Pythefnos Masnach Deg 2020

Dydd Llun 24th Chwefror – Dydd Sul 8th Mawrth 2020

Aeth Cymru Masnach Deg â Jenipher Wettaka Sambazi, cynhyrchydd coffi o Uganda, i ddigwyddiadau, ysgolion ac eglwysi yn y Barri, Sir Fynwy, Bangor ac Ynys Môn.

Pythefnos Masnach Deg 2020: Dydd Llun 24 Chwefror – dydd Sul 8 Mawrth

Roeddem wedi dwlu gweld yr holl ddigwyddiadau anhygoel a gynhaliwyd gan grwpiau, ysgolion, eglwysi a busnesau ledled Cymru. Cafwyd boreau coffi, arddangosiadau celf, cyfle i flasu cynnyrch Masnach Deg yn y dafarn a hufen iâ banana hollt enfawr.

Aeth Masnach Deg â Jenipher Wettaka Sambazi, cynhyrchwr coffi o Wganda i ddigwyddiadau, ysgolion ac eglwysi yn y Bari, Sir Fynwy, Bangor ac Ynys Môn. Gwnaeth Jenipher rannu ei stori gyda thros 300 o bobl am ei bywyd yn Wganda, sut mae’n tyfu coffi a sut mae’r premiymau Masnach Deg yn ei chefnogi i rymuso ei hun a menywod eraill yn ei chymuned.

Gwnaethom gynnal digwyddiad yn y Senedd lle death oddeutu 30 o Weinidogion y Senedd i sgwrsio am Fasnach Deg ac i Jenipher am ei choffi a’i bywyd yn Wganda.

Daeth dros 85 o bobl i’r digwyddiad ’Mae’n Haeddu Masnach Deg: Menywod mewn Arweinyddiaeth yng Nghaerdydd a gwnaeth ein panel gwych o siaradwyr benywaidd drafod cydraddoldeb rhyw, ymgyrchu dros newid a mwy. Roedd lluniaeth Masnach Deg blasus ar gael hefyd, o gwrw, siocled, coffi, cnau a lolipops iâ cartref gan Pop Cycle.

She Deserves Fairtrade 2020/ Mae hi'n haeddu Masnach Deg 2020

Yn ystod y Pythefnos Masnach Deg, gwnaethom barhau gyda’n cenhadaeth i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd prynu cynnyrch Masnach Deg i sicrhau bod paw bar hyn y gadwyn gyflenwi’n derbyn pris teg am y gwaith maent yn ei wneud.

Yn dilyn 2019, gwnaethom ganolbwyntio ar yr ymgyrch i incwm byw fod yn realiti i ffermwyr coco yng Ngorllewin Affrica. Mae ffermwr coco arferol yn y Traeth Iforïaidd yn byw ar oddeutu 74c y dydd er gwaethaf y ffaith bod angen £1.86 bob dydd ar ffermwr yng Ngorllewin Affrica er mwyn cyflawni incwm byw. Gwnaeth newyddion a gyhoeddwyd yn y Pythefnos Masnach Deg ddweud bod menywod yn aml yn ennill cyn lleied â 23c.

Mae hyn yn golygu bod bron yr holl ffermwyr coco’n byw mewn tlodi. Mae’r sefyllfa i fenywod hyd yn oed yn waeth. Mae gan fenywod nid yn unig y cyfrifoldeb o blannu, cynaeafu a throsglwyddo ffa coco i’r farchnad ond hefyd gofalu am y plant, cludo dŵr, casglu pren, coginio a glanhau i’r teulu. Dyna pam yr oedd y symudiad Masnach Deg yn canolbwyntio ar fenywod yn ystod y pythefnos ac yn codi ymwybyddiaeth gyda’n hymgyrchoedd a’n digwyddiadau mae’n haeddu #shedeserves niferus.

Os nad oeddech yn gallu dod i’r digwyddiadau ac yr hoffech wybod beth ddigwyddodd, gallwch weld ein huchafbwyntiau! Mae yna luniau hefyd o’r digwyddiad yn y Senedd a’r digwyddiad Mae’n haeddu.

Ydych chi dal am gefnogi Masnach Deg?

  1. Prynwch gynnyrch Masnach Deg – Sicrhewch eich bod yn chwilio am y nod Masnach De gar gynnyrch gan wybod eich bod yn helpu cymunedau ym mhedwar ban byd i fyw bywyd tecach. Mae yna siopau Masnach Deg lleol a Traidcraft.
  2. Cofrestrwch – Gallwch gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr misol am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf i’ch mewnflwch.
  3. Ymunwch – mae yna grwpiau masnach Deg lleol y gallwch ymuno â nhw ledled Cymru a helpu i hyrwyddo’r symudiad yn eich cymuned.