Diwrnod Siocled y Byd!
Gorffennaf 7, 2020Dyma’n hoff ddiwrnod y flwyddyn: Diwrnod Siocled y Byd!
I ddathlu, rydym wedi gofyn i rai gwerthwyr Masnach Deg o Gymru beth yw eu hoff siocled Masnach Deg. Dyma’r hyn a ddywedwyd ganddynt.
Health & Food Llanrwst
Health & Food Llanrwst yw siop sy’n gwerthu bwydydd cyfan, cynnyrch ffres a chynnyrch eco. Ar hyn o bryd, maent ar agor yn ôl yr arfer gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol. Eu hoff siocled Masnach Deg yw Dark Caramel Equal Exchange oherwydd ei fod yn flas dwfn hyfryd. Maent hefyd yn hoffi’r wybodaeth am ffermwyr bychain sy’n rhan o’r broses, sydd wedi’i chynnwys ar y pecyn.
Fair Do’s Siopa Teg
Mae gan Fair Do’s Siopa Teg amrywiaeth eang o fwydydd a chrefftau Masnach Deg! Ar hyn o bryd, mae eu siop ar agor ar ddydd Gwener ac maent yn bwriadu agor ar ddydd Sadwrn cyn hir hefyd! Maent hefyd yn gweithredu gwasanaeth clicio a chasglu. Hoff siocled Masnach Deg Fair Do’s Siopa Teg yw Dark Espresso Seed and Bean oherwydd ei fod yn gyfuniad gwych o siocled a choffi Masnach Deg!
Fair and Fabulous
Mae Fair and Fabulous yn gwerthu amrywiaeth o gynnyrch Masnach Deg. Gallwch gael y rhain ar eu gwefan newydd neu drwy anfon neges atynt dros eu tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae eu siop hefyd ar agor rhwng 11am a 2pm ar ddydd Sadwrn. Hoff siocled Masnach Deg Fair and Fabulous yw Tony’s Chocolonely oherwydd bod ganddo amrywiaeth o flasau i ddewis ohonynt, gan gynnwys Dark Milk Pretzel Toffee, Milk Caramel Sea Salt a Dark Almond Sea Salt.
Diolch i’r holl werthwyr am rannu eu hoff siocled – rydym yn gobeithio bod pawb yn cael Diwrnod Siocled y Byd gwych!