Cystadleuaeth Cymru Masnach Deg x Jenipher’s Coffi

Ebrill 20, 2021

Mae gennym un bag 100g o Jenipher’s Coffi i’w roi bob wythnos am yr wyth wythnos nesaf.

Am eich cyfle i ennill, yna nodwch eich manylion yn ein ffurflen a byddwn yn dewis enillydd ar hap.

Bydd y gystadleuaeth ar agor ddydd Gwener i fore dydd Llun a byddwn yn cyhoeddi’r enillydd ddydd Mawrth. Pob lwc!

Dyma’r amodau a thelerau:

  1. Drwy gyflwyno cais yn y gystadleuaeth hon, mae’r ymgeisydd yn mynd i gytundeb dan yr amodau a’r telerau hyn.
  2. Hyrwyddwr y gystadleuaeth hon yw Fair Trade Wales / Cymru Masnach Deg, Rhif y cwmni: 6882843, y mae ei swyddfa gofrestredig yn y Deml Heddwch, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3AP
  3. Mae’r gystadleuaeth ar agor i unrhyw un sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig ac eithrio cyflogeion, cyfarwyddwyr ac ymddiriedolwyr Cymru Masnach Deg, Hub Cymru Africa, Jenipher’s Coffi a’u perthnasau agos.
  4. Dim ond un ymgais a dderbynnir fesul unigolyn. Caiff ceisiadau lluosog gan yr un unigolyn eu hanghymhwyso.
  5. Rydych yn darparu eich gwybodaeth i Gymru Fasnach Deg. Defnyddir yr wybodaeth a ddarperir yn unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd sydd ar gael.
  6. I gymryd rhan yn y gystadleuaeth, mae’n rhai i’r cyfranogwr lenwi holl rannau’r Google Form gan gynnwys yr holl fanylion y gofynnir amdanynt a chyflwyno’r ffurflen cyn y dyddiad cau. Mae’r ffurflen ar gael yma: https://forms.gle/wmUSgXftKrUXEqW49
  7. Nid oes rhaid talu ffi cymryd rhan ac nid oes rhaid prynu unrhyw beth i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
  8. Y dyddiad cau a’r amser terfynol i dderbyn ceisiadau fydd 10am fore dydd Llun. Ar ôl y  dyddiad hwn, ni chaniateir rhagor o geisiadau am y gystadleuaeth hon. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau na dderbyniwyd am unrhyw reswm.
  9. Caiff yr enillydd ei ddewis gan dîm Cymru Masnach Deg ar hap gan feddalwedd ar-lein.
  10. Caiff yr enillydd wybod drwy e-bost o fewn pum niwrnod o’r dyddiad cau.
  11. Mae’r wobr yn cael ei derbyn bythefnos ar yr hiraf ar ôl y dyddiad cau.
  12. Dyma’r wobr: Bag 100g o Jenipher’s Coffi.
  13. Nodir y wobr ac ni chynigir arian parod yn ei lle. Nid oes modd trosglwyddo’r gwobrau. Mae’r gwobrau’n destun argaeledd ac rydym yn cadw’r hawl i ddisodli unrhyw wobr gydag un arall o’r un gwerth heb rybudd.
  14. Mae Cymru Masnach Deg yn cadw’r hawl i ganslo’r gystadleuaeth os bydd amgylchiadau’n codi y tu hwnt i’n rheolaeth.
  15. Llywodraethir y gystadleuaeth hon gan gyfraith Lloegr a bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth gyfan gwbl dros unrhyw anghydfod sy’n codi mewn cysylltiad â hi.