Pwy wnaeth fy nillad? Golwg ar yr hinsawdd ffasiwn sydd ohoni ar gyfer yr Wythnos Chwyldro Ffasiwn 2020

Ebrill 20, 2020

Yng nghanol pandemig byd-eang, gall ffasiwn ymddangos yn ofer ac eto, mae’r bobl sy’n gwneud ein dillad mewn argyfwng hefyd. Mae llawer o frandiau’n dewis peidio â thalu pobl am eu gwaith, ac yn rhoi bywoliaethau pobl mewn perygl. Gadewch i ni ymgyrchu.

Beth yw’r sefyllfa?

Mae galw mawr ar y diwydiant ffasiwn i ymyrryd a diogelu cyflogau’r 40 miliwn o weithwyr dillad yn eu cadwyni cyflenwi o amgylch y byd, sy’n wynebu tlodi wrth i ffatrïoedd gau ac archebion arafu yn sgîl Covid-19.

Mae llawer o ffatrïoedd mewn gwledydd sy’n cynhyrchu dillad, gan gynnwys Bangladesh, Cambodia a Fietnam, yn cau yn barod oherwydd prinder deunyddiau crai o Tsieina, a llai o archebion gan frandiau dillad gorllewinol.

Mae rhai brandiau’n ymgymryd â’r cyfrifoldeb o gefnogi eu cyflenwyr. Mae H&M, Nike ac eraill wedi ymrwymo i dalu am archebion sydd wedi cael eu cwblhau neu sy’n cael eu cynhyrchu. Nid yw brandiau eraill fel Tesco a Primark wedi gwneud unrhyw ymrwymiad hyd yn hyn.

Beth ydy’r ymateb?

Mae Traidcraft Exchange, sef corff gwarchod masnach deg y DU, wedi gofyn i frandiau ffasiwn a manwerthwyr gadw eu haddewidion ynghylch cynlluniau talu.

“Mae’r pandemig coronafeirws yn tynnu sylw at yr arferion bwlio mae manwerthwyr a brandiau ffasiwn yn eu defnyddio i drin eu cyflenwyr, gyda chanlyniadau cynyddol i weithwyr,” meddai Fiona Gooch, Uwch Gynghorydd Polisi’r Sector Preifat, Traidcraft Exchange.

Mae Labour Behind the Label yn gofyn i frandiau ar y cyfryngau cymdeithasol i #PayUp ar eu harchebion presennol, a sicrhau nad yw baich ariannol Covid 19 yn disgyn ar weithwyr dillad.

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa fyd-eang gyda’r blog byw hwn gan Clean Clothes Campaign.

Wythnos Chwyldro Ffasiwn

Mae’r Wythnos Chwyldro Ffasiwn yn rhedeg rhwng 20-26 Ebrill, a chafodd ei chreu i nodi cwymp ffatri Rana Plaza, a laddodd 1,138 o bobl ac a anafodd lawer mwy yn 2013.

‘Ffatri’ oedd Rana Plaza ‘ yn Savar, Bangladesh, oedd yn gwneud dillad ar gyfer rhai o frandiau ffasiwn mwyaf y byd. O’r 5,000 o weithwyr yn y ffatri, menywod ifanc oedd y rhan fwyaf ohonynt.

Mae’r ymgyrch yn galw am newid systemig yn y diwydiant ffasiwn. Y sector ffasiwn a thecstilau yw un o’r diwydiannau mwyaf llygredig a gwastraffus sy’n cyfrannu at yr argyfwng hinsawdd rydym yn byw ynddo. Mae’r diwydiant yn parhau i feddu ar ddiffyg tryloywder, ac yn ecsbloetio pobl sy’n gweithio yn y gadwyn gyflenwi yn fawr.

Nid yw brandiau a manwerthwyr yn dal i gymryd digon o gyfrifoldeb am y cyflog a’r amodau gwaith yn eu ffatrïoedd, effeithiau amgylcheddol y deunyddiau maen nhw’n eu defnyddio, na sut mae’r cynhyrchion a wneir ganddynt yn effeithio ar iechyd pobl, anifeiliaid a’n planed.

Beth ydy cyflyrau’r diwydiant ffasiwn byd-eang? 

Mae Ellen MacArthur Foundation yn amcangyfrif:

  • Bod 300 miliwn o bobl yn gweithio yn y diwydiant dillad, gyda thua 25 i 60 miliwn o bobl yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol.
  • Mai menywod ifanc yw’r rhan fwyaf o’r gweithwyr hyn, sydd mewn gwaith sgiliau isel ac sy’n cael cyflog isel.
  • Bod bron 1 mewn bob 3 o weithwyr benywaidd sy’n gwneud dillad wedi dioddef aflonyddu rhywiol yn y 12 mis diwethaf.

Ffasiwn a Masnach Deg

Mae Masnach Deg wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr cotwm ers 2010, gyda’r rhan fwyaf o gotwm y DU yn dod o ffermwyr tlawd ac ymylol sy’n wynebu heriau beunyddiol.

Mae costau cynhyrchu, prisiau cyfnewidiol y farchnad, llai o gynnyrch a newid yn yr hinsawdd ynghyd â chwyddiant mewn prisiau bwyd ac ansicrwydd bwyd i gyd yn fygythiadau. Mae Masnach Deg yn cefnogi’r ffermwyr cotwm mwyaf bregus, ac yn eu galluogi i werthu eu nwyddau am bris gweddus, fel y gallant ddarparu ar eu cyfer nhw eu hunain a’u teuluoedd.

Mae’r gadwyn cyflenwi tecstilau mor hir gyda llawer o faterion sy’n gorgyffwrdd, sy’n golygu bod angen mwy nag ardystio ffermwyr cotwm. Felly, datblygodd Masnach Deg y Safon Tecstilau.

Mae’r Safon Tecstilau’n gweithio gyda gweithgynhyrchwyr i wella cyflogau, addysgu gweithwyr am eu hawliau ac amodau gwaith, ac i ymgysylltu â brandiau dillad i ymrwymo i delerau masnachu tecach.

Mae Masnach Deg yn ceisio gwneud incymau byw yn realiti i bobl – mae hyn yn golygu anghenion cartref hanfodol – bwyd, dŵr, tai, addysg, gofal iechyd, trafnidiaeth, a dillad.

Mae’r ffordd rydych chi’n siopa yn effeithio arnoch chi a’ch cymuned uniongyrchol a hefyd, ar eich cymuned fyd-eang, miloedd o gilomedrau i ffwrdd, sy’n gweithio’n galed i ddal ati i ddarparu’r nwyddau rydym i gyd yn eu mwynhau.

Sut mae brandiau’n ymateb

Mae’r brand Prydeinig, White Stuff, wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Masnach Deg i gynhyrchu Casgliad Masnach Deg yn defnyddio Cotwm Masnach Deg. Yn 2019, daethant yr unig frand ffordd o fyw ym Mhrydain i lofnodi ymrwymiad tair blynedd i gynyddu faint o gotwm Masnach Deg sydd yn cael ei gyrchu bob blwyddyn.

Mae Sefydliad Masnach Deg y Byd wedi creu Catalog Ffasiwn Masnach Deg gyda busnesau, sy’n cynhyrchu ffasiwn cynaliadwy, moesegol a phrydferth.

Beth allaf i ei wneud?

Peidiwch ag anghofio ein tagio ni! Fel hyn, gallwn weld a rhannu eich holl waith ymgyrchu ar Twitter, Facebook ac Instagram.