Anrhegion Prydferth a Moesegol ar gyfer Sul y Mamau 2021

Mawrth 2, 2021

Gyda Sul y Mamau 2021 ar y gorwel ar ddydd Sul 14 Mawrth, rydym wedi dewis rhai anrhegion moesegol er mwyn rhoi syrpreis iddi ar ei diwrnod arbennig.

O sgarffiau a wnaed â llaw i olewau moesegol, dyma gyfle i chi ddarganfod yr anrheg berffaith ar ei chyfer.

Cadw’n glud a chynnes

Sicrhewch ei bod yn glud a chynnes gyda sgarffiau o Cool Trade Winds, sydd ar gael o Fair Dos. Caiff y sgarffiau moesegol hyn eu gwneud yng nghefn gwlad India ac yn cefnogi’r gweithwyr a’u teuluoedd gyda chostau o feddyginiaeth i addysg.

Ychwanegwch beth liw i’r soffa

Rhowch syrpreis iddi gyda blanced liwgar, fel hon o Eighteen Rabbit yn y Gelli.

Mae’r blancedi lliwgar hyn wedi’u gwau yn India a byddent yn rhoi ychydig o liw i unrhyw ystafell wely neu ystafell fyw. Mae’r print diemwnt ar gael mewn amrywiaeth o lywiau, sy’n berffaith ar gyfer y gwanwyn a’r haf.

Amser am wedd newydd

Porwch drwy’r amrywiaeth o fagiau Masnach Deg o Sussed, sydd yng Porthcawl ac sy’n hyrwyddo cynnyrch moesegol.

Gydag amrywiaeth o liwiau ac arddulliau i ddewis ohonynt, mae yna rywbeth at ddant pawb – ac maent yn gwerthu pyrsiau hefyd.

Cyfle i deimlo’n glud mewn cotwm organig

Dewiswch gotwm organig gyda’r sanau meddal, moethus hyn. Wedi’u gwneud gan gotwm organig 98% GOTS a 2% elastin gan y partner cynhyrchu Masnach Deg, People Tree, mae Bulus Socks yn gwneud yr anrheg foesegol berffaith.

Mae’r printiau llawn hwyl yn berffaith ar gyfer ymlacio neu gyda’r nos, ac yn ffordd sicr o roi ychydig o liw yn y drôr sanau! Dewch o hyd i’r dyluniad perffaith yn People Tree.

Mae’n amser maldod

Rhowch drît i’ch mam gydag amser maldod gyda’r Olew Melyn yr Hwyr hwn o’r Ethical Superstore. Mae’r olew hwn wedi cael ei gydnabod fel Cynnyrch Moesegol Gorau Prynwyr oherwydd ei restr hir o elfennau moesegol da, gan gynnwys gwahardd olew palmwydd, parabenau ac olewau mwynau.

Mae’n addas i bobl fegan a llysieuwyr hefyd, ac nid yw wedi’i brofi ar anifeiliaid.

Mae’r olew gwasg oer yn cynnig lefel uchel o leithder sydd fod i fod o fud di gyflyrau’r croen megis ecsema a chroen sych. Honnir hefyd bod y maetholion yn lleihau cochni, gwrthlidiol, chwyddo a chosi, gan adael y croen yn feddal ac yn llyfn.

Anrheg i’r blaned hefyd

Efallai nad yw Olew Olewydd yn dod i’r meddwl fel anrheg Sul y Mamau – ond mae’r fenter y tu ôl i’r eitem hon yn rhoi mwy na chynnyrch premiwm yn unig.

Mae’r Anrheg Zaytoun Tree Planting Olive Oil yn helpu i ddiogelu’r blaned i wrthsefyll yr ôl-troed  carbon. Am bob potel a werthir, caiff egin goeden ei blannu ym Mhalestina. Cyflwynir yr olew mewn blwch, gyda thystysgrif prawf â stamp Zaytoun. Mae’r olew olewydd poblogaidd hwn wedi’i gasglu â llaw gan ddefnyddio olewydd a dyfir â glaw, ac mae ganddo flas cynnes a phupur, sy’n berffaith i dywallt dros saladau. Ewch i’r Ethical Superstore i brynu eich un chi.

Heddwch

Prynwch lyfr newydd iddi o Dragon’s Garden fel y nofel hon gan Cathy Newman.

Mae gan Dragon’s Garden yn Llandeilo amrywiaeth o lyfrau yn ei siop Masnach Def, felly mae rhywbeth at ddant pawb! Porwch drwy eu casgliad o nwyddau Masnach Deg a moesegol sy’n ceisio ‘gwneud ein rhan wrth fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb yn ein byd hynod anghyfartal’.

Cewch weld y casgliad llawn yma.

Os ydych wedi’ch ysbrydoli neu’n meddwl y bydd y ganllaw hon yn helpu pobl eraill, sicrhewch eich bod yn ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #masnachdegcymru #fairtradewales

Pam prynu Masnach Deg?

Mae prynu nwyddau Masnach Deg yn rhoi sicrwydd i chi bod y cynnyrch wedi’u cynhyrchu gyda safonau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd uchel. Beth oedd yr amodau lle cafodd y nwyddau eu gwneud? A wnaeth y gweithwyr weithio am sawl awr am bris isel? Os ydych yn prynu coffi, siocled neu gemwaith fel anrheg y flwyddyn hon, sicrhewch fod eich dewis yn cefnogi’r cyflenwr hefyd.

Cewch weld ein blog diweddaraf yma sy’n esbonio pob pwynt ychydig yn fwy ac sy’n esbonio sut mae eich penderfyniadau prynu’n gwneud effaith.

Blog gan Jenny Carew.