Ein maniffesto: 2021

Tachwedd 25, 2020

Wrth i’r DU geisio gwneud Cytundebau Masnach rhyngwladol cyflym, a gyda Covid-19 yn parhau i achosi effeithiau iechyd ac economaidd enfawr dros y byd, rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i ymrwymo i greu Cymru sy’n gweithredu’n gyfrifol yn ryngwladol.

Rydym ni, Cymru Masnach Deg, eisiau i’r Senedd nesaf, a Llywodraeth Cymru, weithio tuag at wreiddio Masnach Deg ym maesydd Polisi Masnach, Caffael ac Addysg.

Ein gofynion

  1. Datblygu Polisïau Masnach sy’n canolbwyntio ar gyfrifoldeb byd-eang, ac sy’n pwyso am gytundebau masnach rhyngwladol newydd, fydd yn hyrwyddo hawliau gweithwyr, cynaliadwyedd a masnach deg
  2. Cynnal a chryfhau’r ymrwymiad i Fasnach Deg ym mholisïau a chanllawiau cafael Llywodraeth Cymru a’r Senedd
  3. Sicrhau bod Cymru yn datblygu cenedl o ddinasyddion byd-eang moesegol a gwybodus, yn unol â gofynion y Cwricwlwm newydd, drwy gefnogi’r datblygiad o adnoddau addysgu effeithiol, ar gyfer addysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein

Nod Cymru Masnach Deg ydy cefnogi, datblygu a hyrwyddo’r mudiad Masnach Deg yng Nghymru, sef Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd. Rydym yn arbenigwyr ar Fasnach Deg a Chyfawnder Masnach, ac yn rhan o Fudiad Cyfawnder Masnach y DU.

Ein maniffesto