Te Masnach Deg – Deg Ffaith: Beth yw’r t(ê)?

Mai 21, 2021

Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol y Te!

Rydym yn dathlu drwy gasglu rhywfaint o ffeithiau i chi – edrychwch ar y 10 ffaith hyn a gweld faint ohonynt yr oeddech yn eu gwybod yn barod.

  1. Mae tua 70,000 o gwpanau o de yn cael eu hyfed bob eiliad ar draws y byd, sy’n gwneud te y diod mwyaf poblogaidd yn y byd ar ôl dŵr. Te Masnach Deg sydd fwyaf poblogaidd yn y DU, gyda Phrydeinwyr yn prynu dros 80% o gyfanswm y cyflenwad!
  2. Y wlad sy,n cynhyrchu’r te Masnach Deg mwyaf yw Kenya – ac mae 64% o’r holl weithwyr te Masnach Deg a ffermwyr yn byw yma.
  3. Dim ond 0.4 hectar yw maint cyfartalog plot ffermwr te Masnach Deg yn Nwyrain Affrica.
  4. Rydym yn credu bod pawb yn y gadwyn gyflenwi yn haeddu isafswm cyflog, sydd ddim yn newid oherwydd prisiau cynnyrch sy’n amrywio. Darllenwch fwy am ein Safonau Masnach Deg yma.
  5. Lansiwyd y te cyntaf wedi’i ardystio â’r safon Masnach Deg ym 1994 gan Clipper Teas.
  6. Mae dros 392,700 o ffermwyr te, sy’n cynhyrchu ein hamrywiaeth o flasau.
  7. Gwerthwyd 7. 9.838 tunnell o de Masnach Deg yn 2018 – mae hynny’n fwy na phwysau dau Eliffant Asiaidd!
  8. Drwy ddewis paned Masnach Deg, mae’r galw am gynnyrch yn codi – felly gall eich te, yn llythrennol, newid ansawdd bywyd rhywun.
  9. Yn y DU, mae mwy na 400 o gynhyrchwyr te wedi’u hardystio! Mae’r gwahanol fathau yn cynnwys te gwyn, gwyrdd, heb gaffein ac organig.
  10. Yn 2017, buddsoddodd gweithwyr ar ffermydd te Masnach Deg bron i hanner eu cronfa Premiwm ar dai, addysg a gofal iechyd.

Blog gan Jenny Carew.