Gwneud Cymru’n Cenedl Dim Datgoedwigo
Tachwedd 24, 2020Cyn etholiadau’r Senedd yn 2021, mae ymgyrch dan arweiniad Maint Cymru, ac sydd yn cael ei gefnogi gan RSPB Cymru, yn galw ar bleidiau gwleidyddol i ymrwymo i bolisïau a fyddai’n gwneud Cymru yn genedl dim datgoedwigo gyntaf y byd.
Ar hyn o bryd, mae ôl troed ecolegol Cymru bum gwaith yn fwy na maint y genedl ei hun.. Mae llawer o hyn yn cael ei achosi drwy fwyta bwydydd bob dydd, sy’n cynnwys cig eidion, soi (a geir mewn porthiant anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid sydd wedi’u magu ar gyfer cig, wyau a llaeth), olew palmwydd (sydd yn cael ei ddarganfod mewn bron hanner y cynnyrch wedi’u pecynnu yn ein harchfarchnadoedd, sy’n cynnwys bisgedi a siampŵ), cacao (sydd yn cael ei ddefnyddio i wneud siocled), a choffi.
Mae’r ymgyrch wedi cyhoeddi adroddiad “Gwneud Cymru’n Genedl Dim Datgoedwigo” sy’n amlinellu sut y gall llunwyr polisi, busnesau a sefydliadau cyhoeddus weithio gyda’i gilydd i gyflawni’r nod hwn.
Mae’r adroddiad yn cynnig deg prif argymhelliad, sy’n cynnwys cymell a chefnogi busnesau drwy Gontract Economaidd Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw eu cadwyni cyflenwi yn cynnwys arferion datgoedwigo, adolygu buddsoddiadau pensiwn Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, gwneud newidiadau i arferion ffermio a bwyd, a chreu label ‘dim datgoedwigo’ ar gyfer cynnyrch sydd yn cael eu gwneud yng Nghymru
I ddysgu mwy am yr ymgyrch a gwylio fideo o ddigwyddiad lansio’r ymgyrch, ewch i wefan Maint Cymru.