Nestle 2020
Dydd Mawrth 23rd Mehefin – Dydd Iau 1st Hydref 2020Ym mis Mehefin 2020, gwnaeth Nestlé benderfynu na fyddai siocledi kitkat bellach yn rhai Masnach Deg. Gwnaethom ymuno ag ymgyrch a chynghrair i geisio deisyfu Nestlé i wyrdroi ei benderfyniad.
O ganlyniad i dynnu’r nod Masnach Deg yn ôl, bydd miloedd o ffermwyr hynod agored i niwed yn colli allan ar oddeutu £2 filiwn mewn taliadau Premiwm Masnach Deg bob blwyddyn, a byddant yn cael llai o reolaeth dros sut maent yn gwario eu harian dan y trefniadau newydd. Yn y cyfamser, gwnaeth Nestlé elw o $10 biliwn y llynedd.
Gwnaethom ryddhau’r datganiad hwn a rhannu’r ymateb gan y ffermwyr drwy Rwydwaith Masnach Deg y Traeth Iforïaidd.
Gwnaethom roi diweddariad yn dangos cynnydd y ddeiseb, cyfarfodydd rhwng Nestlé a chynrychiolwyr ffermwyr a sylw yn y wasg.
Beth ddigwyddodd?
Erbyn 1 Hydref 2020, dyna oedd diwedd y bartneriaeth rhwng Nestlé a chynhyrchwyr siwgr a choco Masnach Deg ac roeddem yn hynod siomedig nad yw Nestlé wedi newid ei feddwl.
Mae deiseb sy’n cynrychioli 300,000 o bobl yn cael ei chyflwyno i Nestlé yn ei swyddfa yng Nghaer heddiw er mwyn protestio yn erbyn ei benderfyniad. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld bod hwn yn fater y mae pobl yn poeni amdano.
Rydym yn falch o’n rhan yn y gynghrair i geisio gwyrdroi’r penderfyniad ac yn diolch i Joanna Pollard, Masnach Deg Swydd Efrog, am ei hymdrechion diflino.
Fel y ffermwyr eu hunain, rydym yn dal i gredu mai masnach Deg yw’r cynllun gorau i’w grymuso a’u cefnogi ac rydym yn annog pobl i siopa mewn ffordd foesegol ac ystyrlon a phrynu nwyddau Masnach Deg.
Gwyliwch y fideo hwn o gerdd Masnach Deg y gallwch ei rannu ar eich platfformau.