Neges i’n cefnogwyr Covid-19
Mawrth 25, 2020Annwyl gefnogwyr Masnach Deg,
Ym maes Masnach Deg, rydym yn gwybod pa mor gysylltiedig ydym ni ar draws y byd. Fel y
gwyddoch, mae argyfwng iechyd rhyngwladol yn ein hwynebu; sydd ar yr un pryd, yn dod yn
argyfwng economaidd byd-eang sydd yn cael, ac a fydd yn cael, effaith barhaol ar filiynau o
bobl ym mhob gwlad a phob cyfandir.
Mae’r rhain yn adegau anodd a phryderus iawn. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i roi’r wybodaeth
ddiweddaraf i gefnogwyr am sut mae Cymru Masnach Deg yn ymateb.
Yn gyntaf, ein prif flaenoriaeth oedd cymryd camau yn unol â Chyngor y Llywodraeth a’r GIG i ddiogelu iechyd a lles staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid, a lleihau’r potensial o gyfrannu at ledaenu’r clefyd. Felly, yr wythnos ddiwethaf, fe benderfynom adael i bob aelod o staff weithio o adref.
Sylwer: tra’n bod ni’n gweithio o adref, y ffordd orau o gysylltu â staff a gwirfoddolwyr yw
drwy e-bost.
Parhau i ymgyrchu
Yn ail, rydym yn edrych ar y ffordd fwyaf effeithiol inni barhau â’n gwaith o hyrwyddo Masnach Deg a chefnogi cynhyrchwyr Masnach Deg. Dros yr ychydig wythnosau nesaf, bydd y tîm yn datblygu ffyrdd newydd i ni barhau i ryngweithio â’n cefnogwyr yn y ffordd fwyaf effeithiol, a pharhau i wneud y gwaith pwysig iawn o hyrwyddo Masnach Deg.
Er enghraifft, rydym yn cyfathrebu â siopau Masnach Deg yng Nghymru ynghylch sut y gallwn gefnogi a hyrwyddo’r rheiny sy’n symud i wasanaethau cyflenwi, ac yn ystyried sut y gallem greu gweithgareddau ymgyrchu yn y cartref. Rydym yn ymchwilio hefyd, sut y gallwn gael pobl i ddod at ei gilydd yn rhithwir, yn hytrach na wyneb yn wyneb.
Sylwer: ni ddylai eich grwpiau Masnach Deg lleol fod yn cyfarfod wyneb yn wyneb ar hyn o bryd. Cysylltwch os ydych chi eisiau cefnogaeth ar gyfer eich grŵp i gyfarfod a sgwrsio ar-lein.
Cysylltiadau byd-eang
Yn drydydd, rydym yn cyfathrebu â’n cymuned Masnach Deg fyd-eang. Fel y dangoswyd yn ein Cynhadledd Ryngwladol ym mis Hydref, mae Masnach Deg yn ein cysylltu ni â phobl ar draws y byd, a gallwn barhau i gyfathrebu â nhw yn ystod y cyfnod hwn. Byddwn yn rhannu’r newyddion diweddaraf, ond gallwch chi gymryd rhan yn uniongyrchol hefyd.
Mae gan bwyllgor Llywio Cynhadledd Rhyngwladol Trefi Masnach Deg neges i bob un ohonom Rydym eisiau mynegi ein pryder hundod gyda’r holl randdeiliaid yn y trefi Masnach Deg, ar draws y byd.
Rydym yn gwahodd pob un ohonoch i rannu eich barn a’ch profiadau ar sut rydych yn ymdopi â’r sefyllfa hon yn eich gwlad, ac i fynegi syniadau am beth sydd angen i ni ei wneud yn y dyfodol agos. Gallwch anfon eich straeon a’ch syniadau i’n cyfeiriadau e-byst, neu eu rhoi ar ein gwefan a’n tudalen Facebook, a byddwn yn eu rhannu gyda,n holl deulu Masnach Deg.
Peidiwch ag anghofio cael hwyl
Rydym yn gwybod bod cefnogwyr Masnach Deg yn bobl hwyliog, creadigol, gobeithiol ac ysbrydoledig. Felly, byddwn yn parhau i ddathlu Masnach Deg, defnyddio cynnyrch Masnach Deg a chael hwyl yn ein cartrefi ac ar-lein gyda’n gilydd. Cadwch olwg ar ein gwefan, cylchlythyrau, ac ar y cyfryngau cymdeithasol, a rhannwch eich straeon a’ch atgofion Masnach Deg difyr gyda ni.
Mae’r pandemig hwn yn dangos yn glir iawn beth mae pob un ohonom fel cefnogwyr Masnach Deg yn gwybod: ein bod ni’n gymuned fyd-eang gysylltiedig; ein bod ni’n ddibynnol ar ein gilydd; ac y gall pob un ohonom weithredu mewn ffyrdd a allai gryfhau a gwella’r cysylltiadau hynny.
Gan obeithio eich bod chi’n cadw’n ddiogel. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chi.
Aileen, Masnach Deg Cym