Datganiad Terfynol ar y Ymgyrch Nestle

Hydref 1, 2020
Danny Lawson/PA Wire

Mae heddiw’n nodi diwedd y bartneriaeth rhwng Nestlé a chynhyrchwyr siwgr a choco
Masnach Deg, ac rydym yn siomedig iawn nad ydy Nestlé wedi newid eu meddyliau.

Mae deiseb sy’n cynrychioli 300,000 o bobl yn cael ei chyflwyno i Nestlé yn eu swyddfa yn Efrog heddiw, i brotestio yn erbyn eu penderfyniad. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld bod hwn yn fater mae pobl yn poeni amdano.

O ganlyniad i dynnu’n ôl, bydd miloedd o ffermwyr sy’n agored iawn i niwed yn colli tua £2 filiwn o daliadau Premiwm Masnach Deg bob blwyddyn, a bydd ganddynt lai o reolaeth dros y ffordd maen nhw’n gwario eu harian o dan drefniadau newydd. Yn y cyfamser, gwnaeth Nestlé elw o dros $10 biliwn y llynedd.

Rydym yn falch o’r rhan rydym yn chwarae yn y glymblaid i geisio gwrthdroi’r penderfyniad hwn, a diolch hefyd i Joanna Pollard o Fasnach Deg Swydd Efrog am ei hymdrechion diflino. Fel y ffermwyr eu hunain, rydym yn dal i gredu mai Masnach Deg ydy’r cynllun gorau i’w grymuso a’u cefnogi, ac rydym yn annog pobl i siopa’n foesegol ac yn gydwybodol, a phrynu cynnyrch Masnach Deg.