Covid-19: Diogelu a darparu

Mai 19, 2020

Ar ôl i Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ddatgan COVID-19 (Coronafeirws) fel pandemig byd-eang ar 11 Mawrth, dechreuodd llywodraethau a chymdeithas sifil yn America Ladin a’r Caribî osod mesurau ataliol i atal y feirws rhag lledaenu.

Cyhoeddodd Llywodraeth Ecwador argyfwng iechyd am 60 diwrnod, i atal y feirws rhag lledaenu’n eang, ac mae Gweinyddiaeth Amaeth y wlad wedi creu protocol atal ar gyfer y sector amaethyddol ac ar gyfer ardaloedd cynhyrchu bananas, gyda’r bwriad o geisio lleihau’r feirws rhag lledaenu ymysg y staff sy’n gweithio yn y caeau, ac yn y ffatrïoedd prosesu a phacio.

Yng nghanol yr argyfwng, mae undod a gobaith wedi cynyddu’n fawr mewn cadwyn ddynol sydd â blaenoriaeth nid yn unig i gadw’n iach, ond hefyd, i helpu eraill. Yn sgil y weledigaeth hon, mae Cydlynydd Masnach Deg Ecwador a’r rhwydwaith Bananas yn Ecwador, ochr yn ochr â chadw at y protocol diogelwch ar gyfer cynhyrchiant, yn gwneud gwahanol weithgareddau hefyd, fel rhoi rhoddion o fananas i’r boblogaeth fwyaf agored i niwed, gweithio gydag awdurdodau lleol, a ffurfio undod gyda Chynhyrchwyr Masnach Deg.

Rydym wedi cymryd y cam cyntaf i geisio helpu’r Llywodraeth sydd o bosibl, ddim wedi paratoi ac sydd heb yr un adnoddau â gwledydd eraill, a cheisio rhoi bananas i wahanol gymdogaethau, yn bennaf i’r bobl sy’n cael eu heffeithio fwyaf sy’n byw o ddydd i ddydd, ac sydd ddim yn gallu mynd allan o’u tai i weithio “, meddai Patricio San Martín, Rheolwr Asociacion De Bananeros Orenses.

“Nawr, rydym yn gwybod pam y crëwyd Masnach Deg –  i helpu eraill, i fod yn gyfrifol gyda’r amgylchedd, a mwy.  Mae’n rhaid i fodau dynol newid. Mewn geiriau eraill: I helpu ei gilydd ac i ofalu am yr amgylchedd! “

Mae’r fenter hon eisiau i gynhyrchwyr a gweithwyr gael cymorth hefyd, rhag ofn iddynt fynd yn sâl yn yr ardal lle maen nhw wedi’u lleoli. Felly, drwy ddefnyddio’r Premiwm Masnach Deg, maen nhw’n ymuno ag ymdrechion i brynu offer i ganfod a thrin y salwch, fel pecynnau ar gyfer profion coronafeirws, nebulizers, anadlyddion, masgiau, menig; cyflenwadau glanhau megis diheintyddion; ac i brynu bwydydd ar gyfer cynhyrchwyr bach yn yr ardal.

Y sefydliadau bananas Masnach Deg yn Ecwador sydd wedi dod at ei gilydd ar gyfer y camau undod hyn ydy ASOGUABO, Tierra Fértil, Bananeros Orenses a Fincas de El Oro.