Dathlu blwyddyn ers Cynhadledd Rhyngwladol Trefi Masnach Deg Cymru
Hydref 19, 2020Dydyn ni ddim yn gallu credu bod blwyddyn wedi mynd heibio ers i ni gynnal Cynhadledd Rhyngwladol Trefi Masnach Deg (IFTTC) 2019 ar 18 -20 Hydref yng Nghaerdydd – am benwythnos gwych.
Diolch yn fawr i bawb a fynychodd – dros 250 o bobl o 41 o wledydd dros bedwar digwyddiad- mae hyn yn ymddangos yn amhosibl heddiw!
Rydym yn drist bod cynhadledd IFTTC eleni wedi cael ei gohirio, ond roeddem eisiau dathlu’r digwyddiad gwych a gynhaliwyd gennym y llynedd, a chofio dysgu, rhannu a hyd yn oed dawnsio gyda’n ffrindiau.
Beth wnaethom ni
Cynhaliom ginio ar y nos Wener yn y Senedd, a gafodd ei arwain gan y Gweinidog Jane Hutt, a mwynhaom fwyd a cherddoriaeth draddodiadol o Gymru gyda’r delynores Sam Hickman a chôr ysgol Gynradd Albany. Siaradodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, am ‘Sut mae Masnach Deg yn ein helpu i fod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang’.
Dros y dydd Sadwrn a’r dydd Sul, cawsom drafodaethau, sgyrsiau a gweithdai panel gan gydweithwyr, arweinwyr a ffrindiau ar draws y byd. Buom yn trafod popeth o newid yn yr hinsawdd, ffoaduriaid, incwm byw, pêl-droed, cyfiawnder masnach, masnach fyd-eang a mwy.
Ar y nos Sadwrn, cynhaliodd Sefydliad Masnach Deg barti yn y Deml Heddwch i ddathlu 25 mlynedd o’r marc Masnach Deg. Fe wnaethom fwynhau cawl Traddodiadol Cymreig, hufen iâ Ben and Jerry’s, cacennau bach Masnach Deg arbennig a llawer o win Masnach Deg, cwrw a diodydd meddal. Efallai y bu rhywfaint o ddawnsio limbo hefyd.
Ymunodd Eluned Morgan, y Gweinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol a’r Gymraeg â ni ddydd Sul, i egluro ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Fasnach Deg drwy brynu a chefnogi Trefi Masnach Deg.
Roedd ein parth rhyngweithiol yn cynnwys stondinau gwybodaeth, cynhyrchion Masnach Deg, y Ffair Annheg ac wrth gwrs, hufen iâ a lolis o’r Pop Cycle.
Rydym yn hapus i gofio hefyd, bod Cymru wedi curo Ffrainc, 20 – 19 ar y dydd Sul, i gyrraedd Rowndiau Cynderfynol Cwpan Rygbi’r Byd.
Ar y dydd Llun, rhoesom daith ddiwylliannol i rai’n gwesteion, gan arddangos gwaith Masnach Deg oedd wedi cael ei wneud gan ysgolion, y Llywodraeth ac awdurdodau lleol.
Fe ymwelom â Chastell Caerdydd ac Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, a rhoesom gyfle i bawb ymarfer eu Cymraeg newydd ‘Dw i’n eisiau coffi Masnach Deg’.
Adlewyrchu
“Y llynedd, crynhodd yr IFTTC galon y mudiad Masnach Deg – tegwch, cyfeillgarwch a hwyl. Roeddem wrth ein bodd yn croesawu dros 200 o bobl o bob rhan o’r byd i Gymru, i benwythnos fyd-eang yn ysbrydoli llawer o bobl gyda’r ymrwymiad i Fasnach Deg ar draws cymdeithas Cymru. Roedd pynciau fel hawl pobl i incwm byw, a’r ffyrdd y gellir cyflawni hynny, yn amlwg iawn dros y penwythnos.
Yn anffodus, mae’r pandemig coronafeirws byd-eang wedi dangos sut mae’r pynciau hyn, fel cadwyni cyflenwi gwydn a chynaliadwy, yn hanfodol wrth ddelio â sioc fel effeithiau iechyd a hinsawdd, a sut mae angen dybryd am y mudiad Masnach Deg heddiw o hyd.
Rydym yn drist peidio â bod yn cyfarfod gyda’n gilydd ar gyfer y gynhadledd eleni, ac rydym yn edrych ymlaen at IFTTC 2021 yn Quii, Ecuador”.
Aileen Burmeister, cydlynydd cenedlaethol Cymru Masnach Deg
“Pan gasglodd y mudiad Trefi Masnach Deg yng Nghymru y llynedd, fe ddangosom esblygiad ac egni ein syniadau. O’r crefftwyr ffoaduriaid i uwchgylchu a gweithgynhyrchu di- garbon, mae mentrau cymdeithasol Masnach Deg yn sbarduno’r atebion mawr sydd eu hangen ar ein planed a phobl. Fel WFTO, rydym yn falch o ddatblygu hyn, ynghyd â’n chwiorydd a’n brodyr ar draws ein mudiad”.
Erinch Sahan, Prif Weithredwr Sefydliad Masnach Deg y Byd (WFTO)
Edrychwch ar ein lluniau a’n cyflwyniadau o’r digwyddiad.