Astudiaeth Achos: Emily Baldwin

Mehefin 25, 2021

Gwneud cais am rôl y Swyddog Cymunedol a Chyfathrebu.

Dyma stori Emily am weithio gyda Cymru Masnach Deg:

“Roedd fy interniaeth gyda Masnach Deg Cymru’n brofiad hynod werthfawr, ac un sydd wedi bod yn elfennol wrth lunio fy nyheadau gyrfa yn y dyfodol. Roeddwn wedi gorffen fy ngradd meistr ym Mhrifysgol Caerdydd, lle gwnes i astudio Rheoli Cadwyni Cyflenwi Cynaliadwy, ac roeddwn yn gobeithio ennill profiad yn y sector cynaladwyedd. Wedi graddio’n ddiweddar o’r brifysgol, nid oedd gennyf lawer o brofiad gwaith ymarferol ac roeddwn yn teimlo fel bod angen i mi ennill rhai sgiliau proffesiynol i gefnogi fy nghyflawniadau academaidd.

Yn ystod fy astudiaethau, roeddwn wedi canolbwyntio’r rhan fwyaf o’m gwaith o amgylch cynaladwyedd cymdeithasol ac amgylcheddol ac wedi ysgrifennu am Fasnach De gar gyfer fy nhraethawd estynedig israddedig. Dwi wedi byw yng Nghymru erioed, ac roeddwn yn falch mai hi oedd y Genedl Masnach Deg gyntaf, felly roeddwn yn teimlo y byddai gweithio i Masnach Deg Cymru’n brofiad cyffrous a gwobrwyol.

Roeddwn yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Digwyddiadau Cynadleddau Rhyngwladol. Prif ddiben fy rôl oedd cefnogi gweithredu a chynllunio Cynhadledd Trefi Masnach Deg Ryngwladol 2019. Roeddwn yn rhan o gynorthwyo gyda gwaith amserlennu a chyfathrebu, rheoli ceisiadau am gadw lle ac ymholiadau gan ddirprwyon, gan wneud rhai tasgau rheoli’r cyfryngau cymdeithasol.

Yn ogystal, roeddwn yn gallu defnyddio fy sgiliau dylunio i greu deunyddiau marchnata a brandio ar gyfer y gynhadledd ryngwladol. Roedd fy rôl gyda Masnach Deg Cymru’n hynod amrywiol, ac yn ystod yr 11 wythnos y treuliais yno, roeddwn yn gallu dysgu amrywiaeth o sgiliau newydd.

Roeddwn yn gallu cwrdd â phobl o bedwar ban byd, yr oedd llawer ohonynt yn perthyn i sefydliadau y byddem yn dwlu gweithio iddynt yn y dyfodol. Drwy gydol y profiad, cefais lawer o gyfrifoldeb ac roeddwn yn teimlo ar unwaith fel yr oedden yn aelod pwysig o’r tîm.

“Mae Masnach Deg Cymru wedi fy nysgu i gredu ynof fi fy hun a’m galluoedd. Gwnaeth y gefnogaeth a gefais yno newid fy ngolwg o’r dyfodol”.

Mae wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu a rheoli amser, oherwydd yr oedd yn angenrheidiol cadw at derfynau amser gan sicrhau bod fy ngwaith o’r safon uchaf. Mae pawb ym Masnach Deg Cymru’n hynod gyfeillgar a chefnogol ac roedd yn lle llawn hwyl a hapus i weithio.

Mae’r profiad wedi gwella fy hunanhyder yn fawr oherwydd yr oedd yn cael fy nghefnogi o hyd ac roeddwn yn teimlo fel bod fy mewnbwn yn werthfawr. Rwyf wedi gwneud ffrindiau am oes yn sicr.

Mae’r interniaeth hon wedi fy ngwneud hyd yn oed yn fwy penderfynol o olrhain gyrfa yn y sector cynaladwyedd, oherwydd roedd y profiad cyfan yn hynod ddiddorol ac yn wobrwyol.

Roedd y bobl y gwnes i gwrdd â nhw ar hyd y ffordd yn wych, a hoffwn gael y cyfle i weithio gyda rhai ohonynt eto yn y dyfodol. Mae gweithio i Masnach Deg Cymru wedi fy nysgu hyd yn oed mwy am fy ngwlad enedigol a diwylliant a gwerthoedd Cymru, rhywbeth nad oeddwn yn disgwyl iddo ddigwydd.
Rwyf wedi penderfynu yr hoffwn aros yn byw ac yn gweithio yng Nghymru a dwi’n frwd dros gefnogi busnesau Cymru a’r bobl sy’n byw yma. O ganlyniad i gysylltiad y gwnes i wrth weithio ym Masnach Deg Cymru, gwnes i sicrhau swydd ran-amser gyda sefydliad cynaliadwy arall yng Nghaerdydd ac yna symud ymlaen i gael swydd gyda PHASE”.

“Petai rywun am wirfoddoli gyda Masnach Deg Cymru, byddwn yn dweud wrtho am fynd amdani heb os. Byddwn yn ei wneud i gyd eto petawn i’n gallu. Ond byddwch yn barod…byddwch byth am adael!”.