gan fenywod lai o hawliau na dynion ac yn ennill hyd yn oed yn llai. Yn y maes coffi, mae stori debyg, gydag oddeutu 125 miliwn o bobl ym mhedwar ban byd yn dibynnu arno ar gyfer eu bywoliaeth, a Jenipher yw un ohonynt.
Ef yw’r cynnyrch amaethyddol trofannol mwyaf gwerthfawr sy’n cael ei fasnachu fwyaf eang ac mae’n cael ei gynhyrchu’n bennaf gan ffermwyr tyddynnod bach. Fodd bynnag, nid yw llawer ohonynt yn gallu ennill bywoliaeth ddibynadwy o’r coffi maent yn ei gynhyrchu.
Nid yw’n ddigon i gefnogi’r anghenion mwyaf sylfaenol megis dŵr a bwyd ffres, addysg a gofal iechyd. Mae ymgyrchwyr Pythefnos Masnach De gyn rhannu straeon yn eang fel bod gennym ddigon o arfau i wneud dewisiadau sy’n gallu newid straeon ffermwyr er gwell.
Ar gyfer #SheDeserves, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y rôl arbennig y mae ffermwyr benywaidd yn ei chwarae yn y daith i incwm byw, a rhannu straeon ac offer newydd i gael mwy o bobl i ddewis Masnach Deg.