Gweithio gyda Masnach Deg Cymru – Stori Emina

Mehefin 29, 2021

Mae eich Cydlynydd Digwyddiadau a Chymorth yn ein gadael ar ôl dwy flynedd, dyma ei phrofiad:

“Pan welais y swydd yn cael ei hysbysebu gyda Masnach Deg Cymru, cefais atyniad ati. Nid oedd fawr o wybodaeth gen i am y sefydliad na’r achos ond roeddwn yn gwybod y byddai eu cefnogi i hyrwyddo’r symudiad yn foddhaus.

Yn flaenorol, roeddwn wedi cynnal brecwast Masnach Deg mewn sefydliad arall gan wisgo’r siwt fanana ‘honno’ i groesawu cerddwyr yn ystod y Ffordd Masnach Deg.

Roedd y swydd yn gweddu fy ngwaith llawrydd ac yn apelio i’m hymdeimlad o hawliau dynol,cyfiawnder cymdeithasol a thegwch. Mae’n sefydliad sy’n gwneud da ac yn rhywbeth roeddwn am fod yn rhan ohono.

Roedd cyflwyno cais am y swydd a chael y swydd gyda Masnach Deg Cymru fel bod yn ôl ym myd y sector elusennol ac rwyf mor falch o ddweud ei bod wedi talu ei ffordd. Dyma’r sefydliad mwyaf hyfryd a chefnogol yr wyf erioed wedi gweithio iddo a chefais fy nghroesawu o’r cychwyn cyntaf.

Dwy flynedd yn Cymru Masnach Deg 

Yn ystod y ddwy flynedd rwyf wedi gweithio i Masnach Deg Cymru, rydym wedi cyflawni llawer. Rwyf wedi meithrin fy ngwybodaeth a’m profiad ac wedi tyfu fel unigolyn – mae hynny’n rhywbeth i fod yn falch ohono.

Mae wedi bod yn wych dod i adnabod cymunedau a chymeriadau Masnach Deg Cymru, y DU, yr Alban ac ymhellach. Mae’r sector yn gweithio’n galed ac yn rhoi’r bobl mae’n eu cefnogi wrth wraidd popeth.

Rwyf wedi mwynhau fy amser mas draw yn y sefydliad, hyd yn oed yn ystod pandemig a chynhadledd ryngwladol dridiau. Mae wedi bod yn dda i’m henaid.

Diolch Masnach Deg Cymru a Hwb Cymru Affrica”.

Uchafbwyntiau

Rwyf wedi gwneud popeth o gael ffotograff mewn eco-arch, gwneud dawns limbo dan ysgubell a gyrru Jenipher, cynhyrchwr coffi o Wganda, i’r Barri am de prynhawn. Yn ôl pob tebyg, rwy’n “yrrwr chwim”, diolch Jenipher.

Mae rhai uchafbwyntiau’n cynnwys rhai digwyddiadau rwyf wedi helpu eu trefnu, gan gynnwys y Gynhadledd Trefi Masnach Deg Ryngwladol a oedd yn waith caled ond yn llwyddiant aruthrol gyda thros 250 o ddirprwyon o 41 o wledydd. Gwnaeth atgyfnerthu pam mor bwysig y mae Masnach Deg i’r bobl sy’n ei gefnogi a’r gwaith hanfodol sy’n cael eim wneud.

Roedd defnyddio cyfrif Twitter Neville Southall yn ystod yr ymgyrch Nestlé yn brofiad gwych hefyd, yn rhyngweithio gyda llawer o bobl newydd a lledaenu’r neges Masnach Deg i blatfform o oddeutu 200,000 o bobl, sy’n hynod frwdfrydig dros siocled Masnach Deg.

Cymryd rhan gyda Masnach Deg

Mae’n hawdd meddwl yn fwy am Fasnach Deg. Chwiliwch am y nod ar y cynnyrch a rhoi cynnig arnynt. Rwy’n addo i chi, mae Divine a Tony’s Chocoloney wiry n well na siocled arall. Gwariwch yn foesegol os gallwch chi, mae’n ffordd wych o gefnogi’r achos.

Hefyd cadwch lygad am Bythefnos Masnach Deg yn eich ardal leol, mae rhywbeth i gymryd rhan ynddo bob tro a gall fod cyfleoedd mewn grwpiau lleol hefyd.

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr Cymru Masnach Deg a’u dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd.